18.1.20

Rhod y Rhigymwr -Bethel fach y Llan

Ar Ddydd Nadolig 2019, roedd Capel Bethel, Llan Ffestiniog yn dathlu canrif a hanner ei sefydlu.

Er mai ‘1868’ a nodir ar y garreg a dynnwyd oddi ar yr hen adeilad a’i gosod uwchben drws y ‘Festri’ y bu inni ei haddasu a’i chysegru’n addoldy ar y 3 Mawrth 2002.


Yn y cyfarfod hwnnw, cyflwynwyd y penillion canlynol gan blant a phobl ifanc yr Ysgol Sul:

Yr oedd capel hardd ei olwg
Yma unwaith yn y Llan,
Lle y deuai ein cyndadau
Ar y Sul i gymryd rhan;
Nid yw’r capel hwnnw bellach
Ond yn atgof yn ein byd,
Rhoed i ninnau gapel newydd
Llai o faint, ond hynod glyd.

Iddo deuwn ar y Suliau
I glodfori Crist, mab Duw;
Mae pob gwers a gawn ni ynddo’n
Help i’n dysgu sut i fyw;
Diolch wnawn am y bendithion
Ddaw i’n rhan bob dydd o’n hoes,
Diolch wnawn am gariad Iesu
A fu farw ar y groes.

Mawr yw braint pob un ohonom
Sy’n cael dod bob Sul fel hyn
I addoli rhwng ei furiau,
Onid yw ein byd yn wyn?
Boed i gyfoeth y profiadau
Gawn ym Methel fach y Llan
Fod yn gymorth drwy daith bywyd,
Dros yr Iesu gwnawn ein rhan.


Ar Ddydd Nadolig 1867, ordeiniwyd Sachareia Maher yn weinidog yn Saron. Daeth awydd mawr ar yr aelodau i gael adeilad newydd, hardd. Dechreuwyd ei adeiladu ar gost o fil a hanner o bunnoedd – oedd yn swm mawr iawn o arian yr adeg honno!

Dyma fel yr adroddodd rhywun hanes yr Achos yn symud o Saron i Fethel:
“Cofiaf yn dda y mudo o Saron i Fethel. Nid oedd lampau’r capel newydd wedi eu gosod i fyny. Yr oedd yr aelodau wedi rhoi benthyg eu lampau o’u cartrefi am y noson. Canhwyllau a ddefnyddid yn Saron. Cychwynnwyd yr orymdaith daclus o Saron – Mr. Maher a’r diaconiaid ar y blaen; Cadwaladr Jones y codwr canu a’r côr wedyn; Jane Humphreys y Cwm oedd y brif soprano; Siân Roberts, gwraig William Stephen, ac Ann Joseff yn canu yn ei hochor hi, ac yn ‘repeatio’ bob amser.”
Ar gyfer dathlu’r penblwydd yn 150, cyfansoddais gywydd i’w gyflwyno’n yr oedfa arbennig a drefnwyd ar gyfer prynhawn dydd Sadwrn, 30 Tachwedd, a hynny ar gainc  Gwennant Pyrs – ‘Seiriol’.

Mae’n cyfeirio at ein cyn-deidiau selog yn mudo i Fethel – ‘Tŷ Duw’ – a hynny o hen adeilad bychan, tywyll a llaith Saron. Sonnir am y profiadau a gafwyd rhwng muriau enfawr a hardd y capel newydd. Bellach, mae’r adeilad presennol a addaswyd gennym yn ddigonol i’n pwrpas. Ynghanol y trai mawr a welir ar achos Crist yn ein gwlad, mae criw bychan ohonom yn parhau i gadw’r drws yn agored ar gyfer addoli:

Daw i gof y tadau gynt –
rhai ffyddiog a chraff oeddynt
welai’r angen i’r enaid
greu allor i’r Iôr o raid,
a rhoi i dyrfa ddi-ri’
lys i’w ddilys addoli.

Yn llawn afiaith ymdeithiodd
y rhai hyn, a’u camre drodd
i le rhwydd i foli’r Iôn,
o sawrau llwydni Saron;
baner eu hannibyniaeth
i Fethel yn ddiogel ddaeth.

Y gân yn seinio’n gynnes
yno, a grym coeth y gwres
yn cynnau neges cennad
y Tŷ hwn – Tŷ Cwrdd y Tad;
a’r dwys weddïo a’r dôn
yn adfywio’r oedfaon.

Heddiw’n ein hoes ddifeddwl
aeth crefydd a ffydd i’r ffŵl!
Ond yn sêl y Fethel fach
agorir drws rhagorach
i’r Tŷ hwn! – Daliwn, o Dad
i ddilyn ffyrdd addoliad.

Yr emyn-dôn Tanymarian [Edward Stephen] ddewiswyd ar gyfer emyn y dathlu. Yn Rhyd-sarn y ganwyd Edward Jones, ac fe’i bedyddiwyd yn Eglwys San Mihangel y Llan ym mis Rhagfyr 1822.

Pan aeth i’r coleg, gwelodd fod un ‘Edward Jones’ arall yno, a chymerodd enw bedydd ei daid, ‘STEPHEN’ – yn gyfenw iddo’i hun. Roedd tad Edward yn canu gyda’r tannau, ac roedd ei fam hefyd yn gantores dda. Symudodd y teulu i fyw o Ryd-sarn i Penmount Bach, ac yna, i Dy’n y Maes. Cafodd Edward ei addysg yn Ysgol Penralltgoch. Ar ôl ymadael, prentisiwyd ef yn ddilledydd. Ym 1840, dechreuodd bregethu yn Saron ac aeth i Goleg Annibynwyr y Bala ym 1843. Bu’n weinidog ym Mhenmaenmawr o 1847 hyd 1857, cyn symud i Lanllechid. Cyfansoddodd nifer o ddarnau cerddorol cysegredig. Bu farw ym mis Mai, 1885.

Cofiwn ymdaith ein cyndadau’n
Cludo’r newydd da i’w hynt,
Seiniau moliant yn yr awel
A gweddïau yn y gwynt;
Dod â baner Annibyniaeth
Ar ddydd geni Mebyn Mair,
A’r credinwyr oll yn teimlo
Effaith grym cyhoeddi’r Gair.

Cofiwn y gwroniaid hynny
Yng nghaledi’r dyddiau fu,
Rhai osododd goed a meini’n
Seiliau praff i furiau’r Tŷ;
A’r rhai brofodd rhwng y rheiny
Wyntoedd teg yr adfywhad,
A gweld llaw yr Hollalluog
Yn teyrnasu dros eu gwlad.

Cofiwn heddiw am arddeliad
Ein hynafiaid brwd, mewn oes
Lle gosodir Duw dan gwmwl,
Lle gwrthodir Crist y Groes;
Yn uffernau’n t’wyllwch eithaf,
Ar ein Tad ymbiliwn ni
Gael ymdeithio â’n cyndadau
I oleuni Calfari.

----------------------------------
Addasiad o golofn Iwan Morgan, a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2019.

Lluniau- Paul W 





No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon