1.12.19

Wyth Ffair Llan

Erthygl o'r archif

Efo lwc a bwyd llwy, bydd ffair yn y Llan am flynyddoedd i ddod.  Ond, fel y dywedodd cyfaill wrthyf yn ddiweddar, nid yw Ffair Llan fel y bu.  Wrth i mi ysgwyd pen a chydweld ag ef gofynnodd imi pa mor bell yn ôl y cynhelid ffair yn y Llan.  Arweiniodd ei gwestiwn fi i chwilota’r gist yn y ty acw am ychydig o’i hanes.


Efallai mai’r peth cyntaf y dylid ei ddweud am Ffair Llan neu Ffair G’langaea’ (Tachwedd 13) ydyw nad hon oedd yr unig ffair a gynhelid yn Llan Ffestiniog yn y dyddiau a fu.  Na, cynhelid cymaint ag wyth ffair y flwyddyn yno ar un adeg.  Fodd bynnag, cyn dweud mwy am hynny, soniaf am hynafiaeth y ffeiriau yn gyntaf.

Synnwn i ddim nad oedd rhai o ffeiriau’r Llan yn dyddio mor bell yn ôl a’r unfed ganrif ar bymtheg – os nad ychydig cynt.  Serch hynny, nid oes gennyf gyfeiriad at gynnal ffeiriau yno cyn diwedd yr ail ganrif ar bymtheg.  Yn dilyn ceir rhestr o’r ffeiriau a gynhelid yno yn y flwyddyn 1699 yn ôl Almanac Thomas Jones yr Amwythig:

1)    Y Gwener ar ôl y Drindod
2)    Awst 11
3)    Medi 15.  Newidiwyd y dyddiad i Fedi 26 ar ôl y Calendr yn 1752.
4)    Hydref 8.
5)    Tachwedd 15 (yr hen G'langaeaf). Newidiwyd i Dachwedd 13 ar ôl 1752.

Erbyn 1751 roeddynt wedi ychwanegu dwy ffair at y rhai uchod, sef un ar Fai 14, a’r llall ar Fehefin 21.  Yn ôl Almanac John Prys am y flwyddyn 1755, ac ar ôl cymryd 11 o ddyddiau allan o’r Calendr, ceid y ffeiriau canlynol yn y Llan:-

1)    Mai 24.
2)    Dydd Gwener ar ôl y Drindod
3)    Gorffennaf 2
4)    Awst 22
5)    Medi 26 (Ffair wyl Grog).
6)    Hydref 19
7)    Tachwedd 13

Yn yr hyn a elwir ‘Cyfaill Distaw’ yn Almanac Caergybi am 1807 rhestrir wyth o ffeiriau o dan Llan Ffestiniog.  Rywbryd rhwng 1776 ac 1807 roeddynt wedi sefydlu ffair ar Fawrth y 9fed – a byddai’r saith uchod i’w chanlyn.

Erbyn 1834 roedd ffair Gorffennaf 2 wedi ei symud i Fehefin 20.  Ac eithrio hon, cadwodd y gweddill at yr un dyddiad am flynyddoedd lawer.  Yn ôl Almanac y Miloedd am 1930 roedd saith ffair y flwyddyn yn dal i gael eu cynnal yn Ffestiniog.  Os yw hyn yn gywir, bu farw chwech ohonynt mewn ychydig flynyddoedd felly. 

A chymryd hyn i ystyriaeth mae’n syndod bod gennym ffair o gwbl yn Llan Ffestiniog heddiw.
---------------------------------

Ymddangosodd yr erthygl yma -heb y llun- yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 1986.

[Os taw chi oedd yr awdur, gadewch inni wybod, fel y gallwn gydnabod eich gwaith. 

Hefyd, holwyd am fanylion y llun uchod yn rhifyn Mawrth 2016, ond ni dderbyniwyd unrhyw wybodaeth. Gyrwch air os wyddwch pwy oedd y ffotograffydd, neu pwy sydd yn y llun.

Diolch, Gol.]


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon