Parhau'r
gyfres yn nodi canrif a hanner ers taith y Mimosa. Y tro hwn, pwt o hanes gan Bedwyr Gwilym, am ymwelydd o Rawson i Stiniog yn ystod yr haf.
Cyrhaeddodd Nanci Jones y Blaenau ar ôl cyfrannu at gynhadledd ryngwladol, ‘Y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia, 1865–2015’ yng Nghaerdydd, fel siaradwraig.
‘Roedd Nanci ymysg y rhai oedd ar Fehefin, 2ail yn gwylio’r seremoni
trefeillio yn fyw o theatr José Hernández yn Rawson. Ar ôl gwylio’r
seremoni, penderfynodd Nanci bod rhaid iddi ymweld â’r dref ar ôl
mynychu’r gynhadledd.
Dywedodd Nanci -sy’n rhugl yn y Gymraeg ac yn byw a
gweithio yn Rawson fel athrawes Sbaeneg- y byddai’n barod i helpu
hybu’r cyswllt rhwng ysgolion wedi iddi ddychwelyd adref.
Diolch Nanci,
edrychwn ymlaen i glywed gennych eto.
Nanci a Bedwyr wedi bod yn darllen Llafar Bro Gorffennaf, efo’i brif bennawd yn ddwyieithog am y tro cyntaf erioed er mwyn dathlu’r berthynas rhwng ‘Stiniog a Phatagonia.
¡Croeso!
Mae nifer o gyfeillion newydd wedi ymuno â'n cynulleidfa yn ddiweddar oherwydd cyfres '150 Patagonia'. Croeso atom bawb, a chofiwch yrru sylwadau a newyddion!
--------------------------------
Dilynwch holl erthyglau 150 Patagonia gyda'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon