“Mae drychiolaethau ar hyd y lle”
Cyfres fer gan Bruce Griffiths.
A fyddwch chi’n credu mewn ysbrydion? Na fyddwch, mae’n siwr; ni fyddech chi byth yn cyfaddef y fath beth. Fe ddywedodd T.H. Parry Williams nad oedd yn credu mewn ysbrydion, ond bod arno eu hofn! Ac meddai’r enwog Dr Samuel Johnson ynghylch y gred mewn ysbrydion “Mae pob dadl yn ei herbyn; ond mae pob cred o’i plaid.” Pobl ddoeth a chall iawn yw’r geiriadurwyr ‘ma! Eto, yn yr oes oleuedig hon, ni flinodd pobl ar glywed ac ar adrodd stori ysbryd. Ni welais i ysbryd erioed; ni hoffwn i weld un ychwaith. Ond dyma rai hanesion od ac annifyr a glywais i gan bobl nad oedd gennyf unrhyw le i amau eu geirwiredd, er mai anghredinwyr llwyr oedd rhai ohonynt, fel mae hi ryfeddaf!
Pan oeddwn yn yr hen Ysgol Cownti pwyswyd arnaf gan Miss Annie Roberts, yr athrawes Gymraeg, i gyfrannu ysgrif ar “Gwmbowydd” i Flodau’r Grug, cylchgrawn yr ysgol (fy ngwaith llenyddol cyntaf!!!). Mi fum i’n cribinio trwy lyfrau hanes yr ardal am eu cyfeiriadau prin at y cwm, ond yr unig beth diddorol yn yr ysgrif oedd stori a glywswn droeon gan fy mam, sef bod ysbryd geneth yn cerdded y llwybr drwy’r cwm y noson cyn y Nadolig, neu ar nos Galan, geneth a lofruddwyd gan ei chariad. Rhaid bod y stori hon ar lafar gwlad pan oedd fy mam yn llances, yn nauddegau’r ganrif ddiwethaf, dyweder. Wrth adolygu Blodau’r Grug, sylwodd Ernest Jones, prif groniclydd ‘Stiniog, ar y stori a dweud i rywun weld yr ysbryd yng nghoed Cwmbowydd yn ddiweddar. Pa sail sydd i’r stori tybed? Er na chredai fy mam mewn ysbrydion, soniodd droeon am dŷ lle cerddai ysbryd, heb fod ymhell o’n cartref ni, ar Ffordd Wynne, yn rhywle rhwng yr hen Ysgol Sentral a Phont y Felin. Ni wn i ragor: a wyr rhywun ohonoch yn amgenach?
Pan oeddwn yn byw ym Methania, cofiaf gymydog imi (nas enwaf) ac sy’n hanu o ardal Minffordd, yn dweud hanesyn rhyfedd. Un diwrnod yr oedd ym mharlwr ei gartef ym Minffordd a thrwy’r ffenestr gwelodd gydnabod iddo’n sefyll wrth y giât ac ar fedr dod at y drws ffrynt. Rhyfeddodd yn fawr: y tro diwethaf iddo glywed amdano, ‘roedd y cyfaill yn ddifrifol wael yn ysbyty’r Port. Erbyn agor y drws nid oedd neb yno. Yn nes ymlaen clywodd i’r cyfaill farw yn yr ysbyty ar union yr un adeg ag y gwelsai ef wrth y giat! Ac eto, meddai fy nghymydog, nid yw’n credu mewn ysbrydion!
Anghredadun rhonc fyddai fy nhad, John Griffiths: ac eto ganddo fo y clywais i stori ryfedd arall. Adeg y rhyfel bu’n rhaid iddo fo a miloedd o Gymry eraill hel eu pac a mynd i Loegr i chwilio am waith. Aeth i weithio mewn ffatri alwminiwm mewn lle o’r enw Stockton ger Leamington Spa. Un diwrnod yr oedd o a gweithiwr arall yn agor ffos neu cloddio rhywbeth, fel eu bod y tu ôl i glawdd o bridd ac islaw lefel y ddaear. Clywsant swn traed gweithiwr arall yn agosau atynt, ond o’r golwg iddynt. Yr oedd yn hawdd ei adnabod ar ei gerddediad, felly dyma nhw’n ymsythu i’w gyfarch. Aeth swn y troedio heibio iddynt, ond nid oedd neb i’w weld. Bryd hynny y cofiasant i’r cyfaill hwnnw farw wythnos ynghynt.
Mae cof gennyf – yn anffodus, brith gof yn unig – o Mrs Catherine (Cadi) Griffiths, Tŷ’r Stesion, Tanygrisiau yn son am rhywbeth sinistr. Magwyd hi yn Sgwâr y Parc. Yr oedd yno dŷ, meddai, yr oedd ar bawb ofn mynd iddo. Yr oedd gan yr un a drigai yno – ni chofiaf p’un ai gŵr ynteu gwraig – allu annifyr iawn. Gallai wneud i bethau dienaid symud trwy estyn llaw neu fys atynt. O’r gadair freichiau ger y tân gallai estyn llaw a pheri i’r heyrns tan ddawnsio a symud o flaen y lle tân. Wel! Ni chlywswn erioed y fath beth: ‘roedd yn peri i ias redeg i lawr fy nghefn i, ac am a wn i mae meddwl am y peth yn codi arswyd o hyd.
A all cathod weld pethau sy’n anweledig i ni? Mae llawer wedi credu hynny. Soniodd fy Nain droeon am yr adeg pan oedd ei mab, f’ewythr Tomi o annwyl goffadwriaeth, yn ei wely yn ddifrifol wael. Bob dydd deuai’r gath i’w lofft i orwedd ar ei wely a chadw cwmpeini iddo. Ond un diwrnod, ni ddaeth y gath ddim ymhellach na throthwy’r llofft. Mi safodd hi, syllu ar wyneb y claf, troi, a sgrialu trwy’r tŷ nes bod y matiau’n fflio, ac allan a hi. Ni ddaeth yn ei hôl tan dridiau’n ddiweddarach, ar ôl cynhebrwng Tomi druan.
----------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol (heb y llun) yn rhifyn Hydref 2002.
[Llun -Paul W.]
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon