2.8.18

Ffermydd Bro Ffestiniog -6

Parhau â chyfres Les Darbyshire, efo ail ran Plwyf Trawsfynydd.

Mae’r hen ffordd o’r Traws i Lanuwchlyn yn llawn o ffermydd diddorol a hanesyddol  i fyny i Benstryd.

Cychwynwn eto o hen bont Traws a mynd at y fferm gyntaf sydd ar y ffordd yma sef  Rhyd y Felin, a wedyn ymlaen i Dŷ’n Llyn, Tŷ’n Rhos, Derwgoed, Bryn Llefrith, Tyddyn Bach, Plas Capten, Gilfach Wen a Phenstryd. Dwy fferm arall  gyfagos ydi Rhiw Goch ac Adwy Goch. Mae’n rhyfedd fel mae hen enwau’r ffermydd yn cael eu llefaru, maent yn fiwsig i’r glust  ac mae mwyafrif ohonynt yn disgrfio natur y cylch neu eu lleoliad. Ond erbyn hyn, mae ystyr gwreiddiol yr enwau bron a’u colli. Cymerwn fel esiampl Brynllefrith. Dywedir bod carreg ateb yn ffridd y ffarm, a bod rhith ynglŷn â phob llef yno: LLEF- RITH.                     

Diddorol yw hanes ffarm Plas Capten. Yr hen enw arni oedd Gelli Iorwerth. Newidwyd yr hen enw pan wnaeth Capten John Morgan etifeddu’r ffarm. Roedd y Capten yn hannu, ar ochor ei fam, o deulu Llwydiaid Rhiw Goch. Swyddog ym myddin Siarl y Cyntaf oedd, ac yn ei gefnogi yn ystod y Rhyfel Cartef. Pan drechwyd byddin Siarl, bu rhaid i’r Capten ddianc a daeth i Gelli Iorwerth. Ond nid oedd yn ddigon diogel yno a bu rhaid iddo ymguddio mewn ogof. Ymgeleddwyd ef gan wraig a oedd yn byw yn ffermdy Wern Gron. Gelwir yr ogof gan rai yn ‘Siambr y Capten’, neu yn briodol ‘Carreg yr Ogof.’  Bu’n llechu yn yr ogof i ddianc oddi wrth filwyr Cromwell, a oedd am ei waed.  Bu iddynt wybod lle’r oedd a gorchmynwyd ef i ildio a rhoi ei hun o flaen y maen, ac fe’i saethwyd yn farw yn y fan ar lle.

Diddorol fel mae hanes yn ail adrodd ei hun - yn ystod yr Ail Ryfel Byd, fe ollyngodd awyren o’r Almaen un-ar-ddeg o fomiau rhwng Tomen y Mur a Phlas Capten a disgynnodd tair ohonynt yn Wern Gron, ond y bobl leol yn ddiolchgar nad oedd dim difrod wedi ei wneud!

Bedd Porus, dafliad carreg o Benstryd (llun Paul W)

Mae cylch Penstryd yn ddistaw y dyddiau yma. Dim ond fferm fach a’r capel sy’n aros, a diolch fod drws y capel yn dal yn agored. Yn ei fri ’roedd y pentre’n llawn bwrlwm o weithgareddau. Ar wahân i’r fferm, roedd Penstryd yn fan pwysig o ran trafnidiaeth. Cyfarfyddai pedair cangen o’r ffordd Rufeinig yn Mhenstryd, sef un i Ddolgellau, un i Harlech, un i Domen y Mur ac un i Lanfachreth. Mae enw Penstryd yn dod o’r cyfnod Rhufeinig - y gair ‘Stryd’  yn dod o’r gair ‘Strata’, sef ffordd Rufeinig wedi ei phalmantu ac i ddangos lleoliad, y gair ‘Pen’ i arwyddo bod y ffordd wedi cyrraedd ei brig.     

Roedd Penstryd yn bentre ar ben ei hun a thai gweithwyr i’r rhai oedd yn gweithio yn y mân-weithfeydd ar y bryniau cyfagos. Roedd Penstryd yn nodedig am ei gofaint, yma y gwnaethpwyd miloedd o glipiau neu bedolau gwartheg. Byddai llanciau cryfion yn cwympo’r gwartheg ar y gwastadedd a llu o ofaint yn eu pedoli cyn eu cychwyn i ffeiriau yn Swydd Gaint ac Essex. Mae’n werth nodi enw fferm gyfagos, er ei bod ym mhlwyf Llanfachreth, sef ffarm Dolgefeiliau - a oedd hefyd yn lleoliad i bedoli gwartheg – tybed a oedd cystylltiad rhyngddi â  gofaint Penstryd? Tybed ai ym Mhenstryd oedd y pedolau’n cael eu gwneud ond yn cael eu gosod yn Nolgefeiliau, trwy bod y ffarm honno yn ymyl Afon Eden a digonedd o ddŵr ynddi i ddyfrhau’r holl anifeiliaid a bod digonedd o borfa dda iddynt? Roedd hi’n daith o ryw dair milltir i’r gofaint o Benstryd i Ddolgefeiliau.

Rhiw Goch – dyma un o’r ffermydd hanesyddol mwyaf pwysig yn y fro. Bu teulu’r Llwydiaid yn berchen y plasdy yn ystod y 15fed, 16eg, a’r rhan fwyaf o’r 17eg ganrif. Nid oes cofnod o bryd yr adeiladwyd y tŷ. Roedd y Llwydiaid  yn bobl pwysig ym Meirionnydd, yn ddisgynyddion o Owain Gwynedd. Bu Robert Lloyd yn Aelod Seneddol dros Feirionnydd ym 1586 a 1601, a bu hefyd yn Uchel Siryf ar bedwar achlysur.

Ym 1577, ganwyd John Roberts, y merthyr, yn Rhiw Goch. Magwyd ef yn brotestant yn Eglwys Sant Madryn, y Traws, ond trodd at yr hen grefydd babyddol a dod yn fynach. Cafodd ei addysg yn Ffrainc. Bu’n gweithio’n ddirgel yn Ffrainc, ac ef oedd y mynach cyntaf i ddychwelyd ar ôl i Harri VIII ddiddymu’r mynachlogydd, a hynny’n gyfrinachol. Adnabuwyd ef gan yr awdurdod Prydeinig fel drwgweithredwr ac roedd ysbïwyr yn ei wylio. Fe’i daliwyd, ac er iddo gael cyfle i ddianc, fe arhosodd i fynd gerbron y llys, pryd y dyfarnwyd ef yn euog o deyrnfrawdwriaeth. Cafodd ei grogi, ei ddadberfeddu a’i chwarteru  ar y 10fed o Ragfyr 1610.    

Gwynfendigwyd John Roberts ym 1929 a chanoneiddwyd ef ym 1970 gan y Pâb John Paul VI.  Bellach, gallwn ddweud fod un o blant y Traws wedi ei anrhydeddu’n Sant!

Mae llawer o wŷr amlwg wedi bod yn byw yn Rhiw Goch ers y cyfnod yna,  a bu’r ffermdy’n ffynnu tan ddechrau’r ganrif diweddaf pan ei phrynwyd  gan y Swyddfa Rhyfel ac addasu’r tŷ i fod yn ‘Officer's Mess’. Tua 1956, fe’i prynwyd gan Mrs Sally Snarr, Cross Foxes, Traws a’i addasu fel gwesty. Roedd gŵr Mrs Snarr yn ringyll a chogydd yn Rhiw Goch adeg yr Ail Ryfel Byd.
------------------------


Ymddangosodd yn wreiddiol (heb y llun) yn rhifyn Mehefin 2018.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde (rhaid dewis web view os yn darllen ar ffôn).


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon