Anodd credu bod 40 mlynedd wedi mynd heibio ers ymddangosiad cyntaf 'Llafar Bro' yn Hydref 1975. Roedd dalgylch 'Stiniog yn un o'r ardaloedd cyntaf yng Nghymru i fentro cynhoeddi papur bro misol yn y Gymraeg. Papur yn llawn hanesion lleol, atgofion y darllenwyr a barn am wahanol bynciau llosg y dydd - ac felly y mae hyd heddiw.
Ychydig flynyddoedd yn ôl bu Iolo Williams a Shân Cothi yn recordio rhaglenni o'r enw Bro. Wrth wylio'r rhaglen o ardal Caernarfon, a gweld grŵp mawr o wirfoddolwyr wrthi'n 'gosod' eu papur hwy daeth llu o atgofion melys yn ôl am y cyfnod y bûm innau'n 'gosod' Llafar Bro yn fisol rhwng 1979 a 1984.
Dechreuai'r gwaith fel arfer ar nos Wener gydag ymweliad gan y golygydd ar y pryd – y Parch Emlyn Williams neu Bryn Jones – gyda'r deunydd ar gyfer y rhifyn cyfredol. Roedd gan Emlyn Williams bob amser dair amlen A4.
Cynnwys y gyntaf oedd y dudalen flaen a'r darnau pwysicaf – rhaid oedd sicrhau eu bod hwy yn y papur yn ddi-feth; yn yr ail roedd darnau y colofnau misol a'r lluniau i gyd-fynd oedd yn llenwi crynswth y rhifyn; a'r drydedd yn llawn pytiau wrth gefn pe tae angen rhagor i lenwi'r rhifyn dan sylw. Roedd cyfrifoldeb edrychiad y papur wedyn yn syrthio i ddwylo'r gosodwr. Byddai'r golygydd yn gweld y rhifyn gorffenedig am y tro cyntaf ar noson y plygu yn Siambr y Cyngor. Dipyn o gyfrifoldeb felly!
Y dasg gyntaf oedd mesur canol chwe darn o gerdyn gwyn 30 modfedd wrth 21 modfedd. Yna mesur tair colofn 4 modfedd o led o bopty'r canol. Marcio wedyn, yn ysgafn â phensil y colofnau i gyd. Yr ail dasg oedd torri'r tudalennau teip yn golofnau. Y teipyddesau'r adeg honno oedd Laura Price a Heddus Williams. Ond cyn eu gludo rhaid oedd gwneud penawdau gyda 'Letraset' - tudalennau plastig maint A4 gyda llythrennau'r wyddor mewn amrywiol faint a theip, yn ogystal â rhifau a phatrymau.
Llun o Gronfa Comin Wikimedia |
Penderfynu wedyn ar ba dudalen roedd newyddion y gwahanol ardaloedd yn mynd cyn eu gludo'n ofalus ar dop y colofnau penodedig gyda Cow Gum - glud arbennig ar gyfer gosod penawdau papur newydd. Yna'n ôl i'r dudalen flaen a gosod pennawd arbennig Llafar Bro gyda'r un glud. Defnyddid y Pritt Stick bondigrybwyll i ludio'r holl golofnau a deipiwyd, megis newyddion yr ardaloedd, chwaraeon, Sgotwrs 'Stiniog, erthyglau, ac yn y blaen. Roedd hysbysebion yn cael dos o'r Cow Gum.
Y lluniau oedd y dasg nesaf – penderfynu faint o le i'w roi iddynt. I wneud hynny rhaid oedd gweld faint o ofod oedd rhwng y colofnau. Weithiau gellid chwyddo llun, neu os yn rhy fawr, ei leihau trwy osod papur du o'r maint cywir ar y cerdyn gwyn. Rhaid oedd rhifo'r darn du a rhoi'r un rhif ar gefn y llun oedd i gyd-fynd ag ef.
Y dasg olaf oedd rhifo'r tudalennau â'r letraset. Roedd y cyfan i'w gwblhau cyn noswylio ar y Sul. Bore Llun aed a'r cardiau gwyn gorffenedig i'r wasg ym Mhenygroes i'w hargraffu. Ymhen yr wythnos, ar noson y plygu, dychwelid y cardiau gwyn a'r lluniau gyda rhifyn y mis i Siambr y Cyngor tref. Roedd un dasg fach ar ôl.
Rhaid oedd tynnu'n ofalus y penawdau a ludiwyd â'r Cow Gum oddi ar y tudalennau a'u cadw tan y rhifyn nesaf. “Arf” da oedd yr hen Cow Gum! A dyna ni. Ddeugain mlynedd yn ôl dyna'n fras waith misol gosodwr Llafar Bro.
----------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn penblwydd Llafar Bro yn 40 oed, Hydref 2015.
Dafydd oedd yn gyfrifol am ddylunio 'bathodyn' cyntaf Llafar Bro. Gweler y dudalen 'Cefndir' am fwy o'r hanes.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon