31.10.15

Penblwydd Hapus Llafar Bro!

Erthygl dudalen flaen rhifyn Hydref 2015, gan Tecwyn Vaughan Jones. 

Llafar Bro yn 40 oed y mis hwn!
Cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf ym mis Hydref 1975 - digwyddiad hanesyddol yn wir gan mai dim ond chwe phapur bro arall oedd yng Nghymru ar y pryd a’r rheini newydd gychwyn (erbyn heddiw mae 59 ohonynt ledled Cymru ac un yn Lloegr).

Roedd Llafar Bro yn un o’r papurau oedd yn gosod y safon o fewn mudiad poblogaidd hwn i sefydlu papurau bro Cymraeg yng Nghymru. Pris y copi cyntaf oedd 7 geiniog, ac am 50c heddiw mae’n dal i fod ymysg y papurau bro rhataf yn y wlad. Roedd cyhoeddi papur bro bryd hynny yn waith llafurus a dibynnai’n arw ar wirfoddolwyr a helpwyr o bob math. Rhaid wrth dîm i osod y papur ac mae Dafydd Roberts yn son yn y rhifyn hwn [i ddilyn yn fuan ar y wefan- Gol.] am y gwaith manwl hwnnw. Roedd angen rhaniad llafur sylweddol … roedd pawb a’u swydd a bryd hynny roedd fflyd o ddosbarthwyr oedd yn mynd rownd y tai yn gwerthu.

Mae’r papur yn dal angen dosbarthwyr ym mhob cwr o’r ardal gan mai hon yw’r ffordd orau i werthu a chael y papur i sylw’r ardalwyr. Bellach mae’r wasg yn gosod y papur a does dim rhaid torri gyda siswrn na gludo a phastio. Diolch i’r unigolion hyn am eu gweledigaeth, eu menter a’u hyder. Bellach mae’r deugain mlynedd o Lafar Bro, sef 443 o gopïau, yn gofnod pwysig o hanes cymdeithasol y dref a hir y pery i gyhoeddi y deunydd hwn a ddaw i law yn fisol a da chi bobl y Fro hon cyfrannwch fel y mynnoch, papur y bobl ydy o o hyd. Mae'n cynnig gwledd o ddarllen drwy gyfrwng y Gymraeg, ein hiaith a’n hetifeddiaeth hynod werthfawr.

Ysywaeth mae nifer o arloeswyr 1975 wedi ein gadael ond isod cyhoeddwn y golygyddol cyntaf (geiriau proffwyd oedd reit agos at ei le!) a rhestrwn enwau'r swyddogion cyntaf.  TVJ


Llywydd: Ceryl Wynne Davies; Ysgrifennydd: Merfyn Williams; Trysorydd: John R. Jones; Golygyddol a Gohebwyr - Blaenau: Emlyn Williams, Bryn Myfyr; Tanygrisiau: Elwyn Griffiths, Trawsfynydd: Trefor Humphreys; Llan: Gloria Davies; Manod: Marian Roberts (sy’n dal i gasglu newyddion Manod heddiw a llongyfarchiadau mawr iddi hi! Roedd Marian a’i phriod Dafydd yn ddau o sefydlwyr y papur)

Hydref 1975
"Wel, dyma fo, y rhifyn cyntaf o LLAFAR BRO. Wedi nosweithiau o drin a thrafod; o drefnu a chynllunio, rhannu’r fro a chael dosbarthwyr, caiff y pwyllgor deimlad o foddhad wrth godi’r copi cyntaf o’i wely. 

Mae eisoes hanner dwsin o bapurau misol Cymraeg wedi eu cychwyn yng Nghymru, a hynny yn ystod y flwyddyn, ac mae eraill ar y gweill. Cawsant i gyd gefnogaeth dda, cefnogaeth sy’n cynyddu gyda bob rhifyn. Gyda rhai eithriadau, ieuenctid sydd yn ymdeimlo a’r angen am gyhoeddiadau o’r fath, a hwy yw’r gweithwyr. Mae’r un peth yn wir am LLAFAR BRO. Os bydd gweithgarwch yr ieuenctid hyn yn gyfartal i’w brwdfrydedd, bydd oes hir i’r papur misol hwn. 

Diau fod y cyhoeddiadau hyn yn anghenraid amserol. Bu farw peth wmbredd o bapurau oedd yn rhoi newyddion lleol, lleol. Prin y gellir disgwyl i bapurau newyddion sy’n gwasanaethu hanner y wlad a mwy, allu rhoi sylw manwl i ddigwyddiadau bro (dibwys iddynt hwy) a phrin y cyhoeddent erthyglau na llythyrau am ddigwyddiadau nad ydynt o ddiddordeb i neb dros orwel eu bro. Ond y maent yn bwysig i’r FRO. A dyna pam y credwn y bydd cip ar y papur hwn. 

Mae lle i gredu bod mwy wedi gadael y Blaenau a’r Cylch yn ystod y deng-mlynedd- ar-hugain diwethaf, a hynny o orfod, nag a adawodd unrhyw dref o’i maint yng Ngogledd Cymru, ac awn ar ein llw y bydd 99 y cant o’r cyfeillion hynny am brynu’r papur, am nad yw cariad at, na diddordeb yn, eu bro enedigol yn oeri yn eu calonnau byth. 

Lle felly yw’r fro hon, o Drawsfynydd i Dalwaenydd - gallant hwy fynd o’r fro, ond â’r fro ohonynt hwy byth. A welsoch chi sticeri’r ceir? ‘Cefnogwch Llafar Bro’.  Babi newydd yw hwn, ac fel pob baban mae am fynnu ei le ar yr aelwyd, a phwysicach na hynny, mae pob baban yn tyfu o fis i fis, nes dod i’w lawn dwf. Dyna, mi obeithiwn fydd tynged LLAFAR BRO."

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon