Yr oedd yr adroddiadau am rai o ddynion yr ardal yn ymadael tua'r brwydro yn cynyddu bob wythnos, ynghŷd â gohebiaeth am glwyfedigion yn cyrraedd adref o'r ffosydd. Cafwyd hanes ambell un 'wedi ei analluogi am oes', ac yn derbyn tâl wythnosol gan y llywodraeth.
Erbyn y cyfnod hwn roedd nifer o lythyrau gan filwyr, ynghyd â rhestrau o glwyfedigion wedi ymddangos ar dudalennau'r Rhedegydd, fel ym mhob un o wythnosolion Cymru. Caed llawer iawn o wybodaeth ddiddorol parthed bywyd milwr ar faes y gad trwy gyfrwng y llythyrau hynny, a'r darlun o'r peryglon a wynebwyd gan y milwyr yn dod yn fyw i lygaid y darllenwyr.
Llythyrau a dderbyniwyd gan aelodau o deuluoedd y rhai oedd yn gwasanaethu gyda'r fyddin oedd y rhain, a'r derbynnydd wedi eu trosglwyddo i'r wasg i'w cyhoeddi. Dros gyfnod y Rhyfel Mawr anfonwyd, a derbyniwyd miloedd o lythyrau gan filwyr, o bob rhan o Brydain, ac mae sawl ffynhonnell werthfawr o gasgliadau o'r llawysgrifau ledled Cymru. Yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth cedwir casgliad o 50 o lythyrau a anfonwyd gan rai o aelodau Capel Rhiw (MC), Blaenau, oedd yn filwyr y Rhyfel Mawr. Llythyrau i weinidog y capel, y Parchedig John Hughes oedd y rhain, ac yn diolch iddo, ac aelodau'r capel am anfon anrhegion a llythyrau atynt i'r Ffrynt.
Cafwyd presenoldeb y Bugle Band, Seindorf Frenhinol yr Oakeley, y milwyr lleol, a gafr mewn gorymdaith fawr trwy'r dref, oedd yn arwain i gyfarfod mwy yn y Neuadd Gyhoeddus yn ystod wythnos gyntaf Medi 1915. Pwrpas y cyfarfod oedd i ddenu recriwtiaid i'r cwmni newydd o dwnelwyr oedd yn cael ei sefydlu ym Mlaenau Ffestiniog, dan ofal Evan Jones, Rhosydd.
Wedi i'r Bugle Band ganu It's a long way to Tipperary, amlinellodd y cadeirydd, yr ustus heddwch, William Owen, y rheswm dros y cyfarfod, ac aeth yn ei flaen i longyfarch Evan Jones ar ei ddyrchafiad fel Lieutenant. Byddai ef a'r naw arall ar y llwyfan oedd wedi ymrestru yn cychwyn drosodd i Ffrainc yr wythnos ddilynol. Atgoffodd pawb yno o'r cyfrifoldeb oedd yn gorffwys ar ysgwyddau'r is-gadben newydd, gan y byddai'n uchel-swyddog pwysig iawn yno. Ychwanegodd y gallai pob un oedd am ymuno fod yn dawel eu meddwl dan ei ofal.
Roedd un sylw a wnaeth y cadeirydd cyn terfynu yn agoriad llygaid. Dywedodd nad oedd Evan Jones, er ei ddyrchafiad yn Lieutenant, wedi cael dillad swyddogol. Mi fyddai hynny'n ddealladwy, efallai, wrth sylweddoli nad oedd prin bythefnos wedi mynd heibio ers ei apwyntiad. Mae'n amlwg nad oedd iwnifform swyddogol ar ei ffordd iddo o gwbl o gyfeiriad yr awdurdodau, wrth ddarllen y canlynol:
...Nid oedd wedi cael dillad swyddogol. Mae swm sylweddol wedi ei chasglu at eu cael. Mae Col.Milner wedi cyfrannu £5, ac aelodau y Cyngor Dinesig £9, a Mr Greaves swm sylweddol. Mae ganddynt mewn llaw dros £20.Yn dilyn, cafwyd braslun gan y Cyrnol Milner o'r gwaith oedd yn wynebu'r meinars, a'r tâl a geid am ei wneud. Roedd disgwyliadau'r Swyddfa Rhyfel am i weithwyr 'Ffestiniog uno â'r adran yma yn uchel, meddai Milner, a'r bwriad oedd ei galw'n Festiniog Corps. Felly, dyma gyfle i wneud y lle yn fyd-enwog, meddai.
Wedyn cododd Evan Jones ei hun, a chael 'derbyniad brwdfrydig' chwedl y gohebydd, ac apeliodd ar rai i ymuno. Ni ddisgwyliai fwy na hanner cant, ac roedd yn falch fod Llywodraeth Prydain wedi cydnabod Ffestiniog, er i lawer o, leoedd eraill gynnig yr un gwasanaeth. Meinars 'Stiniog oedd Cyrnol Milner eisiau, meddai, gan fod y profiad a'r cymwysterau ganddynt.
Daeth Greaves, Llechwedd ymlaen i ddweud ei fod yn hyderus y byddai mwynwyr 'Stiniog yn ymateb i gais y llywodraeth. Roedd yn sicr o'r farn na ellid cael gwell - ac yn wynebu peryglon yn ddewr pob dydd.. Apeliai at y chwiorydd i beidio sefyll yn erbyn y dynion i fynd.
Dilynwyd hwn gan Robert Pierce, Newborough Street, un oedd wedi ymrestru gyda'r garfan o fwynwyr, a apeliai'n daer ar y bobl ifainc i ymuno, ac i wrando mwy ar eu dyletswyddau nag ar eu teimladau. Daeth y cyfarfod i ben gydag 'araith ragorol' gan y Parch. John Jenkins, a chyflwyniad o God Save the King i orffen.
---------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2015.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon