Rwy'n gasglwr clociau mawr a wnaethpwyd gan wneuthurwyr o Borthmadog yn yr 1800au. Prynais un mewn ystafell werthu ym Manceinion yn ddiweddar, cloc mawr a wnaethpwyd gan Richard Bonner Thomas. Yr oedd ei dad Owain yn wneuthurwr oriorau ym Mlaenau Ffestiniog yn y 1840au.
Roedd y cloc mewn cyflwr eithaf gwael felly penderfynais dynnu'r cloc yn ddarnau, gan ddechrau gyda'r mecanwaith, yna symud ymlaen i'r cas pren. Fe wnes i ddatgymalu'r mecanwaith yn ofalus, oedd â blynyddoedd o lwch, olew a budreddi wedi cronni gan olchi’r rhannau wedyn mewn ‘solvent’ a'u glanhaodd yn lân .
Yna mi wnes bolishio`r platiau a’r cogiau. Wrth lanhau'r platiau, deuthum o hyd i lofnod Emrys Evans, Ionawr 1921, Blaenau Ffestiniog a dyma'r tro cyntaf imi ddod o hyd i lofnod ar gloc. Nid oedd hyn yn anghyffredin gan fod gwneuthurwyr clociau yn arfer arysgrifio eu henwau a'u dyddiadau ar y platiau pan oeddynt yn cael eu gwasanaethu neu eu hatgyweirio.
Cefais fy niddori gan hyn, felly penderfynais gysylltu â'r arbenigwr hanes lleol o’r Blaenau, Steff ab Owain. Awgrymodd fy mod yn cysylltu â John Evans o’r Blaenau, gan fod ei deulu’n cael eu galw’n “teulu clociau”.
Dyna wnes a daeth John yn ôl ataf yn dweud mai ei ewythr Emrys ydoedd. Roedd yn drydanwr yn chwarel Manod pan ddefnyddiwyd y lle i storio’r paentiadau ac ati yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Mae'n ymddangos hefyd ei fod yn arfer atgyweirio clociau ac oriorau i'r hogiau a oedd yn gweithio yn y chwareli. Roeddwn yn falch iawn gyda’r canlyniad hyn wrth ddatrys pwy oedd y person a wasanaethodd fy nghloc bron i 100 mlynedd yn ôl!
--------------------------------
Erthygl gan Martin Pritchard, a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2019.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon