3.1.20

Stolpia- hel calennig

Pennod arall o gyfres Hynt a Helynt Hogia’r Rhiw yn y 50au, gan Steffan ab Owain.

Erbyn hyn mae diwrnod cyntaf y flwyddyn wedi bod, a hynny am byth bythol. Wrth gwrs, y mae sawl Dydd Calan wedi mynd heibio ers yr 1950au, ac mae’r byd wedi gweld newidiadau mawr ers y dyddiau hynny. Un o’r pethau hynny yw’r hen draddodiad o ‘hel Calennig’, sef galw o gylch cartrefi cyfagos i geisio am rodd gan y preswylwyr. Ar ôl rhoi cnoc ar y drws, byddid yn cyfarch y perchennog a geiriau tebyg i’r canlynol:
‘Calennig a Chalennig
A Blwyddyn Newydd dda i chi
Ac i bawb sydd yn y tŷ
Blwyddyn Newydd dda i chi’.
Ychydig iawn o anrhegion a ddeuai Siôn Corn i amryw ohonom yn dechrau’r pumdegau a chofio hefyd mai cyflogau bychain a enillai’r rhan fwyaf o weithwyr ein chwareli'r adeg honno.  Pa fodd bynnag, roedd hi’n amser cyffrous arnom ni’r plant yr un fath, ac edrychem ymlaen yn eiddgar at y Nadolig yn ogystal â Dydd Calan.

Y Fari Lwyd yn aros am rhywun i alw... (Llun- Paul W)
Gan amlaf anelai rhyw dri, neu bedwar ohonom, am y cartrefi gyda thipyn o gyfoeth ynddynt, megis tai swyddogion y chwarel, tai athrawon ac ambell dŷ siop efallai.  Ond, os nad oeddem wedi codi’n fore, byddai dim llawer o groeso i’w gael gan breswylwyr y tai oherwydd byddai rhai o’r plant eraill wedi galw yno o’n blaenau. Ambell dro, byddai rhai a atebai’r gnoc ar y drws yn ddigon cwta gyda ni ar ôl inni eu cyfarch gyda’n geiriau ‘Calennig a Ch'lennig’, ac os digwyddent wrthod rhoi dim inni byddid yn brasgamu oddi yno a bloeddio:
‘Calennig a Chalennig a Blwyddyn Newydd Ddrwg...
A llond eich tŷ o fwg!’
Cofiaf fynd adre’ ambell Ddydd Calan gyda’m pocedi yn llawn cnau, ac ambell oren fach, neu afal yn fy llaw.  Yn aml iawn, wedi derbyn y rheiny gan bobl nad oedd mor gefnog yn ein cymdeithas. 

Cofiaf hefyd inni gael cyflaith (cyflath ar lafar) gan un neu ddau, er nad ‘cyflaith’ go iawn mohono chwaith, ond slapiau o daffi triog du, a blas ychwaneg arno!  Weithiau byddem yn cael siocled bach tenau a minciag fel dolly mixtures, neu daffi melyn rhad. Oedd, roedd Dydd Calan Ionawr fel diwrnod Nadolig arall inni. Gyda llaw, bu bron imi anghofio dweud, roedd hel calennig yn dod i ben am hanner dydd, ac ni fyddai neb yn ateb y drws inni, na rhoi dim ar ôl yr amser penodedig.

Diddorol oedd darllen y pwt canlynol am ardal Tanygrisiau yn y Rhedegydd am y flwyddyn 1907 ynglŷn â hel calennig:
“Un ffordd boblogaidd ymhlith y plant i dreulio rhan o’r diwrnod ydyw ‘Hel calennig’.Beth bynnag am ddechreuad yr arferiad hwn, y mae’n amlwg ei fod erbyn hyn yn dreth drom ar lawer yn ein hardaloedd, yn gymaint felly nes peri bod masnachdai, &c yn gauad hyd hanner dydd, er mwyn gael heddwch. Os felly, onid gwell fyddai rhoddi yr arferiad i lawr trwy gadw y plant gartref ? Yn sicr roedd y plant yn wrthrychau tosturi a chydymdeimlad dydd Mawrth diwethaf, pan yn gwibio yn ôl a blaen trwy yr eira toddedig i geisio calennig, a hynny yn ofer mewn llu o enghreifftiau”.
Y mae hi’n amlwg ei bod yn anodd hel calennig hyd yn oed tros gan mlynedd yn ôl, heb sôn am yr 1950au. Os cofiaf yn iawn, y tro olaf imi weld un yn hel calennig o ddrws i ddrws oedd tua 12 mlynedd yn ôl, a dim ond un bachgen bach ar ben ei hun oedd hwnnw.  Y mae’r arferiad bellach wedi ei ddwyn gan noswaith Calan Gaeaf gyda’i 'thric neu drȋt' a gwisgo fel gwrachod a bwganod o bob math, onid yw?

Wel, os na gawsoch chi galennig eleni, gobeithio y cewch chi Flwyddyn Newydd Dda.
Steffan ab Owain.
----------------------------------

Addasiad o erthygla a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2019 (heb y llun).


1 comment:

  1. Druan o beth nad yw arferion fel hyn yn parhau o hyd :-(

    ReplyDelete

Diolch am eich negeseuon