Gwaith difyr yn aml yw pori mewn hen bapurau newyddion, ac wrth wneud hynny gall rhywun daro ar ambell i hanesyn neu ddigwyddiad diddorol iawn.
Pan fu gy nghyfaill Vivian P. Williams, y Blaenau, wrthi beth amser yn ôl, tarodd ar hanesyn am rai wedi mynd i lawr i Faentwrog i botsio samons, a’r ciperiaid yn dod ar eu gwarthaf. Dyma’r hanes fel y’i ceir ym Maner ac Amserau Cymru, y 5ed o Fawrth, 1879. Ar wahan i’r digwyddiad ei hun, mae y dull o gyflwyno yr hanes yn ddiddorol, ac yn ddigrif mewn mannau.
“Ymladdfa Ffyrnig ar Lannau’r DdwyrydYr adeg hynny roedd stâd Tan-y-bwlch yn dal yr afon Ddwyryd, ac am ei chadw iddynt eu hunain. Yr adeg hynny, hefyd, roedd digonedd o eogiaid a sewin yn yr afon, fel mewn afonydd eraill. O sylwi ar ddyddiad yr hanesyn yma, sef mis Mawrth, mae hi’n amlwg fod yna bysgod yn dod i’r afon yn gynnar iawn yn y tymor, a’i bod hi felly’n werth i’r ‘herwhelwyr pysgodawl’ yma fynd ar gyrch i’r afon. Credai llawer yr adeg hynny, efallai fod llawer yn dal i gredu hynny hyd heddiw! – fod pysgod yn eiddo cyffredin i’r werin. Fel y dywedodd un o hen drigolion ardal, “Cwpwrdd y dyn tlawd yw’r afon.”
Nos Wener, neu yn gynnar fore Sadwrn cyn y diweddaf, bu ymladdfa dost rhwng rhyw bump ar hugain o herwhelwyr pysgodawl, a thua phymtheg o geidwaid helwriaeth ac eraill o’u cynnorthwywyr o dŷ Mr Oakeley, Tan y Bwlch, ger llaw i ddolydd y Llechrwd, a Glan yr Afon, yn nyffryn tlws Ffestiniog. Saethwyd ergydion meddid o’r ddeutu, i geisio dychrynu y naill y llall. Ond â ffyn y bu’r ymladdfa fawr, nes y bu agos i benglogau un neu ddau o’r ceidwaid gael eu malu yn dost. Pur ddrwg y daliai archollion un ceidwad o Sais i fyny i ddiwedd yr wythnos, a deallai oddi wrth ei feddyg, G.J. Roberts, Ysw., nad oedd allan o berygl am ei fywyd. Gresyn ofnadwy fod y fath gyflafan a hyn yn digwydd yng “ngwlad yr Efengyl”. Fawr gwell na’r Indiaid Cochion tu draw i’r môr.
Y mae yn debyg i nifer o’r poachers gael eu hanafu, ond ni ddyweid iddynt hwy orfod galw am feddygon, trwyddedig felly, rhag y byddai eu hwynebau yn haws i’w hadnabod na’r hetiau a gollasant yn y ffrwgwd.”
Diolch i Vivian am godi’r hen hanes diddorol yma ar gyfer y golofn. Melys moes mwy.
Rhai blynyddoedd yn ôl bellach cefais nifer o blu sewin wedi eu cawio gan Illtyd Griffiths o Aberystwyth. Mae yna un-ar-ddeg yn y casgliad. Plu ydynt sy’n cael eu defnyddio yn afonydd canolbarth Cymru, yr afonydd Rheidol, Teifi, Tywi ac eraill. Maent yn gasgliad diddorol, ac yn amrywio yn eu maint ac yn eu patrymau. Du ac arian yw’r ddau liw mwyaf amlwg ynddynt. Yn naw o’r un-ar-ddeg pluen mae arian yn eu cyrff, y corff i gyd yn arian neu yn rhannol. Mae du yn amlwg iawn, yn y corff, y traed a’r adain. Nodwedd arall yn y plu yma ydi rhoi bach trebl bychan yn sownd yng nghwt y bluen hefo gyt cryf. Dywedir fod hyn yn help i gael bachiad pan mae’r sewin yn pinsio, fel y dywedir. O’r un-ar-ddeg pluen yma y mae chwech ohonynt â’r bach trebl bychan wrth eu cwt. Oes yna rywun yn defnyddio plu hefo bachyn trebl wrth sgota am sewin yn Afonydd Dwyryd a Glaslyn, tybed?
Ymhlith y plu yma y mae yna un sy’n cael ei galw’n ‘Allrounder’. Creadigaeth Illtyd Griffiths yw hon, ac mae yna ganmol mawr arni yn llyfr Moc Morgan ar batrymau plu ar gyfer afonydd a llynnoedd Cymru.
Dyma’r patrwm. Efallai fod yna rywun o’r ardal yma awydd rhoi cynnig ar y bluen yma yn ein hafonydd ni.
Bach: Maint 6 ac 8
Cynffon: Pluen felen oddi ar war ffesant euraidd
Corff: Blewyn morlo wedi’i lifo yn ddu. Rhoi cylchau o eda arian amlwg amdano.
Traed: Ceiliod du
Adain: Blewyn wiwer wedi’i lifo yn ddu, a blewyn wiwer wedi’i lifo’n goch drosto. Yna, dros y cwbl, rhoi cynffon paun gwyrdd (y rhan a elwir yn ‘sword’) Gorffen y bluen drwy roi pluen ddu a gwyn ceiliog y gwyllt bob ochr i lygad y bach fel dwy lygaid.
Yn ôl fel yr ydw i’n deall does dim caniatad yn afonydd canolbarth Cymru i ddefnyddio cynrhon ar blu pan yn pysgota am sewin, felly plu yw y rhain ar gyfer eu pysgota yn ddi-gynrhon.
---------------------------------------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 1998. Gallwch ddarllen erthyglau eraill Sgotwrs Stiniog gyda'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon