19.10.15

Bwrw Golwg -Tair Cenhedlaeth Pandy'r Ddwyryd

Cyfres achlysurol yn edrych ‘nôl ar rai o gymeriadau a sefydliadau hanesyddol ein bro. Y tro hwn cawn ran gyntaf hanes TAIR CENHEDLAETH PANDY’R DDWYRYD, gan W.Arvon Roberts.

Cychwynnaf hyn o erthygl gyda Lowri Williams, yr Apostol, fel y gelwid hi.  Ganwyd yn y flwyddyn 1704 a threuliodd hi a’i gŵr, John Prichard, y rhan gyntaf o’i hanes yn y Pandy, Chwilog, ond oherwydd ei hymlyniad wrth y Methodistiaid bu’n rhaid iddi droi cefn ar y cartref hwnnw.

Rhybuddwyd i ymadael ac ymsefydlodd Lowri a John ym Mhandy’r Ddwyryd, tŷ sydd erbyn heddiw wedi ei orchuddio gan ddŵr Llyn Trawsfynydd.  “Lle anfanteisiol iawn i fwynhau y moddion a ystyrid mor werthfawr ganddi”, yn ôl Lowri Williams, “ond yr oedd yn rhywle er hynn, a roddai fantais iddi wneud llawer o ddaioni”.

Cynefin Pandy'r Ddwyryd heddiw. (Llun- PW)

Llwyddodd i fod yn gyfrwng i gychwyn Methodistiaeth yn ardaloedd Maentwrog, Trawsfynydd a Phenrhyndeudraeth.

Yn ôl y Parch John Hughes, Lerpwl, awdur ‘Methodistiaeth Cymru’ (1851) bu Lowri Williams yn offeryn i blannu deunaw o achosion, a bu rhaid iddi wynebu llawer anhawster a dioddef erledigaeth drom yn ei hymdrech i oleuo’r werin Gymraeg.

Adroddir am y Parch Thomas Foulkes (1731-1802) o’r Bala yn pregethu un noson yng Ngwylan, cartref John Humphreys, un o’r wyth a arferai gyfarfod yn y Pandy.  Rhuthrodd nifer o erlidwyr i’r tŷ ar ganol gwasanaeth, ac ymaflyd yng ngŵr y tŷ, ac yn Lowri Williams, a’u taflwyd i’r afon gerllaw.  Disgynnodd Lowri ar garreg yn yr afon, ac anafwyd hi gymaint, fel yr aeth adref a’i gwaed yn llifo. 
Roedd gan ei mab gefnder oedd yn gyfreithiwr yn Llundain a gymrodd yr achos i fyny.  Ysgrifennodd lythyr at wraig yn y gymdogaeth a fu â rhan yn yr ymosodiad ar Lowri, i’w rhybuddio y byddai yn ei herlyn mewn llys gwladol os na fyddai’r anwadaith yn peidio.  Bu’r llythyr yn effeithiol i’w dychryn ac ni welwyd erlid yn y rhan honno o’r wlad byth wedyn.

Bu Lowri Williams farw yn 1778, yn 74 oed, gan adael gwedd lewyrchus ar grefydd y Methodistiaid yng ngorllewin Meirionnydd yn gof golofn ardderchog i’w choffadwriaeth.

Y tro nesaf, cawn hanes William Jones, ŵyr Lowri Williams.

---------------------------
Ymddangosodd gyntaf yn rhifyn Medi 2015.
 
Gallwch ddilyn cyfres Bwrw Golwg gyda'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon