29.7.18

Atgofion Cynhaeaf Gwair

Erthygl gan Wil Price

Fel dywed y bardd Eifion Wyn:
‘Gwrendy y weirglodd
Am lais y bladur.’
Amser pleserus iawn yng nghalendr y fferm oedd y cynhaeaf gwair.

Mae paratoi am y cynhaeaf yn dechrau yn niwedd mis Mawrth a dechrau Ebrill, pryd mae’r amaethwr yn gwrteithio’r tir gyda thail y gwartheg dros gyfnod y gaeaf.  Yna, at ddiwedd Ebrill, roedd y plant 10-14 mlwydd oed yn cael eu gyrru allan i ‘grega’, sef mynd o amgylch y weirglodd i gyd gyda bwced i godi unrhyw gerrig a fuasai wedi dod i wyneb y tir, neu drwy ddifaterwch eraill o daflu cerrig i’r cae, a hynny heb sylweddoli mor helbulus y gallai hynny fod i’r pladurwr.

Cael y pladuron i gyd wedi eu hogi ar y maen llifio, y cribiniau i gyd gyda dannedd newydd, y picffyrch a’r drol yn barod at eu gorchwyl.

Llun gan Ellen Maiden -hel ym Mhantllwyd

Disgwyl diwrnod braf i gychwyn, un ai gwrando ar y radio am ragolygon – doedd dim sôn am deledu yn y dyddiau hynny – neu  ail-brocio’r cof am hen arwyddion a ddaeth i lawr o genhedlaeth i genhedlaeth – gweld y gwenoliaid yn hedfan yn uchel neu’n isel; sut roedd hi’n nosi? Oedd y mynyddoedd yn edrych yn bell neu’n agos? ... ac yn y blaen.

Rhaid oedd dechrau rywdro, gyda’r tad rhan amlaf yn cychwyn, a’r meibion neu’r  gwas yn ei ganlyn, a hynny tua 5 o gloch y bore cyn i’r gwlith godi.

Byddent yn wyliadwrus iawn faint i’w dorri yn ôl y rhagolygon neu eu gweledigaeth hwy eu hunain.  Ofn torri gormod, rhag ofn i’r tywydd droi yn anffafriol, neu ar yr ochor arall, ofn colli tywydd braf i barhau am wythnos neu well.  Ond profiad y tad oedd yn gyfrifol am wneud y penderfyniad yma eto.

Yna, yn amal iawn byddai’r tad yn mynd at ei waith dyddiol erbyn 8 yn y bore, a’r hogia i odro’r gwartheg yn y beudy ac yna i’r ysgol erbyn 9 o’r gloch.

Ar ôl ymborthi’r pladurwyr, amser i’r merchaid ddod allan i chwalu’r ‘stodiau’ er mwyn i’r gwair ddechrau gwywo. Y diwrnod canlynol, dilyn yr un drefn, gyda’r merchaid yn ‘troi’ y gwair er mwyn gwneud yn siŵr fod ochor isaf y gwair yn cael cyfle i wywo.

Y tad fel rheol oedd yn penderfynu os oedd y gwair yn ddigon aeddfed i’w gario i’r gadlas.

Ambell dro, byddai’r tywydd yn troi’n gymylog a gwan ac roedd yn ansicr dweud os oedd glaw yn agos.  Yr amser yma, roedd yn rhaid ‘mydylu’, a  dyma’r orchwyl gasaf gan bawb i’w wneud, achos mi fyddai’n orfodol i ‘rencio’ gwair i gyd, yna ei godi fel pebyll bach ar hyd y cae gan ofalu fod pen y mwdwl wedi ei godi fel bod y glaw yn rhedeg oddi arno i gyd, a dim yn mynd trwodd i’w du mewn.

Clywsoch lawer gwaith rwy’n siŵr fod eisiau pen iawn ar y mwdwl – wel dyma yn sicr i chwi o lle daeth y dywediad yma. Cyn cario’r gwair i’r gadlas, rhaid oedd bod yn hollol siŵr o ddau beth.

1.    Peidio byth â’i gario os nad oedd o wedi gwywo’n iawn.   Os buasai tamed ohono heb wywo, gallai’r mymryn yma boethi i’r fath wres yng nghanol y gadlas nes achosi tân a difa’r cynnyrch i gyd.  Byddai hynny’n digwydd o fewn 6 wythnos o’i gario fel rheol.
2.    Peidio byth â’i gario os oedd rhywfaint o law heb sychu yn iawn ar y gwair.  Mewn dim amser mi fuasai’r gwair yma yn llwydo'r holl gynnyrch a’i ddifetha.

Ple bynnag yr oeddech yn gorffen eich gorchwyl yn y cae gwair, y pechod mwyaf fuasai cario eich cribin tuag at y gadlas.  Na – rhaid oedd tynnu’r gribin tu ôl – rhag ofn y buasai rhywfaint o wair wedi ei fethu a hynny ar ôl i chwi hel yr olion.  Yr eglurhad yr oeddech yn ei gael – er cyn lleied o wair oedd gennych ar y gribin, fuasai hwnnw ddim ar gael pe baech ei angen yn ystod y gaeaf maith. Hwyrach y byddai’n ddigon i wneud un pryd i’r fuwch odro!

Ni fedraf orffen heb gynnwys cwpled o gyngor a gefais gan fy nhad pan oeddwn yn cychwyn ar fy ngyrfa fel plymar ym 1948.
“Cwyd dy bladur cyn iddi fynd heb ddim min,
A stopia dy geffyl cyn iddo stopio ei hun.”
Cyngor sydd â llawer o feddwl tu ôl  iddo ‘rwy’n siŵr - tu allan i fyd ffermio! 
Dyddiau difyr iawn. 
----------------------------


Ymddangosodd yn wreiddiol (heb y llun) yn rhifyn Mehefin 2018

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon