6.11.15

O Lech i Lwyn- adar y Migneint

Pennod arall o'r gyfres am fywyd gwyllt a'r awyr agored ym Mro Ffestiniog.
Erthygl gan y diweddar Emrys Evans o rifyn Hydref 1998.

Hanner milltir, fwy neu lai, yw hyd y ffordd oddi wrth y Tŷ Ciper (a welir ar ochr y ffordd fawr rhwng Llan Ffestiniog ac Ysbyty Ifan) hyd at lan Llyn Conwy. Ar bob llaw mae’r Migneint maith a’r rhan yma ohono yn rugog iawn. Torrir ar yr undonnedd yma gan ambell i bant corsiog a chlwt gweiriog, tra gwthia ambell i faen a chreigan lwydaidd i olau dydd drwy’r mawn. Pantiog a thyllog a digon garw yw’r fordd yma at y llyn, ac nid doeth, os oes gan rhywun rywfaint o feddwl o’i gar, yw mynd yn rhy wyllt ar hyd-ddi. Felly, pwyll piau hi. Ac, mae gan hynny ei fanteision. O fynd yn araf y mae rhywun yn sylwi mwy ar yr hyn sydd o’i gwmpas. Er yn undonog ac er yn unlliw iawn ar bob llaw i’r olwg, eto ...

Un diwrnod ychydig flynyddoedd yn ôl, wrth araf ddilyn y ffordd a cheisio osgoi y tyllau mwyaf, a rhyw daflu golwg o gwmpas yr un pryd; o ganol y grug ar ychydig o godiad tir ac o fewn rhyw bumllath i’r ffordd, cododd aderyn mawr brown-dywyll ei liw. Aderyn ysglyfaethus, heb amheuaeth. Golwg cwta, brysiog, yn unig a gafwyd arno, nad oedd wedi diflannu dros gefnen o’r tir. Roedd yn fwy na’r un aderyn ysglyfaethus a welais i o’r blaen. Eryr euraidd? Rwy’n credu mai dyna ydoedd, wedi crwydro o’i gynefin yn y gogledd. Gwelwyd, hefyd, gan gyfaill, yn ystod yr un dyddiau, a’i ddisgrifiad ohono yn cydfynd â’r hyn a welais innau.

Tair blynedd yn ôl crwydrodd rhai  o farcutiaid coch canolbarth Cymru, wedi rhywfaint o lwyddiant ar fagu eu cywion, yn fwy i’r gogledd. Gwefr oedd gweld rhai ohonynt o gwmpas Llynnoedd y Morwynion a’r Gamallt, ond eu gweld o bell, yn unig, wrth iddynt hedfan. Yna, un diwrnod, wrth fynd ar hyd y ffordd am Lyn Conwy a dod i olwg hen faen llwyd-ddu rhyw gan-llath o’r ffordd, canfod barcud yn gorffwys arno.

Stopio’r car heb ei ddychryn na’i anesmwytho, a chyda’r gwydrau ei wylio’n hir ac yn hamddenol. Cael cyfle i nodi patrymwaith ei liwiau a’i blu; gwledda’r llygaid ar yr aderyn hardd a phrin yma, aderyn dieithr i’n hardal. Yna, fel pe wedi rhoi digon o gyfle imi gael golwg iawn arno, heb unrhyw ffwdan na brys lledodd ei adain a chodi i ehedeg. Yn osgeiddig, yn feistr perffaith ar ei gyfrwng, difalannodd i gyfeiriad y llyn. Gwefr ar wefr yn wir.

Mis Awst diwethaf, wrth falwena ar hyd y ffordd, y tro yma oddi wrth y llyn a thuag at y Tŷ Ciper, cododd adernyn o ochr y ffordd. O’r cip arno a gefais gwelais mai aderyn ysglyfaethus ydoedd, ond un bychan, maint brych y coed, sef un o’r bronfreithod. Symudai’r car mor araf fel yr arhosodd yn ei unfan bron ohono’i hun.

Disgynnodd yr aderyn ar garreg rhyw ddecllath tu draw, gan ymroi i fwyta rhywbeth yr oedd wedi’i ddal. Fedrwn i ddim gweld beth oedd ganddo, ond roedd yr aderyn ei hun yn berffaith eglur drwy’r gwydrau. Y cefn yn llwyd-las gweddol dywyll; y frest yn felynaidd gyda stribedi tywyll ar hyd-ddi, a’r gynffon yn las-lwyd a bariau tywyll arni. Iar y cudyll bach heb unrhyw amheuaeth. Y lleiaf o’r holl hebogiaid. Aderyn prin iawn. Bu yno, fel petai hi ddim yn ymwybodol o gwbl fy mod i’n ei gwylio, am rai munudau, gan roi cyfle heb ei ail i’w gweld y glir a medru nodi ei lliwiau, ei maint a phopeth ynglŷn â hi. Munudau o hyfrydwch pur, a’r rheini’n rhai gwefreiddiol.

Os mai ond bob yn hyn a hyn y mae ‘sêr’ fel y rhain i’w gweld, y mae rhai mwy cyffredin i'w gweld yn aml, aml. Hyd yn oed ym mhwll y gaeaf, pan mae y rhan fwyaf o adar yr ucheldir wedi cilio dros dro i lawr gwlad neu dros y môr, y mae y cigfrain i’w gweld fel rhyw garpiau duon uwchben y grug. Nid yw noethwynt y gaeaf na brathiad y rhew yn ei gyrru hwy ym mhell o’u cynefin. Ond, fel mae’r gaeaf yn gorfod rhoi lle i’r gwanwyn, mae yna ailboblogi ar y rhannau ‘diffaith’ yma o’r Migneint.

Yn ei ôl y daw gwas y gog, o dir is, ac yna tinwen y garn o dros y môr; yn ei amser daw pibydd y dorlan, neu Wil dŵr i rai ohohom, wedi treulio’r gaeaf yn aber rhyw afon neu o dramor. Wrth eu cwt, ‘Daw gwennol lwyd a gwanwyn’ i nythu ac i fagu yn y Tŷ Ciper.

Rhyw hanner milltir o ffordd bantiog a thyllog y mae’n anoeth gyrru’n rhy wyllt arni....


----------------------------
Gallwch ddilyn y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

Llun- cudull bach,  Comin Wikimedia. 
Cydnabyddiaeth:  Ómar Runólfsson (Merlin - Falco columbarius - Smyrill) [CC BY 2.0 (http://creativecommons.org/licenses/by/2.0)], via Wikimedia Commons

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon