18.12.19

Newyddion Antur!

Mae’n sâff dweud fod y misoedd diwethaf wedi bod yn brysur iawn i Antur! Ond, heb os na oni bai, mae’n rhaid dweud mai’r uchafbwynt i ni fel cwmni oedd agoriad swyddogol Parc Beicio Antur Stiniog! 

Alan, aelod o Fwrdd Antur Stiniog, Steve, a Medwyn, rheolwr y ganolfan. Llun- Alwyn Jones
Un o enwogion y byd beicio lawr mynydd (ac yn arwr i Buds!) Steve Pete, oedd yn arwain y miri i agor y traciau newydd - a dros ddau gant o reidwyr yn ei ddilyn! Felly, ynghanol y sbri agorwyd pedwar trac beicio mynydd newydd yn swyddogol ar ein safle ar ddiwrnod bendigedig o braf yng nghanol mis Medi. 

Roedd y digwyddiad ei hun yn hollol ddoniol - roedd y reidwyr wedi gadael eu beics ar ben y mynydd, cyn cael lifft nôl lawr gan fysus mini Antur i waelod y traciau- a'r bwriad oedd i’r beicwyr redeg i fyny’r trac, cael hyd i’w beics a rasio’n ôl i lawr-  ond heb iddyn nhw wybod os oedd y beiciau wedi cael eu symud a’u cuddio - roedd hyd yn oed gêrs rhai o’r beiciau wedi cael eu newid, ac roedd hi’n bedlam llwyr ar ben y mynydd - ond yn y modd mwyaf hwyliog bosib! Sâff dweud fod pawb wedi cyrraedd y gwaelod yn ddiogel ac yn hapus!

Mae’n rhaid dweud fod y diwrnod yn ei gyfanrwydd wedi bod yn wych, a’r awyrgylch fel parti go iawn - hapus a hwyliog. Roedd digon o adloniant yno gyda cherddoriaeth byw gan Pasta Hull a set acwstig gan Anweledig, gweithgareddau paentio i blant, y criw Baa Baa Bar hyfryd yno yn cynnig diodydd, stondinau gwerthu nwyddau beicio a digon o fwyd ar y barbaciw. Braf oedd gweld cymysgedd o bobl leol, plant o bob oedran, a reidwyr o bob cornel o Brydain yn mwynhau'r diwrnod.
Un o lwybrau newydd y Cribau. Llun- Paul W
Mae’r pedwar trac newydd yn ein galluogi i ni fel menter gymdeithasol i adeiladu ar ein llwyddiant fel un o’r canolfannau beicio gorau yn Ewrop! Am y tro cyntaf mae ganddom drac ‘gwyrdd’ - sydd yn addas ar gyfer teuluoedd - felly, mae  rhywbeth ar gyfer pob aelod o’r teulu a phob math o feiciwr yma! 

Os hoffwch fwy o fanylion am yr holl draciau sydd ar ein safle, gallwch gysylltu â ni naill ai trwy ein tudalen Facebook, e-bost:  post@anturstiniog.com  neu ffonio Parc Beicio Antur ar 01766 238 007. Croeso cynnes i bawb bob amser!

Mae'r siop yn y Stryd Fawr bellach wedi ffarwelio â chadair a choron Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Ffestiniog 1898. Roedd hi’n bleser ac yn fraint eu cael yn Siop a Thŷ Coffi Antur dros yr haf. Galwodd llawer iawn o bobl heibio i’w gweld, a llawer iawn ohonynt o bob cornel o’r wlad! Hoffwn ddiolch i Gyngor Tref Ffestiniog ar ran pawb am gael eu benthyg - ond mwy na dim, mae’n hynod o bwysig i ni ddiolch yn fawr iawn i’r criw hynod wybodus ac annwyl - y Gymdeithas Hanes - am fod mor weithgar yn yr arddangosfa hanes (ac am helpu ein staff yn y caffi i roi gwybodaeth gyffredinol i ymwelwyr i’r dref! Be fysa ni’n neud hebddoch chi ar adegau prysur?!).

A sôn am arddangosfa, braf oedd rhoi cartref i Ŵyl Gelf Calon Gwynedd dros yr haf hefyd, ac arddangosfa Gwilym Livingstone Evans - mae yna gyfoeth o dalent yma’n lleol a chymaint o hanes i’w arddangos a’i rannu.

Mae hyn yn codi’r cwestiwn eto - fel da ni’n neud dro ar ôl tro - oes 'na fodd i ni gael Canolfan Treftadaeth bwrpasol yma yn y Blaenau? Gobeithio’n wir…

Wel, dyna ni am rwan, ond peidiwch ag oedi i gysylltu â ni os hoffwch – neu'n well fyth, dowch i fyny am frecwas gwych gan Val a Siân yng nghaffi Parc Beicio Antur (dydd Iau-dydd Llun) a dowch i mewn i weld yr hyfryd Tanwen a Ronwen am banad a chacan yn ystod yr wythnos yn Siop a Thŷ Coffi Antur ar y Stryd Fawr- croeso cynnes bob amser i bawb.
 -----------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2019



No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon