Ychydig o hanes y Bêl-droed yn y Blaenau. (Allan o gofnodion y diweddar Ernest Jones)
1951-52
Ym 1951-52 gwnaeth y Blaenau yn well yn y Gynghrair ac yn salach yn y cwpannau. Lluchiodd Pwllheli nhw allan o ddwy gwpan. Roeddynt yn methu â sgorio dim mwy nag un neu ddwy gôl yn y gemau cwpan, ond yn y Gynghrair roeddynt yn sgorio gyda rhwyddineb.
Arddangosfa Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog |
Roedd gan Wrecsam dîm yn y Gynghrair erbyn hyn. Adref yn erbyn Porthmadog cawsant sgôr o 5-5; meddyliwch, sgorio bum gwaith oddi catref a methu ennill! Y cysur mawr yn 1951-52 oedd cael curo Pwllheli 9-0 mewn gêm gartref. Ond ym Mhwllheli medru sgorio tair gôl heb gael pwynt.
Sgoriodd Stiniog gant o goliau yn y Gynghrair. Orthin Roberts oedd golgeidwad y Blaenau erbyn hyn. Roedd Orthin yn fachgen lleol a'i dad wedi chwarae yn y gôl i Stiniog yn y dau a thridegau. Daeth John Weaver yn lle Jack Griffiths. Roedd Gilmour, Eddie Cole, Bagnall, Shepherd a Meirion Roberts yn dal ati, ond tua chanol y tymor bu'n rhaid cael Tommy Welsh yn lle Meirion. Eraill o'r newydd oedd Walter Roberts, Tom Howshall a Forsythe.
Cafodd Meirion Roberts 21 gôl mewn 22 o gemau. Nid oedd Welsh mor llwyddiannus y tymor hwnnw ond cymerwyd mantell Meirion gan Shepherd a sgoriodd ugain gôl. Yr oedd Billy McMinn, Rhyl, yn creu dychryn gyda'i gicio cryf am gôl o bellter.
Chwaraewyr lleol a ymddangosodd yn achlysurol oedd David W.Thomas, Gwyn Morgans, Reg Roberts. Sgoriodd Meirion Roberts chwe gôl pan gurodd y Blaenau Wrecsam 9-1.
1952-53
Cafodd Stiniog 127 o goliau yn 1952-53 ond tymor go gyffredin a gawsant ar y cyfan. Yn ymuno â'r Gynghrair yr oedd Tonfannau ac yr oedd Cei Connah yn ychwanegol hefyd.
Roedd hi'n dechrau mynd yn arferiad i Stiniog wneud yn wael yng Nghwpan Cymru ac fe'u curwyd 6-2 gan y clwb newydd o sir Fflint. Ddwywaith yn ystod y tymor hwn fe enillodd y Blaenau oddi cartref gyda sgôr o 11-2, yng Nghyffordd Llandudno ac yng Nghei Connah. Tom Welsh oedd yn sgorio fwyaf erbyn hyn, gydag Albert Shepherd yn dal i sgorio'n drwm. Fred Corkish oedd yn y gôl i'r Blaenau yn 1952-53. Chwaraewr profiadol arall a fachwyd oedd Bill Bassett.
O'r hen lawiau oedd yn aros, Eddie Cole, McMinn ac Ellis Jones. Bu cryn gyfnewidiadau yn y tîm ac yr oedd chwaraewyr lleol yn medru hawlio eu lle yn fwy arhosol, megis Gwyn Morgans, R.E.Jones, Cyril Davies. O'r newydd o du allan i Stiniog ymunodd Watkin Hughes, Molyneux, Alan Gordon a Ron Radcliffe.
1953-54
Ni chafodd y clwb fawr o hwyl ym 1953-54. Saith deg tri gôl a sgoriwyd mewn 41 gêm ac adlewyrchir hyn gan y ffaith mai Tony Roberts (12) oedd y sgoriwr uchaf. Daliai Billy McMinn yn deyrngar i'r Blaenau, ac yr oedd Fred Corkish hefyd yn dal gyda hwy.
Wynebau newydd oedd McFarlane, Dick Jones (Llanrwst), Feeney, Richie Lloyd, Hugh Wyn Williams, Black, a D.J.Williams. Bechgyn lleol a ymddangosodd oedd Alun Powell, (Dolwyddelan), Jim Morris, Jack Morris, David Morgan, Arwyn Tibbott Williams.
Dau frawd lleol a chwaraeodd unwaith oedd John Arthur Jones a Vernon Jones. Bu'n rhaid i'r pwyllgorddyn Harry C.Williams chwarae yng Nghei Connah.
--------------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifynnau Mai a
Mehefin 2005.
Gallwch ddilyn y gyfres i gyd trwy glicio ar ddolen 'Hanes y bêldroed yn y Blaenau', isod neu yn y Cwmwl geiriau ar y dde.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon