Pennod arall o Lyfr Taith Nem, hanesion rhyfeddol Nem Roberts, Rhydsarn yn ‘Merica, a llythyr at y golygydd gan un a gyfarfu Nem yno.
1929
Unwaith yr oeddwn yn teithio mewn cerbyd modur o Los Angeles, Califfornia. Cychwynasom am hanner dydd er mwyn cyrraedd anialwch y Mojova. Nid oedd y ffyrdd mewn cyflwr da yr adeg honno, a theimlwn fod perchennog y cerbyd yn gyrru yn rhy wyllt ar ffyrdd cyffredin. Y canlyniad oedd cwympo i ffos ar ochr y ffordd a malu y pwmp tanwydd a’r ffenestr flaen. Bu fy mhrofiad yn gynhorthwy a llwyddasom i fynd ymlaen, ond erbyn tua dau o’r gloch y bore yr oedd y gyrrwr wedi blino, a rhaid oedd aros a cheisio cysgu yn y modur ar ochr y ffordd.
Y peth nesaf oedd clywed drws y cerbyd yn cael ei agor a gŵr gyda hances boced am ei wyneb a gwn yn ei law yn gorchymyn i ni godi ein breichiau wrth ein pennau. Yr oedd lleidr arall yr ochr arall i’r cerbyd. Dychrynais yn enbyd, wedi’r cyfan nid peth dymunol ydyw i ddyn gael ei ddeffro o drwmgwsg i wynebu llawddryll.
Pwysodd un o’r lladron ei lawddryll yn fy meingefn, a rhoddodd law yn fy mhoced a chymerodd bum dolar, yr oll oedd yn y boced honno. Dechreuais fynd drwy’r pocedi eraill, ond dywedais wrtho mai pum dolar oedd yr oll feddiannwn. Yn rhyfedd iawn coeliodd fi, ond pe tae wedi chwilio yn fanwl mi fuasai wedi dod o hyd i gant a hanner o ddoleri mewn poced yn fy nghrys. Llwyddodd y lleidr arall i gymeryd $200 o boced fy nghyfaill, ac ugain doler oddi ar frawd oedd yn eistedd y tu ôl.
“Penderfynais fod fy mywyd yn werth mwy na phum doler”
Tra yn sefyll a’m breichiau i fyny meddyliais am geisio taro y lleidr a fy mhenelin, ond penderfynais fod fy mywyd yn werth mwy na phum doler. Penderfyniad doeth oedd hynny, mae’n debyg, gan y buasai y lleidr wedi gallu fy saethu yn hawdd cyn i mi ddod a’m braich i lawr. Wedi dwyn yr arian gorfododd y lladron i’r gyrrwr bwyntio ei gerbyd tua’r gorllewin a’i siarsio i beidio ei dilyn, neu fwled fuasai’r atebiad! Am weddill y siwrnai 3000 milltir, rhaid oedd i mi dalu’r costau i gyd o LA i Philadelphia, ac yna i Efrog Newydd. Buasai yn well i mi fod wedi teithio gyda’r trên – ac yn llawer rhatach!
Cefais brofiad rhywbeth yn gyffelyb yng nghanol dinas Efrog Newydd: un diwrnod yr oeddwn yn cerdded yn araf ac yn edrych o gwmpas yn ddigon didinwed. Yn sydyn cerddodd dau ddyn i’m hwyneb, a gafaelodd un yn fy ngôt, gan fygwth fy lladd yn y fan a’r lle os na roddwn fy holl arian iddo. Rhaid oedd penderfynu mewn amrantiad beth i’w wneud yn yr argyfwng. Ceisiais yr hen ‘bluff’, yr oeddwn yn meddwl mai dau rodresgar oeddynt, ond rhoddasant fygythiad terfynol i mi, yr arian neu fwled. Penderfynais ymddangos fel pe mewn dychryn, yn wir yr oeddwn wedi dychryn, ac wn i ddim sut olwg oedd arnaf, ond dywedodd un rhywbeth wrth y llall, a gollyngodd fi, ac ar yr eiliad honno neidiais rhwng dau gerbyd ar ochr yr heol. Mae’n debyg mai dyna’r symudiad cyflymaf wnes erioed yn fy mywyd. Aeth y ddau ymlaen ac anadlais yn rhydd drachefn.
Mae’r crwydryn gan amlaf eisiau llonydd, ond hefyd, camgymeriad mawr i unrhyw grwydryn ydyw rhoi ei drwyn ym musnes rhywun arall. Y gyfrinach ydyw i’r crwydryn feindio ei fusnes ei hun, a gadael i bawb a phob peth arall weithio eu hiachawdwriaeth eu hunain. Mae yn bwysig iawn cadw allan o bob helynt, oherwydd nid oes fawr o gydymeimlad â dieithryn mewn unrhyw fan. Fel mater o ffaith anhawdd ydyw cael y gwir grwydryn i son am ei brofiad. Y gŵr sydd yn cymeryd arno ei fod wedi crwydro llawer ydyw’r mwyaf awyddus i siarad am ei deithio. Mae’n debyg bod llawer o resymau am hyn. Yn y lle cyntaf, unigolyn ydyw’r gwir grwydryn, a gwyr nad ydyw ei ddiddordebau ef yn ddiddorol i eraill. Yn yr ail le mae llawer o hanes bob crwydryn yn gyfryw na ellid yn hawdd eu hadrodd na’u croniclo; ond mae’n debyg bod hynny’n wir yn hanes yr helyw o blant dynion. Hefyd profiadau personol sydd gan y crwydryn ac nid llawer o brofiadau cymdeithasol.
------------------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf 1998.
Yn yr un rhifyn oedd llythyr at y Golygydd:
Annwyl Olygydd,
Wrth ddarllen Llafar Bro y mis yma a gweld hanes Nem Roberts ynddo fe ddaeth llawer o atgofion i’m meddwl. Yn y flwyddyn 1930 yr oeddwn yn byw yn Los Angeles, Califfornia, ac yn mynychu’r Capel Cymraeg ar 12th Vanenski. Ymysg yr aelodau yno yr oedd Nem Roberts o Ffestiniog a chefais aml sgwrs ag ef a llawer hwyl wrth iddo son am rhai troeon yn ei fywyd. Yn y flwyddyn 1932 yn 23 oed yr oeddwn yn gadael LA ac yn dychwelyd i Gymru gan deithio fy hunan ar y trên i Efrog Newydd, taith o filoedd o filltiroedd ac a gymero rhai dyddiau.
Erbyn hyn yr oedd Nem Roberts wedi gadael LA ac yn Efrog Newydd felly dyma gysylltu ag ef a bu yn garedig iawn. Fe ddaeth i’r orsaf yn Efrog Newydd i fy nghyfarfod a mynd a fi i dŷ ffrindiau yr oeddem ni’n dau yn eu hadnabod gan eu bod hwythau wedi byw yn LA. Bu hen siarad a bwyta ar ôl cyrraedd cartref Mr a Mrs Wright a daeth Nem hefo nhw drannoeth i fy rhoi yn ddiogel ar fwrdd y ‘Sythia’ ar y fordaith yn ôl i Gymru.
Ymhen rhai blynyddoedd wedyn a finnau wedi priodi ac yn byw yma daeth Nem drosodd i Ffestiniog a daeth i’m gweld. Cefias y fraint o roi croeso iddo i dalu tipyn bach am ei garedigrwydd i mi yn Efrog Newydd.
Rwyf yn mwynhau darllen Llafar Bro ac wedi cadw barddoniaeth o waith Rhagfyrun Pierce (gynt) oedd yn gefnder i mi.
Bessie Glyn Williams. Porthmadog.
--------------------------
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y cwmwl geiriau ar y dde.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon