Gwrando ar y radio un bore, a chlywed y newyddion syfrdanol bod y Grid Cenedlaethol am wneud cymwynas fawr â thrigolion cefn gwlad. Y gymwynas mewn golwg oedd i’r cwmni weld synnwyr cyffredin, wedi’r holl flynyddoedd o beidio â gwrando ar leisiau’r trigolion, a phenderfynu dymchwel y peilonau hyll sydd wedi hagru golygfeydd godidog ein bröydd.
Dyffryn Maentwrog * |
Roedd y llinellau trydan am gael eu claddu yn y ddaear, meddai’r sylwebydd, yn llawn ffydd.
Yr oedd rhagolygon am Ddyffryn Ffestiniog, a’r olygfa o ben yr Allt Goch tua’r Ddwyryd yn glir o erchylltra’r peilonau hynny yn freuddwyd i unrhyw un sy’n caru’r ardal hyfryd hon. Wedi dros hanner canrif o orfod diodde’r hyllbethau hyn yn effeithio ar olygfa oedd wedi rhyfeddu teithwyr dros y blynyddoedd cynt, edrychid ymlaen am weld diwedd ar y peilonau.
Ond, och a gwae! Camargraff a roddwyd ar y cyfrwng. Nid yma mae’r chwalfa i fod, ond i lawr yn aber y Ddwyryd ger Penrhyndeudraeth, a dim ond yno.
Anghofiwch am y lein o bwerdy Tanygrisia’ i Drawsfynydd, a phellach, mae honno’n aros yn union yn yr un fan, heb newid o gwbl. Anghofiwch am y llinell dros y Migneint unigryw, mae honno’n aros hefyd, fel pob un arall yng ngogledd Cymru, a mannau eraill.
Dim ond y lein sy’n hagru ardal Cilfor a Phenrhyn sy’n cael ei chladdu, a dyna hi. Mae’n costio gormod i gladdu milltiroedd o linellau trydan, meddai uchel-swyddogion y Grid Cenedlaethol, a diolchwch am be’ ‘dach chi’n gael.
Felly, anghofiwn linellau anfarwol yr Arglwydd Lyttleton, am yr olygfa i lawr o dop yr Allt Goch yn 1756, (yn yr iaith fain wrth gwrs, a chyn dyfodiad trydan!):
‘Gyda gwraig serchog, cyfaill cywir, a chasgliad da o lyfrau, gall dyn dreulio oes yn y dyffryn hwn, a meddwl mai diwrnod ydoedd…’.Llinellau tra gwahanol fu’n ein poeni ni ers tro, sydd yn ein poeni'r dyddiau hyn, ac am amser maith eto, mae’n beryg’. Trueni na fyddai cais cynllunio yn cael ei gyflwyno am Atomfa neu bwerdy newydd yn yr ardal hon heddiw ynte? Yn sicr, ni fyddai pobl 2015 mor barod i gyfaddawdu â’r rhai diniwed y 1950au a’r 60au.
Yn siŵr i chi, byddai sicrhau fod pob llinell drydan mewn ardaloedd o harddwch naturiol o dan y ddaear, yn rhan o amodau'r oes hon. Power to the people ddeudsoch chi?
[Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2015. ]
* Llun gan PW 21ain Tachwedd 2015
-------------------------
Darllenwch erthyglau eraill Y Pigwr gyda'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon