11.11.15

Tanygrisiau Ddoe

Pennod un mewn cyfres o atgofion gan Mrs Mary Jones (gynt Evans), Dyffryn Ardudwy, am gymuned Tanygrisiau rhwng 1920-36. 
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 1998.


Ar y radio y bore o’r blaen roedd y Brodyr Gregory yn canu'r gân ‘I Mrs Jones a’i deg o blant – mae dyddiau gwell i ddod.’ Aeth y gân a fi yn ôl i’r dau ddegau cynnar pan oeddwn yn blentyn, hefyd yn un o ddeg o blant. Daeth hen hiraeth ataf a meddwl am fy mam a fyddai wrth ei bodd yn cael clywed fod dyddiau gwell i ddod iddi hi a’r deg o blant.

Petasai ddoe yn fory heddiw a heddiw yn fory ddoe. A oes gwir na ddychwel Ddoe? Yr oeddwn tua chwech oed pan sylweddolais fy mod yn un o ddeg o blant mewn cyfnod tlawd ymhob ystyr.
Ddoe roeddym yn deulu o dri o fechgyn a saith o enethod a oedd diolch i’r drefn, i gyd yn iach, yn feddyliol ac yn gorfforol cyffredin yn ein hagwedd tuag at ein bodolaeth.

Ein hamgylchedd oedd ardal y llechi. Y cartref yn dŷ bychan tair llofft dwbl ac un llofft fach, parlwr bach a thwll-dan-staer rhwng y gegin a’r parlwr. Roedd grât ddu ‘Ecselsior’ yn y gegin a’r popty yn cael ei gadw yn boeth bron drwy y dydd. Os oedd y gwynt o ryw gyfeiriad roedd mwg yn taro a huddug a mwg bron a’n tagu a byddai raid agor y drws cefn i greu drafft.

Roedd fy nhad yn gweithio yn y chwarel, o dan ddaear yn greigiwr. Wedi ei fagu yn un o saith o fechgyn ar fferm fechan cyfagos – Tŷ’n Ddôl. Ar ôl iddo briodi a’r plant yn dwad naill un ar ôl y llall, rhoddodd ei dad gae iddo a chwt mochyn a chwt ieir.

Roedd y ‘tŷ bach’ i lawr llwybr yr ardd at ochor y domen ludw, ac yn lwcus iawn, roedd mod cons yno. Bu un gŵr a gweledigaeth ganddo i dorri ffos o gyflenwad dŵr yr afon (oedd yn troi olwyn ddŵr y Ffatri Wlan ar ben y rhiw) i redeg o dan bob tŷ bach y ddwy res o dai tuag at ein tŷ ni. Ail-ymunai’r ffos a’r afon heibio’r llyn chwiad ‘rochor arall i’r clawdd llanw. Diolch byth.

Doedd fawr o le i ni gyd eistedd o flaen y tân ar dywydd oer ond byddai mam yn dweud fod digon o le i ni i gyd eistedd o gwmpas y bwrdd ac ni rewodd heb erioed wrth fwyta nag yfed.

Roedd digonedd o le i ni chwarae allan ar y tywydd braf ond wfft i ni ar dywydd gwlyb a clywais hi yn cwyno wrth fy nhad amryw o weithiau mewn geiriau a phwyslais arnynt, “mae’r plant yma fel y cnafon eu hunain ar y tywydd yma, maent ar draws eu gilydd yn y tŷ”. Roedd yn fyd tlawd, a chyflog bach i’r dynion, rhaid oedd bod yn gynnil hefo tanwydd a bwyd, felly hefyd dillad ac esgidiau. Prinder o’n cwmpas ym mhobman.

Ond ar ôl y gaeaf deuai y gwanwyn a dyfodiad adar yr haf, a hefyd y gog yn canu. Roedd y tymor yma yn adeg hapus, a braf oedd cael casglu blodau yn y caeau. Dyddiau yr haf yn golygu gwyliau ysgol, a phwysicaf oll – cael mynd ar drip y capel i Bwllheli mewn siarabang.

Er y dyddiau di-gysur roedd hefyd ddyddiau hapus a roeddym yn cael ein dwyn i fyny gydag arweiniad a charedigrwydd.

Roedd chwe dosbarth yn Ysgol y Pentref ac yno bedair o athrawesau a’r Prifathro (Jôs Héd), Mr R.E. Jones. Roedd dau gae chwarae yno, un i’r hogiau ac un i’r genethod.



I'w barhau...

[Llun- E.D.Roberts]

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon