Showing posts with label Anweledig. Show all posts
Showing posts with label Anweledig. Show all posts

2.5.24

Cornel Gerddorol- Cyfraniad Arbennig

Ers 2008, mae mis Chwefror wastad wedi golygu un peth o fewn y calendr cerddorol, sef Gwobrau’r Selar. Yn wir, rhwng 2014-2020, cynhaliwyd Noson Wobrwyo’r Selar yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, sef cyfle i ddathlu y flwyddyn a fu yng ngherddoriaeth Cymru ar ffurf gŵyl fechan. 

Bellach, mae ffurf y gwobrau wedi newid, wrth i’r enillwyr gael eu cyhoeddi ar donfeddi Radio Cymru yn ystod wythnos benodol yn mis Chwefror. Ers 2015, mae un gwobr yn cael ei gyflwyno i unigolyn o fewn y sîn sydd wedi gwneud ‘Cyfraniad Arbennig’ ac mae cyn enillwyr y wobr hon yn cynnwys Geraint Jarman, Tecwyn Ifan, Gruff Rhys a’r llynedd, y gyflwynwraig, Lisa Gwilym.

Ar raglen wythnosol Rhys Mwyn, fe ddaeth Gai Toms i mewn i’r stiwdio ym Mangor am sgwrs, ond nid sgwrs arferol mohono, wrth i’r cyflwynydd/archeolegydd adnabyddus gyhoeddi mai Gai fyddai deilydd y Wobr Cyfraniad Arbennig yng Ngwobrau’r Selar. 

Roedd ei ymateb yn un o gryn sioc, gan ddweud “Cyfraniad Arbennig? Dwi’m yn teimlo mod i’n ddigon hen i dderbyn y fath wobr, ond wow....diolch i griw’r Selar am yr anrhydedd” cyn mynd ymlaen i ddiolch i griw Anweledig yn enwedig, gan ddweud “na fyddai o’n nunlla, hebddyn nhw”. Fe orfennodd Gai drwy ddyfynnu llinell o un o glasuron Datblygu, Maes-E (enillwyr cyntaf y wobr hon): “Ma gwobra’, heb y barnu na’r cystadlu ynde...dwi’m yn or-hoff o wobra’, does ‘na neb yn well na’i gilydd rili nagoes. Ond ma cydnabyddiaeth dal yn neis.” 

Yn wahanol i weddill y gwobrau, ble mae’r cyhoedd yn pleidleisio i greu rhestr fer ac yna dewis enillydd – Tîm Golygyddol Y Selar sy’n dewis enillydd y wobr Cyfraniad Arbennig yn flynyddol, ac mae’r enillydd bob amser yn rhywun y mae nhw’n teimlo sydd wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr i gerddoriaeth Gymraeg yng Nghymru a thu hwnt, ac sy’n parhau i wneud hynny.

Mae pawb sy’n nabod Gai yn gwybod pa mor ddiymhongar ydi o – ac felly dydi o ddim yn syndod i ni drigolion ‘Stiniog fod Gai yn ffitio’r meini hynny ac felly’n hollol deilwng o’r wobr hon. Dyweddodd Rhys Mwyn “does na ddim cwestiwn dy fod di’n un o’r artistiaid a chyfansoddwyr yna...mae gen ti’r repetoire sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol” – mae geiriau fel yna gan rhywun fel Rhys Mwyn (sydd mae’n deg i’w alw yn dipyn o awdurdod ar gerddoriaeth o Gymru yn seiliedig ar ei yrfa fo o fewn y maes) yn adrodd cyfrolau o lwyr haeddiant Gai yn fy marn i.

Does dim angen rhestru yr hyn mae Gai Toms wedi ei gyflawni yn gerddorol ers y 90au cynnar, mae pawb o’r ardal hon yn cofio gigs hynod o gofiadwy Anweledig a’r 7 albwm gwych y mae wedi ei ryddhau wedyn unai o dan yr enw Mim Twm Llai neu ers 2008, o dan ei enw ei hun. Mae dawn Gai i greu gweithiau cysyniadol megis Rhwng Y Llygru A’r Glasu (yr albwm gyntaf o dan yr enw Gai Toms a’r albwm Gymraeg gyntaf i ddefnyddio sain llwyth o offerynnau wedi eu creu o sbwriel), Bethel (albwm ddwbl a recordiwyd hen Gapel Bethel, Tanygrisiau a drowyd mewn i stiwdio Gai) neu pwy all anghofio’r albwm a’r daith theatrau epig, Orig – sef albwm yn seiliedig ar fywyd y reslwr enwog, Orig Williams. 

Yn ôl Uwch Olygydd Y Selar, Owain Schiavone, roedd Gai Toms yn ddewis amlwg ar gyfer derbyn y wobr Cyfraniad Arbennig. “O ystyried y criteria bras rydym wedi gosod ar gyfer y wobr hon, does dim amheuaeth fod Gai Toms yn haeddiannol iawn o’r gydnabyddiaeth. Ers dros dri degawd bellach mae Gai yn o gerddorion amlycaf Cymru. Gyda’i ffrindiau gorau, fe ddatblygodd Anweledig, i fod yn fand mwyaf y sin Gymraeg ar ddiwedd y 90au, ond mae’n deg dweud mai ar ôl hynny y daeth gwaith mwyaf arwyddocaol Gai i’r amlwg. Dwi’n grediniol ei fod yn un o ganwyr-gyfansoddwyr pwysicaf ei genhedlaeth yn yr iaith Gymraeg, os nad y pwysicaf oll. Yr hyn sy’n taro rhywun ydy ei ddewrder cerddorol, a’i barodrwydd i arbrofi a mentro. Mae rhai o’i recordiau hir yn arloesol yn y Gymraeg yn enwedig efallai Rhwng y Llygru a’r Glasu ac Orig – does neb wedi creu rhywbeth tebyg i’r rhain yn y Gymraeg. Bydd llawer o’i ganeuon yn glasuron mewn blynyddoedd i ddod, ond mae ei gerddoriaeth yn fwy na dim ond caneuon – mae’n sylwebaeth graff ar wleidyddiaeth, cymuned, hanes, yr amgylchedd a’r byd.”

Llongyfarchiadau mawr i Gai a mawr yw’r diolch am ei gyfraniad i fyd cerddoriaeth Gymreig!
- - - - - - - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2024

 

17.5.21

Twmffat- Tywysogion Cymru!

Yn gynharach eleni, cafodd Oes Pys, albym newydd Twmffat, y supergrŵp o ardal Stiniog ei ryddhau ar label Recordiau Sbensh ac ar yr un noson cafwyd parti gwrando drwy ryfeddod technoleg fodern a’i ddarlledu ar dudalen Facebook y grŵp. 

Twmffat yw casgliad o gyn aelodau bandiau megis Anweledig ac Estella o dan arweinyddiaeth yr enigma (fel y galwyd ef mewn erthygl ddiweddar), Ceri Cunnington.

Dyma’r 3ydd albym i’r band ei ryddhau wedi Myfyrdodau Pen Wŷ (2009) a Dydi Fama’n Madda i Neb (2012) a’r deunydd llawn cyntaf iddynt ryddhau ers yr EP, Tangnefedd yn 2014. Fe recordiwyd yn Stiwdio Cefn Cyffin, Llanfrothen, sef stiwdio drymiwr y band a’r cyn aelod o Maffia Mr Huws, Gwyn Jones. 

Y bwriad gwreiddiol nôl yn Hydref 2019 oedd i greu “casgliad o ganeuon pop llon hapus i ddathlu cyrraedd canol oed” - ond, gyda Brexit a’r pandemig yn codi ei ben yn y cyfamser a chyflwyno’r ‘normal newydd’ i’n bywydau, daeth terfyn ar y syniad yma a rhaid oedd dychwelyd i’r fformiwla llwyddiannus o’r albyms blaenorol. Ceir yma yn lle “13 o ganeuon amrwd ac onest i gofnodi’r cyfnod gwallgof yma”, ac yn ôl rheolwr Sbensh, Gai Toms, dyma’r albym gorau y mae’r band wedi ei ryddhau ac mae’n rhaid i mi ddweud fy mod yn cytuno’n llwyr efo fo. 

Cyn rhyddhau’r albwm, daeth cyngor gan Ceri ynglŷn â sut i wir fwynhau’r casgliad yma: “Gwrandewch ar ‘Oes Pys’ drwyddi draw efo headffons, mewn stafell dywyll, a chan o Special Brew” – ac felly, dyna’n rhannol wnes i, gan anelu am stafell dywyll a rhoi’r headffons ymlaen i fwynhau’r daith o’r Lockdown Rockdown i daith Am Dro Yn Y Coed ar Ddiwrnod Braf-ish.  Mae’n deg dweud fod y canllawiau yma wedi ychwanegu mwynhad ychwanegol i’r daith gerddorol yma, ond dwi’n eitha sicr y byddai’n swnio gystal yn dod allan o seinydd yn y gegin, ystafell fyw neu’r ardd! 

Twmffat (Llun o'u tudalen ffesbwc)

Mae’r ardal hon yn cael ei hadnabod fel un sy’n llawn beirdd a llenorion a dwi’n grediniol y dylid ychwanegu enw Ceri Cunnington i’r rhestr hon, gan ei fod o wir yn meddu ar ddawn geiriol arbennig sydd wedi creu sawl clasur dros y blynyddoedd - ceir traciau fel Byd Mawr Sgwâr a Cae Chwara sydd yn ein cludo ni nôl i’r dyddiau da ble roedd Anweledig yn ei hanterth. 

Efo sefyllfa’r byd fel mae hi ar hyn o bryd, byddwn i’n argymell i chi ddefnyddio’r platfformau ffrydio i wrando ar y gampwaith hon – ond, unwaith y bydd y siopau yn cael ail-agor, mynnwch gopi o Oes Pys!

RhM
-----------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2021



8.6.20

Cwrdd

Mae’r lle ‘ma’n rhy llwyd,
medda nhw.
Rhy wlyb, rhy lawiog,
rhy ddiflas o lwyd o hyd.
Does dim yma i’w wneud,
medda nhw.
Mor llaith, mor lleidiog,
does unman mwy llwm yn y byd.
Cwrdd â fi ar y copa,
meddaist ti,
ar y darn o dir uwchben y cwmwl,
a gwyliwn y gola’n
chwarae mig efo’r niwl.

Cawn gadw oedfa,
meddaist ti,
gyda’r gwynt yn codi canu
hen emyn o’n cwmpas
wrth i ni gusanu.
Ac yma ar ben ein mynydd
mae’r llwyd yn troi’n lliwgar,
ond dim i ni.
Ac yma yng nharddiad ein hafonydd
mae’r llwm yn troi’n llachar,
ond dim i ni.







Fe sgwennais i’r gerdd hon yn wreiddiol ar gyfer oriel gelf Lisa Eurgain Taylor yn Oriel Môn mis Mawrth. Mae gwaith celf Lisa yn hynod o hardd, ac yn darlunio mynyddoedd Eryri mewn ffordd lliwgar a thrawiadol, ac mae hi’n gwneud i’r tirwedd edrych bron yn arallfydol o dlws. Cyrhaeddodd cais Lisa am gerdd ata i ar yr un pryd a darllenais nifer o sylwadau am Blaenau ar TripAdvisor oedd yn galw’r dref yn llwyd, yn llwm ac yn ddiflas.

Wel, dwi’n gwybod yn iawn bod y llechi yn llwyd wrth gwrs, ond dwi erioed wedi meddwl am ardal Stiniog fel lle llwyd, llwm na diflas yn wir! Pan edrycha i ar y mynyddoedd o gerrig o’n cwmpas, dwi’n eu gweld nhw fel tomenni hudol, sy’n newid bob dydd yn dibynnu ar y tywydd a’r golau.

Erin a Llio a’u partneriaid, Rich a Sam, ar gopa’r Moelwyn Mawr
Dyma fynd ati felly i gyfansoddi cerdd oedd yn gwrthgyferbynnu beth mae rhai twristiaid yn ei weld, a be dwi’n ei weld wrth edrych ar ein llechi.

Dwi’n gweld ein hanes a'n dyfodol. Dwi’n gweld dyddiau braf o haf fy mhlentyndod a nosweithiau hwyr yn y Tap. Dwi’n gweld hen straeon y Mabinogi a gossip am bobl drws nesaf. Dwi'n gweld cerddi Gwyn Thomas a lyrics Anweledig. Dwi’n gweld fy nheulu, fy ffrindiau, a rhai gelynion! Yn fras, dwi’n gweld lot mwy na llechi.

Felly tro nesa mae rhywun yn dweud wrthych chi fod Stiniog yn le llwyd, dywedwch wrthyn nhw mae nhw sy’n llwyd wir, am beidio gallu gweld yr hyd a’r lledrith sy’n bodoli ym mhob cornel o’n ardal ni!

Llio Elain Maddocks

--------------------------------
Ymddangosodd yr uchod yn rhifyn Ebrill 2020.
 
(Mae Llio yn postio cerddi’n rheolaidd ar ei chyfri’ Instagram @llioelain gan gynnwys cyfres am hunan-ynysu. Ewch am sbec i weld ei gwaith.)

18.12.19

Newyddion Antur!

Mae’n sâff dweud fod y misoedd diwethaf wedi bod yn brysur iawn i Antur! Ond, heb os na oni bai, mae’n rhaid dweud mai’r uchafbwynt i ni fel cwmni oedd agoriad swyddogol Parc Beicio Antur Stiniog! 

Alan, aelod o Fwrdd Antur Stiniog, Steve, a Medwyn, rheolwr y ganolfan. Llun- Alwyn Jones
Un o enwogion y byd beicio lawr mynydd (ac yn arwr i Buds!) Steve Pete, oedd yn arwain y miri i agor y traciau newydd - a dros ddau gant o reidwyr yn ei ddilyn! Felly, ynghanol y sbri agorwyd pedwar trac beicio mynydd newydd yn swyddogol ar ein safle ar ddiwrnod bendigedig o braf yng nghanol mis Medi. 

Roedd y digwyddiad ei hun yn hollol ddoniol - roedd y reidwyr wedi gadael eu beics ar ben y mynydd, cyn cael lifft nôl lawr gan fysus mini Antur i waelod y traciau- a'r bwriad oedd i’r beicwyr redeg i fyny’r trac, cael hyd i’w beics a rasio’n ôl i lawr-  ond heb iddyn nhw wybod os oedd y beiciau wedi cael eu symud a’u cuddio - roedd hyd yn oed gêrs rhai o’r beiciau wedi cael eu newid, ac roedd hi’n bedlam llwyr ar ben y mynydd - ond yn y modd mwyaf hwyliog bosib! Sâff dweud fod pawb wedi cyrraedd y gwaelod yn ddiogel ac yn hapus!

Mae’n rhaid dweud fod y diwrnod yn ei gyfanrwydd wedi bod yn wych, a’r awyrgylch fel parti go iawn - hapus a hwyliog. Roedd digon o adloniant yno gyda cherddoriaeth byw gan Pasta Hull a set acwstig gan Anweledig, gweithgareddau paentio i blant, y criw Baa Baa Bar hyfryd yno yn cynnig diodydd, stondinau gwerthu nwyddau beicio a digon o fwyd ar y barbaciw. Braf oedd gweld cymysgedd o bobl leol, plant o bob oedran, a reidwyr o bob cornel o Brydain yn mwynhau'r diwrnod.
Un o lwybrau newydd y Cribau. Llun- Paul W
Mae’r pedwar trac newydd yn ein galluogi i ni fel menter gymdeithasol i adeiladu ar ein llwyddiant fel un o’r canolfannau beicio gorau yn Ewrop! Am y tro cyntaf mae ganddom drac ‘gwyrdd’ - sydd yn addas ar gyfer teuluoedd - felly, mae  rhywbeth ar gyfer pob aelod o’r teulu a phob math o feiciwr yma! 

Os hoffwch fwy o fanylion am yr holl draciau sydd ar ein safle, gallwch gysylltu â ni naill ai trwy ein tudalen Facebook, e-bost:  post@anturstiniog.com  neu ffonio Parc Beicio Antur ar 01766 238 007. Croeso cynnes i bawb bob amser!

Mae'r siop yn y Stryd Fawr bellach wedi ffarwelio â chadair a choron Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Ffestiniog 1898. Roedd hi’n bleser ac yn fraint eu cael yn Siop a Thŷ Coffi Antur dros yr haf. Galwodd llawer iawn o bobl heibio i’w gweld, a llawer iawn ohonynt o bob cornel o’r wlad! Hoffwn ddiolch i Gyngor Tref Ffestiniog ar ran pawb am gael eu benthyg - ond mwy na dim, mae’n hynod o bwysig i ni ddiolch yn fawr iawn i’r criw hynod wybodus ac annwyl - y Gymdeithas Hanes - am fod mor weithgar yn yr arddangosfa hanes (ac am helpu ein staff yn y caffi i roi gwybodaeth gyffredinol i ymwelwyr i’r dref! Be fysa ni’n neud hebddoch chi ar adegau prysur?!).

A sôn am arddangosfa, braf oedd rhoi cartref i Ŵyl Gelf Calon Gwynedd dros yr haf hefyd, ac arddangosfa Gwilym Livingstone Evans - mae yna gyfoeth o dalent yma’n lleol a chymaint o hanes i’w arddangos a’i rannu.

Mae hyn yn codi’r cwestiwn eto - fel da ni’n neud dro ar ôl tro - oes 'na fodd i ni gael Canolfan Treftadaeth bwrpasol yma yn y Blaenau? Gobeithio’n wir…

Wel, dyna ni am rwan, ond peidiwch ag oedi i gysylltu â ni os hoffwch – neu'n well fyth, dowch i fyny am frecwas gwych gan Val a Siân yng nghaffi Parc Beicio Antur (dydd Iau-dydd Llun) a dowch i mewn i weld yr hyfryd Tanwen a Ronwen am banad a chacan yn ystod yr wythnos yn Siop a Thŷ Coffi Antur ar y Stryd Fawr- croeso cynnes bob amser i bawb.
 -----------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2019



17.7.18

Gwyl Car Gwyllt 2018


Ar ôl hen edrych ymlaen, a phob tocyn wedi gwerthu ers chwe wythnos, daeth y 14eg o Orffennaf.

Dechreuodd y canu yn gynnar yn y pnawn, a bu'r ddau lwyfan -un y tu mewn i Glwb Rygbi Bro Ffestiniog, a'r llall mewn marquee ar y cae- yn brysur wedyn tan hanner nos, efo amrywiaeth gwych o grwpiau ac artistiaid amrywiol iawn.

Un o'r pethau oedd yn codi 'nghalon i oedd gweld pobol o bob oed yno yn mwynhau; polisi ardderchog gan yr ŵyl o ganiatáu mynediad am ddim i blant tan 9 o'r gloch. Ond yn bwysicach na hynny efallai, hyfryd oedd gweld pobl wedi dod i fwynhau gŵyl yn Stiniog o ardaloedd eraill: Port, Caernarfon, Llŷn, Môn, Dyffryn Conwy...


Oherwydd gweithgareddau lansio Gŵyl Lechi Bro Ffestiniog yn Sgwâr Diffwys, roeddwn wedi methu'r awr a hanner gynta', ond yn benderfynol o gyrraedd mewn da bryd i weld I Fight Lions. Dewis rhyfedd o enw e'lla, ond maen nhw'n grŵp bach da efo offerynwyr talentog a geiriau arbennig i'w caneuon.

Roedden nhw'n haeddu slot hwyrach er mwyn cael gwrandawiad gwell, ond roedd eu set byr yn plesio'r rhai oedd wedi troi i mewn i'r marquee. Eu cân gryfaf oedd 'Calon Dan Glo' (cân yr wythnos ar Radio Cymru 'nôl yn Ebrill), a ddisgrifwyd gan eu canwr fel cân "am siarad efo hen bobol am Brexit"! Clincar o gân ydi hi hefyd. Dwi'n edrych ymlaen i'w gweld eto.

Yn y clwb, denodd yr hogia lleol, Gwibdaith Hen Frân griw da i wrando a chyd-ganu eu caneuon cyfarwydd. Dyma grŵp sy'n nabod eu cynulleidfa ac yn llwyddo i'w plesio bob tro.

Efo'r haul tanbaid yn cadw'r rhan fwyaf y tu allan, roedd grŵp nesa'r babell fawr, Adwaith, yn haeddu gwell torf hefyd, ond wrth i'r diwrnod fynd yn ei flaen, roedd mwy a mwy yn cyrraedd ac yn ychwanegu at awyrgylch y diwrnod.

Yn ôl y disgwyl, cododd Anweledig y to ar ddiwedd y noson, a môr o sombreros amryliw -ar bennau ac yn nwylo'r dorf- yn symud i fyny ac i lawr efo pob cân.

Roedd Graffiti Cymraeg, Karamo, a Hunaniaeth, yn sefyll allan fel caneuon i blesio'r dorf, ond heb unrhyw amheuaeth, eu hanthem -ac efallai eu teyrnged i'w milltir sgwâr- Dawns y Glaw lwyddod i greu'r cynnwrf mwyaf a'r canu mwya' angerddol gan bawb oedd yno! Gwych!

Roedd llawer uchafbwynt arall yn ystod y dydd hefyd: set dynn a phroffesiynol Estella, fel tasa nhw erioed wedi rhoi'r gorau i gigio. Gorfadd yn yr haul efo diod oer a ffrindiau bore oes, yn chwerthin efo'r plant a rhyfeddu at y gwenoliaid duon yn sgrechian uwchben.

Ac roedd gweld llond y clwb yn morio canu'r clasuron gwladgarol Tân yn Llŷn, a Safwn yn y Bwlch, efo'r canwr gwerin Gwilym Bowen Rhys, yn wirioneddol wefreiddiol (ac yn gymysgedd od iawn i granc canol oed fel fi, o lawenydd pur a dod o fewn trwch blewyn i grïo fel babi... henaint ni ddaw ei hunan, de!)


Diolch o galon i'r pwyllgor trefnu am eu llafur cariad yn atgyfodi'r ŵyl, ac i'r stiwardiaid gwirfoddol a'r clwb rygbi am eu cyfraniad i ddiwrnod cofiadwy iawn.

Yn ôl yr ymateb yno ganol nos, a'r sylwadau cefnogol wedyn ar y cyfryngau cymdeithasol, nid dim ond y fi gafodd ddiwrnod i'w gofio. Dyma obeithio y cawn fwynhau'r Car Gwyllt bob blwyddyn!

Paul Williams