Ar ôl hen edrych ymlaen, a phob tocyn wedi gwerthu ers chwe wythnos, daeth y 14eg o Orffennaf.
Dechreuodd y canu yn gynnar yn y pnawn, a bu'r ddau lwyfan -un y tu mewn i Glwb Rygbi Bro Ffestiniog, a'r llall mewn marquee ar y cae- yn brysur wedyn tan hanner nos, efo amrywiaeth gwych o grwpiau ac artistiaid amrywiol iawn.
Un o'r pethau oedd yn codi 'nghalon i oedd gweld pobol o bob oed yno yn mwynhau; polisi ardderchog gan yr ŵyl o ganiatáu mynediad am ddim i blant tan 9 o'r gloch. Ond yn bwysicach na hynny efallai, hyfryd oedd gweld pobl wedi dod i fwynhau gŵyl yn Stiniog o ardaloedd eraill: Port, Caernarfon, Llŷn, Môn, Dyffryn Conwy...
Oherwydd gweithgareddau lansio Gŵyl Lechi Bro Ffestiniog yn Sgwâr Diffwys, roeddwn wedi methu'r awr a hanner gynta', ond yn benderfynol o gyrraedd mewn da bryd i weld I Fight Lions. Dewis rhyfedd o enw e'lla, ond maen nhw'n grŵp bach da efo offerynwyr talentog a geiriau arbennig i'w caneuon.
Roedden nhw'n haeddu slot hwyrach er mwyn cael gwrandawiad gwell, ond roedd eu set byr yn plesio'r rhai oedd wedi troi i mewn i'r marquee. Eu cân gryfaf oedd 'Calon Dan Glo' (cân yr wythnos ar Radio Cymru 'nôl yn Ebrill), a ddisgrifwyd gan eu canwr fel cân "am siarad efo hen bobol am Brexit"! Clincar o gân ydi hi hefyd. Dwi'n edrych ymlaen i'w gweld eto.
Yn y clwb, denodd yr hogia lleol, Gwibdaith Hen Frân griw da i wrando a chyd-ganu eu caneuon cyfarwydd. Dyma grŵp sy'n nabod eu cynulleidfa ac yn llwyddo i'w plesio bob tro.
Efo'r haul tanbaid yn cadw'r rhan fwyaf y tu allan, roedd grŵp nesa'r babell fawr, Adwaith, yn haeddu gwell torf hefyd, ond wrth i'r diwrnod fynd yn ei flaen, roedd mwy a mwy yn cyrraedd ac yn ychwanegu at awyrgylch y diwrnod.
Yn ôl y disgwyl, cododd Anweledig y to ar ddiwedd y noson, a môr o sombreros amryliw -ar bennau ac yn nwylo'r dorf- yn symud i fyny ac i lawr efo pob cân.
Roedd Graffiti Cymraeg, Karamo, a Hunaniaeth, yn sefyll allan fel caneuon i blesio'r dorf, ond heb unrhyw amheuaeth, eu hanthem -ac efallai eu teyrnged i'w milltir sgwâr- Dawns y Glaw lwyddod i greu'r cynnwrf mwyaf a'r canu mwya' angerddol gan bawb oedd yno! Gwych!
Roedd llawer uchafbwynt arall yn ystod y dydd hefyd: set dynn a phroffesiynol Estella, fel tasa nhw erioed wedi rhoi'r gorau i gigio. Gorfadd yn yr haul efo diod oer a ffrindiau bore oes, yn chwerthin efo'r plant a rhyfeddu at y gwenoliaid duon yn sgrechian uwchben.
Ac roedd gweld llond y clwb yn morio canu'r clasuron gwladgarol Tân yn Llŷn, a Safwn yn y Bwlch, efo'r canwr gwerin Gwilym Bowen Rhys, yn wirioneddol wefreiddiol (ac yn gymysgedd od iawn i granc canol oed fel fi, o lawenydd pur a dod o fewn trwch blewyn i grïo fel babi... henaint ni ddaw ei hunan, de!)
Diolch o galon i'r pwyllgor trefnu am eu llafur cariad yn atgyfodi'r ŵyl, ac i'r stiwardiaid gwirfoddol a'r clwb rygbi am eu cyfraniad i ddiwrnod cofiadwy iawn.
Yn ôl yr ymateb yno ganol nos, a'r sylwadau cefnogol wedyn ar y cyfryngau cymdeithasol, nid dim ond y fi gafodd ddiwrnod i'w gofio. Dyma obeithio y cawn fwynhau'r Car Gwyllt bob blwyddyn!
Paul Williams
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon