5.10.15

Pobl Stiniog ym Mhatagonia

Pennod 3 yng nghyfres Steffan ab Owain ar hanes pobl Blaenau Ffestiniog yn y Wladfa.

Er nad oedd Griffith Griffiths (Gutyn Ebrill) yn enedigol o ‘Stiniog bu’n byw yn ein cymdogaeth am nifer o flynyddoedd cyn ymfudo i’r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia. Un o gyffiniau Dolgellau ydoedd yn wreiddiol a chredaf iddo gael ei eni yn nhafarn Cross Foxes, nid nepell o’r Brithdir, yn y flwyddyn 1828.

Pan yn ddyn ifanc prentiswyd ef yn asiedydd coed a daeth yn grefftwr medrus yn y gwaith hwn. Roedd hefyd yn fardd pur dda ac yn llythyrwr cyson yn y newyddiaduron Cymreig. Credaf mai yn 1862 y symudodd ef a’r teulu i fyw i Bant yr Ynn yn ‘Stiniog yma. Cyn hynny, buont yn preswylio’n Brithdir, Lerpwl a Threffynnon. Oddeutu 1865 penodwyd Gutyn Ebrill yn oruchwyliwr ar Chwarel y Foelgron ar y Migneint a symudasont fel teulu i fyw i dŷ o’r enw Glan Dubach a safai gynt wrth lan deheuol Llyn Dubach y Bont.

Yn ystod y cyfnod y bu’n byw yno dechreuodd gadw Ysgol Sul yn ei gartref yng Nglan Dubach. Traddodwyd y bregeth gyntaf yno gan y Parchedig Michael D. Jones, y Bala, a’r adeg honno byddai’r naill a’r llall yn ymweld â’i gilydd i drafod a sgwrsio am y Wladfa. A serch fod y bardd yn gefnogwr eiddgar i’r Mudiad Gwladfaol o’r cychwyn cyntaf, yn 1881 y penderfynodd ymfudo i Batagonia. Yn dilyn y newyddion am ei fwriad, gwnaed tysteb iddo gan ei gyfeillion ac ar ddiwedd y flwyddyn hwyliodd ef a’i deulu drosodd i’r Wladfa er chwithdod mawr i’r ardal ar eu holau.

Pan laniwyd yr ochr arall i’r byd, cafodd brofiad chwerw ym marwolaeth ei ferch ieuengaf, Nest, yn chwech oed, ar ôl wythnosau o gystudd blin. Roeddynt eisoes wedi colli Elen eu merch tra yn byw yn y Foelgron. Dyma sut y canodd ar ei hôl hi.

   Ein gweld gyda’n dilydd – mewn iach hwyl
     Ni cheir ym mhen mynydd,
   Byth eto’n rhodio’n rhydd
   Ar ran o hen Feirionnydd.’


Wedi ymsefydlu yn y Wladfa, buan y daeth yr ymsefydlwyr i wybod amdano drwy ei gymwynasau a’i weithgareddau. Ychydig cyn iddo fynd drosodd i Batagonia cafodd femrwn seliedig gan Gwilym Cowlyd yn rhoi hawl iddo gynnal Gorsedd y Beirdd yno. Gwnaed hynny ganddo, ac o’r diwrnod hwnnw hyd ei farw, ef oedd Archdderwydd y Wladfa. Yn wir bu’n eisteddfodwr selog ar hyd ei oes, a bu’n arwain nifer o eisteddfodau yng Nghymru yn ogystal a rhai drosodd yn y Wladfa.

Llun- Paul W


Fel y dywedwyd eisoes, roedd yn saer celfydd iawn a phan oedd y Cymry’n sefydlu tref newydd yn Sance Corto adeiladodd lawer o dai iddynt yno, a chododd bont gadarn o goed dros y Gamwy. 

 

Dywedir fod amryw o’r adeiladau a gododd yn y Wladfa yn aros yn addurn iddo hyd heddiw. Pan yn hen ŵr cafodd flasu’r melys a’r chwerw mewn bywyd oherwydd daeth ei fab, y bonwr H. Griffith, yn ŵr blaenllaw iawn yn y Wladfa ond agorwyd y graith yn ei galon y trydydd tro pan fu farw ei ferch Gwladus Gruffydd Edwards.


Bu Gutyn yntau farw yn ei gartref, Llwyn Ebrill, ar Fedi 9, 1909 yn 81 mlwydd oed. Claddwyd ef ym Mynwent y Gaiman, ac yn ôl pob son, cafodd un o’r angladdau mwyaf a welwyd yn y Wladfa Gymreig.

Dyma’r englyn -gan Bryfdir- sydd ar ei garreg fedd:

   O’i Walia hoff ar wely hedd - obry
        Gutyn Ebrill orwedd;
  Â briw gân myn bro Gwynedd
  A’i Wladfa wylied ei fedd.

 
------------------------


Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 1995, yn y golofn Stolpia.
Dilynwch y gyfres gyda'r ddolen 'Patagonia' isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
 

1 comment:

  1. Vivian Parry Williams20/2/16 16:18

    Stori dda, wedi ei chofnodi'n ardderchog, fel y disgwylid gan hanesydd o safon Steffan ab Owain.

    ReplyDelete

Diolch am eich negeseuon