19.11.15

Bwrw Golwg

Cyfres achlysurol yn edrych ‘nôl ar rai o gymeriadau a sefydliadau hanesyddol ein bro.  
Dyma’r ail bennod yn  hanes  
TAIR CENHEDLAETH PANDY’R DDWYRYD 
gan W.Arvon Roberts.

Yr oedd William Jones (g.1788), Pandy’r Ddwyryd, yn drydydd mab i Rowland ac Anne Jones, ac yn ŵyr i Lowri Williams.  Gŵr dysgedig, un a adrychid arno fel cynghorwr gan y bobl leol, ac un oedd yn adnabyddus i weinidogion a phregethwyr ei sir.

Yn 1824, yn 36 oed, ymfudodd i Utica, un o fannau prydferthaf canolbarth talaith Efrog Newydd, ar lan ddeheuol Afon Mohawk.  Mae’n siwr bod enw Utica yn fwy adnabyddus i’r Cymry Cymraeg yng Nghymru ac America nac unrhyw ddinas arall yr ymsefydlodd y Cymry ynddi yn yr Unol Daleithiau.

Ystyr yr enw Utica yw “o amgylch y bryn”.  Ond aeth un mor bell a dweud mai ar ôl gŵr o’r enw Huw Tŷ Cae, pwy bynnag oedd hwnnw, y mabwysiadwyd yr enw – sy’n swnio’n debyg iawn i’r gair Utica o’i dorri fesul sill.

Ymsefydlodd y Cymry cyntaf yn Utica yn 1800 ac ambell un cyn hynny.  Gadawodd William Jones, Pandy’r Ddwyryd, o Lerpwl, 22 Mai, 1824, a glaniodd yn Efrog Newydd ymhen naw wythnos.  Er mai ond tua pedair blynedd yr arhosodd yn America gwenodd y byd arno i gryn raddau – casglodd gyfoeth.

Daeth yn ôl i Gymru gyda thystiolaeth o’i aelodaeth, yn ogystal â gair da oddi wrth Gapel Utica.  Ymunodd â’r achos ym Maentwrog ac adeiladodd amryw o dai, a chododd gapel bychan yn 1843, ynghyd â mynwent wrth ei ochr gyda chymorth ychydig “frodyr sanctaidd”...

Capel a mynwent Utica, Maentwrog Uchaf. Llun W.A.Roberts
Yr oedd y tir ganddo cyn iddo ymfudo i’r America.  Rhoddodd yr enw Utica ar y capel “o barch mawr i’r lle hwnnw ar gyfrif iddo dderbyn yno y daionus bethau...”  (‘Dysgedydd’ 1867 + ‘Y Cenhadwr Americanaidd’ Tach. 1867).  Braf nodi fod yno achos o hyd heddiw yn Utica, Maentwrog.

Peidiodd Bethesda, Utica, Efrog Newydd, a bod yn eglwys Gymraeg yn 1960, a daeth yr achos i ben yn 1963 pan ymunodd y gynulleidfa â Chapel Plymouth, i ffurfio Capel Plymouth-Bethesda.

Gwraig rinweddol iawn oedd Mari Williams, Glanllynyforwyn, Ganllwyd a briododd â William Jones yn 1843, ac a fu farw 7 Mehefin 1860.  Ganwyd iddynt dair o ferched.  Ar fore Sadwrn, 16 Mehefin 1866, yr oedd William Jones yn mwynhau ei frecwast fel arfer ond erbyn y prynhawn yr oedd wedi ei gymryd yn wael, ac ymhen yr awr bu farw ym mreichiau ei ferch hynaf, Anne, o glefyd y galon, yn 78 oed.  Gadawodd berthnasau yn yr America.

Y mis nesaf cawn bennod olaf y gyfres, yn olrhain hanes Anne.

-------------------------------
Ymddangosodd gyntaf yn rhifyn Hydref 2015.


Gallwch ddilyn cyfres Bwrw Golwg gyda'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon