Addas ydy sôn am rai o’r cerddi a ddewiswyd gan banel Cerdd Dant Gŵyl Blaenau Ffestiniog a’r Fro. Sbel go lew yn ôl bellach, bu criw bychan wrthi’n ddiwyd, dan gadeiryddiaeth Nia Rowlands, Llanelltyd, yn dewis cerddi a cheinciau ar gyfer eu cyflwyno yn yr Ŵyl. Bu i ni benderfynu cael dipyn o flas lleol iddyn nhw, ac mewn ardal mor gyfoethog o feirdd a cherddorion, doedd hynny ddim yn ormod o dasg.
Un fu’n gymorth amhrisiadwy efo dewis ceinciau oedd Elin Angharad Davies, Bryniau Defaid, Ysbyty Ifan. Yn ogystal â bod yn gerddor dawnus, cynigiodd Elin gerdd fechan hynod addas ar gyfer y Parti Unsain Oedran Cynradd ...
CHWYRNU:
Mae sŵn byddarol yn tŷ ni
A’r waliau i gyd yn crynu.
Be goblyn ydi’r twrw mawr?
Mam bach; dwi bron â drysu!
Ai cyfarth Mot y ci a glywn,
Neu’r bwji’n paldaruo?
Ai’r gath a’i chanu grwndi sydd
Yn rhwystro pawb rhag clwydo?
‘Does bosib fod y ‘sgodyn aur
Yn creu dim mwy na swigod?
A phethau tawel a di-stŵr
Yn ôl pob sôn yw llygod!
Dwi’n gorwedd yn fy ngwely
Yn methu’n lân a chysgu.
Mae’r sŵn yn mynd yn uwch ac uwch..
“Hei dad: Plîs stopia chwyrnu!!
Un o gerddi Gwyn Thomas ddewiswyd ar gyfer yr unawdwyr oedran uwchradd. Daeth Alma Dauncey-Roberts, Dolwyddelan o hyd i hon -
YN DDA IAWN O DDIM:
Mae’r gwynt ar y gweundir yn hen, hen wynt,
mae’r brwyn yno’n grwm fel yr oedden nhw gynt
fydoedd yn ôl wedi cynnwrf y grym
a greodd y cwbwl yn dda iawn o ddim.
Dewiswyd un o gerddi grymus Dewi Prysor ar gyfer yr unawdwyr dan 21 oed. Fel yr eglura Dewi’n y rhifyn cyfredol o ‘Allwedd y Tannau’:
‘Thema gyson yn chwedloniaeth y Cymry, fel yn natur ei hun, ydy dadeni ... a dyna a geir yma.’
Fe gyflwynodd Gai Toms y gerdd ar un o’i gryno-ddisgiau beth amser yn ôl. Ac ie, cainc Siân James – ‘GARDDEN’ ydy’r un a ddewiswyd gan y Panel. Robert John Roberts (gynt o’r Manod) a awgrymodd y dewisiad addas yma.
Y PENBLWYDD:
Pryd mae dy ben-blwydd, fy mawnog ddiddarfod,
Ti sydd â’r glaw a’r haul yn dy fru?
Pan gerddodd y gwynt dros ruddiau Arianrhod
Y’m ganwyd, o’r ddrycin i’r erwau hy....
Mewn cerdd fach hoffus i gofio Merêd, mae Dewi ‘Pws’ Morris yn sôn am yr ymwneud cartrefol a chyfeillgar a gafodd gan un arall o arwyr ein bro a’n cenedl. Y gainc ‘TRWYN Y GARNEDD’ ddewiswyd – a gyflwynodd un o’n beirniaid, Menai Williams, Bethesda rai blynyddoedd yn ôl i Meinir Boyns [y bu ei gŵr a hithau’n hael iawn eu cefnogaeth i’r Ŵyl]:
Mae’th ganeuon yn dal ar yr awel,
Hen alawon o’r dyddie fu gynt,
Yn atseinio yn dawel rhwng bryniau dy gwm
Fel sibrydion ar adain y gwynt...
Efallai cawn gwrdd yn Afallon,
Harmoneiddio ger fflamau y tân,
A hiraethu am hen ffordd ddiniwed o fyw,
A gwenu wrth gofio y gân...
Bu nifer o bartïon yn cyflwyno cywydd ardderchog y Prifardd Idris Reynolds i ‘GWYN THOMAS’ a'r corau’n cyflwyno’r cywydd a gyfansoddais innau i GWM CYNFAL – ‘a lwyfannodd rai o ddigwyddiadau Pedwaredd Cainc y Mabinogi’.
Mae’n berthnasol iawn fod y deuawdwyr oedran uwchradd yn cael cyflwyno clasur yr Athro W. J. Gruffydd - ‘CERDD YR HEN CHWARELWR’ (sy’n rhan o’n cynhysgaeth fel cenedl) ... a hynny ar gainc hyfryd y delynores a’r cerddor sy’n enedigol o’r Llan - Mona Meirion - ac yn un o’n his-lywyddion anrhydeddus - ‘MAESGWYN’.
Bachgen dengmlwydd gerddodd ryw ben bore,
Lawer dydd yn ôl, i gwr y gwaith;
Gobaith fflachiai yn ei lygaid gleision
Olau dengmlwydd i’r dyfodol maith...
Dewiswyd dwy o geinciau Einir Wyn Jones hefyd - un arall o blant y fro - eto’n un o’n his-lywyddion a’n beirniaid, sef, ‘TIR Y CWMWD’ ar gyfer geiriau’r diweddar Alun ‘Sbardun’ Huws am Benrhyndeudraeth - ‘STRYDOEDD ABERSTALWM’, a’r llall, ‘GLAN Y MÔR’ ar gyfer y corau agored:
Rhwng y môr a’r mynydd ymhell bell yn ôl
ar noson braf yn y gwanwyn, -
yr hogia ar y sgwâr yn eu sgidia roc a rôl,
a bys Pwllheli ar gychwyn.
Daw’r goleuadau ymlaen fesul un,
mae’n glyd ym mar cefn y ‘Roial’,
dwi’n gweld yn glir lawr y llwybr hir
i strydoedd Aberstalwm.
Dewiswyd cerddi gan ddau arall a fagwyd yn ‘Stiniog, sef y diweddar Barchedigion Gareth Maelor a T. R. Jones. ‘EMYN PRIODAS’ gan Gareth Maelor ydy’r dasg a osodwyd i’r deuawdwyr dros 21 oed ac emyn 777 yn ‘Caneuon Ffydd’ ... ‘YNG NGHYFFRO’R GWANWYN ...’ o waith ‘T. R.’ i’r triawdau/ pedwarawdau.
-------------------------------
Rhan o erthygl Iwan Morgan, a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2018.
(Llun Paul W)
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon