13.11.15

Pobl ‘Stiniog ym Mhatagonia

Pennod 4 yng nghyfres Steffan ab Owain.
Ymddangosodd yn wreiddiol yng ngholofn Stolpia, yn rhifyn Mawrth 1995

Un o’r cymeriadau mwyaf doniol i adael ‘Stiniog a rhoi tro yn y Wladfa oedd Robert Jones, Swch, neu ‘Robin Sion Bach’, fel y’i gelwid.  Ar ôl bod yno am ysbaid penderfynodd Robin ddychwelyd adref ‘i Stiniog .... ac mi gewch wybod pam yn nes ymlaen.

Ymhen ychydig wedyn, dechreuodd Robin weithio yn Chwarel Lord, a ‘gweithio o dan y Co’, fel y dywedid sef gwneud hyn a’r llall i’r stiward a’r goruchwyliwr.  Pa fodd bynnag, byddai ei gydweithwyr yn y chwarel wrth eu boddau yn clywed Robin yn adrodd ei hanes yn Y Wladfa.  ‘Roedd yn un digrif ar adegau, a cheid hwyl iawn yn ei gwmni, yn enwedig o’i holi am ei anturiaethau ym Mhatagonia. 

'Sut le oedd yno Robin?'  gofynnodd un o’r chwarelwyr wrtho un tro yn y caban.
“Wel, ‘roeddwn i’n byw mewn hen dŷ mwd a’i lond o chwain", medda fo.  “Wyddost ti beth arall, prin y medrwn i stwffio i mewn iddo gan gymaint y chwain ynddo!  Methais yn lân a chysgu un noson tra bues i yno".  
'Sut fwyd oedd yno ‘ta Robin?' gofynnodd cyfaill arall iddo.
“Creda fi neu beidio” meddai Robin, “ond mi fues i’n byw ar ddail te am fisoedd yno.  Hen wlad felltigedig oedd hi,"  ychwanegodd.
'Pwy welaist ti yno?' holodd un o’r gweithwyr drachefn.
“Wel, mi welais i ‘Twm Huws Casl Acs’ a ‘Guto Ebrill’ yno" meddai -h.y. Thomas Hughes, Castle Rags, a Gutyn Ebrill y soniais amdano yn y rhifyn diwethaf.
Ceir llawer stori ddigrif am Robin, rai ohonynt am ei amser yn Chwarel Lord ac yn y dref .... ond bydd yn rhaid eu gadael at ryw dro eto.  Hoffwn yn y cyfamser droi at ‘Stiniogwyr eraill a ymfudodd i’r Wladfa dros y blynyddoedd.

Ym mis Chwefror 1931 bu farw Hugh John Hughes (Pengelli gynt) yn y Wladfa.  ‘Roedd ef yn un o’r arloeswyr a baratodd y wlad ar gyfer ei ddisgynyddion a’r rhai a ymfudodd yno yn ddiweddarach.

Ychydig iawn a wn i am y gŵr hwn, ond yn ddiweddar deuthum ar draws y cofnod yma am un o’i wyrion yn y gyfrol ‘Atgofion o Batagonia' (1980) a olygwyd gan R. Bryn Williams.  Dyfynnaf ohonno rwan:
“Glyn Ceiriog Hughes (Chupat) – Ganwyd ef yn y Wladfa,  yn Trelew, ym 1905, yn fab i John ap Hughes, yntau yn fab i Hugh John Hughes, yntau yn fab i Hugh John Hughes o Flaenau Ffestiniog a’i wraig Mary Thomas o Fangor.  Daeth tri o hynafiaid Glyn i’r Wladfa gyda’r fintai gyntaf yn 1865.”
A oedd ei daid yn ‘Stiniog yn un ohonynt?  Tybed pwy all ddweud mwy am hanes y teulu hwn wrthym?

Yn yr un gyfrol ceir cyfeiriad at ŵr o’r enw Egryn Williams (Aridino), yntau hefyd a chysylltiad â ‘Stiniog.  Fel hyn y disgrifiodd y golygydd y gŵr hwn;
“Ganwyd Egryn yng Nghwm Hyfryd, talaith Chubut, yn y flwyddyn 1913, yn wythfed plentyn i Richard Hugh Williams o Flaenau Ffestiniog, a aeth i’r Wladfa yn bum mlwydd oed yn y flwyddyn 1875.  ‘Roedd ei fam yn ferch i Aaron Jenkins, a aeth i’r Wladfa gyda’r fintai gyntaf ac a fu’n un o’r pennaf arloeswyr hyd nes y llofruddiwyd ef yn 1878.  Sonnir amdano fel ‘merthyr cyntaf y Wladfa.”
A oedd gan y teulu hwn gysylltiad â Bryn Egryn yn ‘Stiniog yma? A oes yna berthnasau iddynt yn dal ym Mlaenau Ffestiniog heddiw?  Hoffwn glywed oddi wrthych os oes gennych unrhyw wybodaeth amdanynt ...  Deallaf fod un neu ddau o berthnasau Robin Sion Bach yn dal i breswylio yn ein plith ... onid oes Billy?


1 comment:

  1. I´m Hugh John Hughes great grandson. John Ap Hughes was my Taid, and Glyn Ceyriod Hughes (Chupat) my uncle. The history of the family is huge, and there are places called "Pen y Gelli" in Trelew now.
    Sorry, but my cymraeg is'nt enough to write.
    Gabriel Hughes
    gabrielfhughes@gmail.com

    ReplyDelete

Diolch am eich negeseuon