Dychwelwn i bori yn Llyfr Taith Nem, hanesion rhyfeddol Nem Roberts, Rhydsarn yn ‘Merica ddechrau’r ganrif dd'wytha.
Fel y dywedais yn y bennod flaenorol mentrais ar antur newydd sbon, ac mae’n debyg fy mod yn ffodus fy mod wedi llwyddo ohono yn holl iach. Dyma beth ddigwyddodd. Penderfynais droi fy llaw fel morwr, a chefais waith fel ‘Pumpman’ ar dancar olew oedd yn morio o Philadelphia i Fecsico. Pan ymgeisiais am y gwaith, fe ofynwyd ychydig o gwestiynau i mi, a gan fy mod yn feistr ar ‘bluff’, derbyniwyd fi.
Y ffaith ydyw na wyddwn ddim o gwbl am y gwaith, ac erbyn i mi fyned ar fwrdd y llong, deallais mai fi oedd i ofalu am yr holl beiriannu ar y bwrdd, i godi a gostwng yr angor, y saer coed a’r trydanwr. Os oeddwn yn gwybod dim am waith pwmp, yr oeddwn yn gwybod llai na hynny am drydan, ond nid oedd dim i’r wneud ond mentro, doed a ddêl.
Dywedwyd wrthyf fod angen balast i’r llong cyn myned i ddyfnder môr. Wyddwn i ddim amser hynny beth oedd balast, heb son am sut i’w drin. Dywedodd wrthyf am roi pymtheng troedfedd o ddŵr yn rhai o’r tanciau cyn mynd o afon Delaware i fôr yr Iwerydd. Wedi cael y gorchymyn bron i mi neidio oddiar y bwrdd gan nad oedd gennyf unrhyw syniad sut i wneud y gwaith.
Gofynnais i amryw o’r criw am gyngor. Dywedodd pob un ohonynt mai’r peth gorau allaswn wneud oedd cyfaddef wrth y mêt na wyddwn ddim am y gwaith. Gwyddel oedd y brawd, ac mewn dull dihafal morwr, rhegodd fi yn ddiddiwedd. Am unwaith bum yn weddol ddoeth, a gadewais iddo gario ymlaen nes yr oerodd ei dymer. Ond yr oedd yn dipyn o demtasiwn i’w ateb yn ôl gydag ambell reg Gymreig. Mi oedd yn rhy hwyr i’m sacio, gan fod y llong yn rhy bell ar ei thaith, a chware teg iddo, aeth ati i’m dysgu sut i redeg y pympiau. Buasai yn well iddo pe tae wedi fy nhaflu i’r môr, oherwydd mi wnes lanast ofnadwy.
Ar yr Iwerydd, cyfeiriasom tua’r Caribi. Wedi llenwi y tanciau gyda’r olew, cychwynasom am Cuba, ac ar y daith gorchmynwyd i mi droi ager i’r tanciau olew i gadw’r tymheredd oddeutu 70°. Yr oedd yn eithafol o boeth a’r capten a’r ‘mate’ mewn tymer ddrwg, a phawb yn taflu gorchmynion. Wyddwn i ddim ar bwy i wrando, ond un gorchymyn oedd i gael y pwmpiau i droi yn gynt a chodi y pwysau o 99 pwys i 150 pwys. Yr amcan oedd gorffen y gwaith yn fuan, ond y canlyniad oedd fod y pwysau yn taro’n ôl a thori pinnau y pwmpiau. Rhwng gwres y dydd a thymer pawb yn poethi a’r ager yn dianc yr oedd yn gyffelyb i Gehena.
Wedi dweud wrth y mêt lle i roddi ei olew, a dweud na fuaswn yn poeni dim pe tae ef a’r llong a’r criw yn suddo y foement honno, maddeuodd imi yn drugarog iawn, a rhoddodd fi ar y gwaith o bwmpio balast i’r llong drachefn. Yn anffodus, rhywsut neu gilydd syrthiais i drwmgwsg, a’r pwmpiau yn dal i bwmpio dŵr hallt i’r tanciau, ac yn fuan aeth y dwfr hallt a’r olew yn gymysgedig, trwy yr ‘hatches’ a gorflifo’r bwrdd o’r pen blaen i’r tu ôl.
Dyna yr olygfa mwyaf dychrynllyd welodd neb eiroed ar fwrdd llong. Os oedd y ‘mate’ wedi gwylltio ynghynt, yr oedd wedi gwylltio gan-gwaeth y tro yma. Y capten ac yntau yn gwaeddi ar draws eu gilydd a morwyr yn rhedeg i bob cyfeiriad, a’r olew budr yn llifo i bob man. Rhaid oedd glanhau, chrafu a phaentio y llong i gyd oherwydd y gorlifiad.
Heb amheuaeth bu i mi fod yn gyfrifol am gannoedd o bunnau o golled i’r cwmni. Anhawdd ydyw coelio, ond maddeuwyd imi eto, a phenderfynnais ddysgu y gwaith yn iawn, a hwyliasom i Jacksonville, Florida ac yn ôl i Tampico, ac oddiyno i Matanas, Manzallino a phorthladdoedd eraill yn Cuba, ac hefyd i Houston, Texas. Arhosais ar y llong am dri mis, ond cefais ddigon ar fywyd morwr, ac mae’n debyg i’r criw gael digon arnaf finnau.
Arferwn ddweud yr hanes wrth hen beiriannydd llongau oedd wedi ymddeol yn ‘Stiniog, a phob amser y cyfarfyddai a mi pan fyddwn drosodd ar wyliau, yr un oedd ei eiriau “Wn i ddim sut ddiawl wyt ti’n fyw”. Wedi gadael y llong dychwelais i Gymru am seibiant, ac os bu rhywun eisiau seibiant rhyw dro, y fi oedd hwnnw ar ôl un o drychinebau mwyaf ddigwyddodd i unrhyw forwr erioed.
--------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 1998. Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y cwmwl geiriau ar y dde.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon