6.8.18

Stolpia -Wagan Gynta'r Rýn

Cyfres Hynt a Helynt Hogiau’r Rhiw yn y '50au, gan Steffan ab Owain.

Erbyn yr 1950au roedd y ‘Lein Fach’ fel y gelwid Rheilffordd Ffestiniog gennym, a’r ryn o wageni a gariai lechi ‘Stiniog i lawr i Borthmadog wedi dod i ben, ac o ganlyniad, roedd bariau’r rheilffordd, yn ogystal â rhai o’r hen wageni wedi dechrau rhydu. Cofiaf bod un wagen wedi ei gadael ar ei hochr ger y lein yn y Dinas, yng ngwaelod yr inclên a ddeuai i lawr o’r Gloddfa Ganol.


Cofiaf  hefyd bod un arall wedi ei gadael nid ymhell o’r Bont Fawr (Bont Goch), ac er nad oedd hi wedi bod mewn defnydd am beth amser, medrodd yr hogiau mawr a oedd yn hŷn na ni ei chodi yn ôl ar y cledrau, ac yna gwthio hi rhyw ychydig i lawr y lein at y Dinas. Er bod yr hen wagen yn gyndyn o hwylio neu redeg yn rhwydd ar y lein i ddechrau, dechreuodd ei holwynion droi yn rhwyddach yn y man, a chawsom bas i lawr arni hi hyd at Y Groesffordd, lle byddai y diweddar Ali a Len ei frawd yn byw. Rhoesom naid oddi arni yn y fan honno ac yna aed ati hi i’w gwthio’n ôl at y Dinas, ac i ryw bedwar o hogiau bach wneud hynny, roedd yn dipyn o strach, credwch fi! Wedi ei chael at y fan lle roedd hi’n hwylus inni neidio arni hi y diwrnod canlynol, gosodwyd cerrig dan yr olwynion i rwystro iddi redeg i lawr yn ei hôl.

Beth bynnag, roeddem i gyd yn edrych ymlaen am gael pas (reid) arni hi drannoeth, ond pan aethom yno, roedd rhai o’r hogiau mawr wedi tynnu’r cerrig a rhedeg y wagen ymhell i lawr y lein er mwyn iddynt hwythau gael pas arni a dipyn o hwyl. Aeth dyddiau heibio cyn i’r wagen ddod i’r fei drachefn, ac o beth a gofiaf, rhyw un tro arall a gawsom yn eistedd ynddi a chael pas a hwyl iawn yn mynd i lawr y lein fach. Ychydig wedyn penderfynodd rhai o ddynion yr ardal ei thaflu ar ei hochr fel nad oedd neb yn mynd i gael anaf yn chwarae efo hi.

Roedd y Bont Fawr a Phenybont yn fan chwarae answyddogol inni ar ddydd Sadwrn ac yn ystod gwyliau’r haf hefyd. Mae hi’n anodd credu heddiw, ond rwyf yn rhyw led gofio Io, Ken, Dei Clac a finnau yn mynd i fyny i ben y bont gyda hen hancesi poced, neu ddarnau bach o hen gynfas gwely, tameidiau o linyn, cyllell boced, a phytiau o hen soldiwrs plwm, neu washars, ac yna gwneud parasiwtiau i’w gollwng i lawr o’r bont i’r hen lein fach islaw. Neu weithiau, byddid yn gwneud awyrennau papur a’u hedfan o ben y bont, i ble bynnag y byddai’r gwynt yn eu cipio. Cofiwch, roedd tipyn o waith cerdded i lawr o’r bont i nôl y parasiwtiau, ac ar ôl gwneud hynny rhyw un waith neu ddwy, buan iawn y blinid ar y gêm, a throi at rywbeth arall i’w chwarae.

Peth arall a gofiaf tra’n chwarae ar y lein fach oedd gweld mochyn bach (porchell) yn rhan uchaf y rheilffordd, sef wrth y bont a fyddai rhwng y Bont Fawr a’r rhan a fyddai yn arwain at bont y ffordd fawr ger Chwarel Llechwedd. Methaf â chofio yn iawn os oedd yn fyw neu’n farw, a methasom ni’r hogiau a meddwl o ble ar y ddaear y daeth y creadur i’r fan honno. Wrth gwrs, roedd rhai yn cadw moch yn Nhalyweunydd y pryd hynny, ac y mae hi’n bosib mai wedi dianc o’i dwlc yn y fan honno yr oedd y porchell. Efallai bod un o’r hogiau yn cofio’r digwyddiad yn well na mi. 
--------------------------------------------
   
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2018.
Dilynwch Stolpia efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde. (Os yn darllen ar ffôn rhaid dewis 'web view').

Llun o gasgliad yr awdur.


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon