27.10.15

Rhod y Rhigymwr -Hafau Meifod

Iwan Morgan yn dychwelyd i Faldwyn eto'r mis yma.

Bu Awst yn fis prysur. Cafodd Alwena a minnau fordaith hynod gofiadwy o gwmpas Ynysoedd Prydain yng nghwmni’n ffrindiau, Bryn a Gwenan a Phil a Janet, ac yn syth ar ôl dychwelyd bron, daeth Eisteddfod Meifod, lle cefais y fraint unwaith eto o feirniadu’n yr adran Cerdd Dant.

Ar y Sul cyntaf, cafwyd 41 yn cystadlu ar yr unawd o 12-16 oed, pryd y gofynnwyd i’r datgeiniaid gyflwyno cerdd gan Linda Griffiths (Plethyn). Un o gyffiniau Meifod ydy Linda, wrth gwrs, a cherdd yn nhafodiaith Maldwyn a de Meirionnydd ydy ‘Lle ti’n dod o?’ Addaswyd fersiwn ar gyfer mab a merch – neu ‘cog’ a ‘lodes’ fel y nodir. Gan mai yn y dafodiaith honno y cafodd Alwena Roberts, fy nghyd-feirniad a minnau ein dwyn i fyny ynddi, hwyrach mai addas oedd fod trefnydd yr Eisteddfod wedi rhoi’r gystadleuaeth i ni’n dau i’w thafoli. 
  
Llun gan Delyth Lloyd
Roedd y safon yn uchel, a’r un a ddaeth i’r brig oedd Modlen Alun, Bryniau Defaid, Ysbyty Ifan.

Roedd dydd Gwener, y 7fed o Awst yn un lloerig o brysur i mi, ond yn un hynod bleserus a chofiadwy. Cefais fy nerbyn i’r wisg werdd yng ngorsedd y beirdd am 11 o’r gloch, ac wedi seremoni urddasol a threfnus, rhaid oedd rhuthro i lawr i’r Pagoda i ragwrandawiad y corau cerdd dant, a’r partïon – 6 ohonyn nhw – yn syth wedyn!

Fel y nodais, wrth draddodi’r feirniadaeth ar y corau o’r llwyfan oddeutu 4 o’r gloch, mae tua 150 o ferched yng nghyffiniau Llangwm a Dinbych yn freintiedig iawn yn cael eu meithrin i gyflwyno cerddi i gyfeiliant y tannau gan ddwy arbenigwraig, sef Rhian Jones a Leah Owen – dwy sydd â gwir weledigaeth a gwir ddisgyblaeth, a dwy sy’n gwneud cymaint i gyfoethogi’n diwylliant yn eu hardaloedd.

Y dasg a osodwyd i’r corau oedd cyflwyno detholiad o Awdl ‘Y Ffin’ gan y diweddar Gerallt Lloyd Owen ar y gainc ‘Seiriol’ gan Gwennant Pyrs. Detholiad Gerallt ei hun ydyw, o’r awdl a enillodd iddo gadair Eisteddfod Powys, pan gynhaliwyd hi yn Llanrhaeadr ym Mochnant yn ôl yn 60au’r ganrif ddwytha. Dydy’r awdl gyfan erioed wedi ei chyhoeddi, ond llwyddodd fy nghyd-feirniad, Owain Siôn i gael gafael arni.

Mae’r awdl yn ymwneud â’r rhan ddwyreiniol honno o Gymru sy’n ‘ffin’ rhwng Powys a Sir Amwythig – rhan o’r wlad a welodd drais a gormes yn ôl yn y seithfed ganrif pan gipiwyd ‘Pengwern’ gan Offa, brenin Mercia – digwyddiad a goffeir yn y cerddi enwog sy’n adnabyddus i ni heddiw fel ‘Canu Llywarch Hen’.

Cyfeirio at y ‘gelyn ysgeler’ ac aberth y ‘gwŷr eofn’ fu’n ‘amddiffyn’ y tiroedd hyn a wna Gerallt, ac yn gorchymyn ar i ni fel cenedl sefyll yn gadarn dros gadw tir y ffin rhag cael ei ysbeilio ymhellach.
Dyma farddoniaeth a nodweddir gan ymdeimlad cryf o Gymreictod a phwyslais ar etifeddiaeth y Cymry i’w hamddiffyn.

Fel y clywsom yn ddiweddar, ar achlysur cyhoeddi ‘Y Gân Olaf’, roedd Gerallt yn gyndyn o ryddhau nifer o gerddi a gyfansoddodd o’i afael, a hynny, mae’n siŵr, am ei fod yn gymaint perffeithydd. Cyn belled â bod yr awdl arbennig hon yn y cwestiwn, credaf fod rhannau ohoni’n braenaru’r tir ar gyfer y campweithiau a welwyd yn ddiweddarach, sef, ‘Cerddi’r Cywilydd’ (Cadair yr Urdd, Aberystwyth 1969) ac Awdl ‘Cilmeri’ (Cadair Prifwyl Abertawe 1982). Cynhwysaf y detholiad i ddarllenwyr y golofn gael ei fwynhau.
Ar hyd erwau di-orwel Amwythig
‘Does ond myth o awel,
A thir mwyn y llaeth a’r mêl
Yn ddi-ddigwydd o ddiogel.

Ai yma y bu’r gaea’ gynt,
A’r drin yn rhu’r dwyreinwynt?
Un bedd diddiwedd oedd hi,
Un llinach yn ei llenwi.
Bu gwrid ar wyneb ei gro,
Hil Llywarch yn ei lliwio.

Yr henwr oedd ddewr unwaith a welaf
Ar orwelion eilwaith;
Yr hen ŵr chwyrn ei araith
Heddiw’n llesg a’i ruddiau’n llaith.

“Gelyn ysgeler sydd yn ein herwau,
Lluman gwŷr eraill ym min gororau;
Am hynny, dos, mae heno dy eisiau,
Amddiffyn derfyn â min dy arfau;
Yn adwyon y deau boed dy lid
Yn gyrru gwrid drwy gerrig y rhydau!”

Ai yma y bu ha’ fy hil,
A nodd yr hedyn eiddil?
Gaeaf hir aeth i gof hon,
Eira i’w gwythi oerion.
Ai fan hyn ‘roedd eofn wŷr
I’w ffin yn amddiffynwyr?

Wedi hen warth mae breuddwyd nerthol,
Wedi hir orwedd, cerdded arwrol;
Ar fin y bwlch terfynol mae gwerin
Yn ail greu ffin ar ddelw’i gorffennol.
Diolch i Owain Siôn ac Elen Ellis, trefnydd yr Eisteddfod, cefais fod yn bresennol ar y llwyfan yn fy ngwisg orseddol i fwynhau defod y cadeirio. Dyfarnwyd cadair hardd Prifwyl Maldwyn a’r Gororau i’r Dr Hywel Griffiths, am awdl neu ddilyniant o gerddi mewn cynghanedd gyflawn ar y testun ‘Gwe’.

Drwy gyfres o olygfeydd, mae’r cerddi’n ‘pendilio rhwng y presennol a’r gorffennol,’ yng ngeiriau Mererid Hopwood, un o’r tri beirniad. Ceir yma daid ar ei wely angau, sy’n cofio’n ôl i gyfnod y Rhyfel Cartref yn Sbaen (1936-39). Ymysg ei themâu, clywn am ‘y cyswllt a fu rhwng y Cymry a’r Sbaenwyr, a’r cydymdeimlad brawdol a arweiniodd gymaint i ymladd yn erbyn Ffasgaeth.’ Os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny, ewch ati i’w darllen a’u gwerthfawrogi. Fel y noda Mererid, byddwch yng nghwmni ‘bardd y llinellau grymus a’r corddwr anesmwyth.’

Mae Hywel yn ddarlithydd yn Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Prifysgol Aberystwyth. Cafodd Alwena a minnau’r fraint o’i gyfarfod yn Neuadd Pritchard-Jones, Prifysgol Bangor, yn gynharach eleni, gan mai ef a ddyfarnwyd yn enillydd ‘Gwobr Goffa Eilir’ gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
-----------------------------------


Rhan o erthygl a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2015. Gallwch ddilyn cyfres Rhod y Rhigymwr efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon