31.8.17

Stiniog a’r Rhyfel Mawr -Dyddiau Blin

Parhau â chyfres Vivian Parry Williams, yn nodi canrif ers y rhyfel byd cyntaf.

Roedd rhywbeth yn broffwydol yn adroddiad gohebydd newyddion Trawsfynydd yn ei golofn ar 14 Gorffennaf 1917 yn Y Rhedegydd. Oherwydd y newyddion drwg rheolaidd am golledion difrifol ymysg milwyr o’r ardal, roedd yr ysbryd rhyfelgar, Prydeinig gynt wedi oeri cryn dipyn erbyn hyn. Roedd realiti’r sefyllfa ar y ffrynt yn dod yn fyw i bobl Trawsfynydd, fel pob ardal arall, wrth i’r newyddion trist am y colledion amlhau. Ceisiodd y gohebydd gyfleu teimladau’r trigolion, eu pryderon, a’u gobeithion am ddiwedd buan i’r rhyfel.

Roedd yn gweld y cyfnod fel:
“Dyddiau Blin – Dyna ydyw hanes y dyddiau hyn yn yr ardal hon fel pob un arall, pawb megis a’i anadl yn ei ddwrn, yn ofni cael newydd drwg o faes y rhyfel, am ei bod yn wybyddus fod amryw o’n bechgyn anwyl yn yr ymladd ffyrnig sy’n mynd ymlaen yn Ffrainc. Gobeithiwn y goreu, ac os digwydd i’r wermod ddod i’r cwpan, gweddiwn am i Dduw roddi nerth yn y dydd blin i’w dal, ac i allu dweyd gyda Glanystwyth-
 

Mae calon Tad tu ôl i’r fraich
    Sy’n cynnal baich y byd.
Rhoddwn ein holl ymddiried ynddo ef, a’n holl ofal arno ef.”
Alun Mabon
Cyhoeddodd y papur fwy o luniau o’r bechgyn lleol a gollwyd yn y brwydro. Yn eu mysg roedd llun o Alun Mabon Jones, Dinas Road, yr hwn a laddwyd flwyddyn ynghynt, ar 12 o Orffennaf, 1916. Yn ychwanegol i’r llun, yr oedd pennill er cof an Alun, gan ei wraig a’i blant.

Roedd pedwar llun o’r milwyr colledig i’w weld yn y rhifyn hwnnw, a phob un wedi colli eu bywydau ym mrwydr Coedwig Mametz yng Ngorffennaf 1916. Cynhwyswyd lluniau eraill o filwyr lleol oedd yn gwasanaethu gyda’r fyddin dramor hefyd. Cyhoeddwyd llythyrau o gydymdeimlad gan swyddogion milwrol â theuluoedd rhai o’r milwyr a laddwyd hefyd, fel y gwelid yn rheolaidd ar dudalennau’r wasg.

Diddorol oedd darllen hanes aelodau Band of Hope Capel Bowydd yn y Blaenau yn cynnal eu picnic blynyddol ar ben Bwlch Gorddinan, neu’r ‘Crimea’ ar lafar. Cariwyd y plant ieuengaf i’r safle mewn moduron, rhywbeth digon prin y cyfnod hwnnw. Wedi mwynhau’r picnic, difyrrwyd y mynychwyr gan David Francis, y telynor dall, a chaneuon gan Dewi Mai a Miss Smith. Cafwyd adroddiadau gan y plant, ac anerchiad gan y Parchedig Enoch Jones, oedd wedi gorfod dringo i fyny i ben y bwlch, fel gweddill yr oedolion. Gorffennwyd y cyfarfod trwy ganu’r anthem genedlaethol, ond ni ddatgelir p’run ai anthem Cymru, ynteu un Prydain oedd honno.

Ar yr 21ain o Orffennaf 1917, cyhoeddodd Y Rhedegydd lythyr o Leeds gan un o ‘Stiniog a oedd yn un o’r rhai a symudodd o’r ardal i ddilyn gyrfa mewn gwaith clai yn y dref honno. Yn amlwg, yr oedd y fro fabwysiedig at ddant ambell un o’r hanner cant a mwy a ymfudodd yno ychydig wythnosau ynghynt. Meddai’r llythyrwr: ‘Sonnir gan rai mai aros yma wnaent, a chael eu teuluoedd i fyw yma…’ Felly, roedd pryderon llawer o ddinasyddion Blaenau Ffestiniog am ddyfodol y dref, yn dod yn fyw, ac ergyd arall i obeithion o weld adferiad yn yr hen ffordd o fyw wedi darfod ar frwydrau’r Rhyfel Mawr.

Yn ychwanegol i’r llythyr hwnnw, yr oedd erthygl am Gymry Swydd Durham, oedd yn trafod gweithwyr o ardal ‘Stiniog a gyflogid mewn chwarel galch yn Spennymoor. Dywedwyd eu bod yn fodlon iawn ei byd yn eu cynefin newydd. Yn ddiau, bu i sawl teulu o’r Blaenau, droi cefnau ar eu henfro, a phenderfynu ymsefydlu yn yr ardaloedd hyn o Loegr wedi’r rhyfel, er mawr golled i Gymru a’r iaith Gymraeg.
---------------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf 2017. Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
---------------------------------------------------

Cofiwch y bydd cyfrol Vivian Parry Williams, 'Stiniog a'r Rhyfel Mawr' ar werth cyn diwedd y flwyddyn am £10. Anrheg Nadolig gwerth chweil!




No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon