Mae Cyngor Tref Ffestiniog, yn sgil trefeillio gyda Rawson, yn cynnig ysgoloriaeth i berson ifanc sydd rhwng 16-30 ac sy’n byw o fewn ffiniau'r cyngor tref i ymweld â Phatagonia. Penderfynwyd yng nghyfarfod Gorffennaf 2015 i gynnig swm o £1,500 fel ysgoloriaeth o flwyddyn ariannol 2016/17 ymlaen.
Cyfle gwych
Pwrpas yr ysgoloriaeth yw cefnogi a chryfhau’r berthynas rhwng y ddwy dref, yn enwedig ymysg yr ifanc. Drwy gynnig yr ysgoloriaeth, gobeithir annog yr ifanc i feithrin perthynas hirdymor gyda’r Wladfa a’i phobl a fydd yn arwain at y gymuned ehangach yn elwa o’r berthynas.
Cynigir yr ysgoloriaeth ar ffurf cystadleuaeth traethawd ysgrifenedig ac ni ddylai unrhyw gais fod yn fwy na 1,500 o eiriau. Rhoddir marciau am y rhesymau pam yr ydych yn awyddus i ymweld â Phatagonia, beth yr ydych yn bwriadu ei wneud yno a sut ydych yn bwriadu rhannu eich profiadau gyda’r gymuned wedi ichi ddychwelyd adref.
Rheolau ac amodau
• Rhaid bod rhwng 16-30 oed i ymgeisio a dylech fyw o fewn ffiniau Cyngor Tref Ffestiniog
• Dylai unigolyn o dan 18 oed dderbyn caniatâd rhiant neu warcheidwad cyn ymgeisio
• Dylech nodi ar y ffurflen gais os oes cysylltiad rhyngoch â Chynghorydd Tref neu un o’r beirniaid (y beirniaid sydd yn annibynnol o’r Cyngor Tref yw Mrs Elsi Jones, Mr Tecwyn Vaughan Jones a Mrs Anwen Ll. Jones)
• Nid yw’r gystadleuaeth yn agored i Gynghorwyr
• Pe byddech yn llwyddiannus bydd angen ichi deithio i Batagonia yn ystod y flwyddyn ariannol 2016/17 ac ‘rydych yn cytuno i brynu yswiriant teithio safonol
• Mae croeso i’r enillydd ddefnyddio’r Ysgoloriaeth i deithio’n unigol, gyda theulu, gyda chlwb neu gyda ffrind/ffrindiau. Medr defnyddio rhan o’r ysgoloriaeth i gyfrannu tuag at gostau ffrind pe ddymunir
• Ni dderbynnir ceisiadau ar ôl y dyddiad cau, sef 15/01/2016
• Bydd penderfyniad y beirniaid yn derfynol. Ni fydd y beirniaid na’r Cyngor Tref yn gohebu gyda chystadleuwyr aflwyddiannus
Dyddiadau pwysig:
Ionawr 15fed, 2016 - dyddiad cau'r gystadleuaeth
Mawrth 1af, 2016 - cyhoeddi'r enillydd ar ddydd Gŵyl Dewi!
Ebrill 2016 - rhoi’r Ysgoloriaeth (Ysgoloriaeth 2016/17)
Dyma gyfle unigryw i berson ifanc i ymweld â Phatagonia Gymraeg. Cysylltwch gyda’r Clerc am fwy o wybodaeth a ffurflen gais.
Dyddiad cau: Ionawr 15fed, 2016
Cyngor Tref Ffestiniog,
Swyddfa’r Cyngor,
5 Stryd Fawr, Blaenau Ffestiniog,
LL41 3ES
01766 832398
cyngortrefffestiniog[at]yahoo.co.uk
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon