1.9.18

Be ydi o am Gwmorthin?

Erthygl wadd gan Aled Hughes, cyflwynydd rhaglen foreol Radio Cymru. Mae’n garedig ei eiriau am Fro ‘Stiniog bob tro; diolch iddo am ei barodrwydd i roi pin ar bapur.
Yma mae’r creigiau’n cyfarfod,
Yma mae’r creigiau fel cyfrinach
Yn closio at ei gilydd, yn sefyll ysgwydd wrth ysgwydd;
Yma mae cwpan unigrwydd.
Llinellau agoriadol ‘Cwmorthin’, Y Weledigaeth Haearn (1965) Gwyn Thomas. Be ydi o am Gwmorthin? O le ddaw yr ymdeimlad yna o hud a lledrith? Pam bod rhywun wrth sefyll yno bron yn gallu arogli’r gorffennol? Dwn ‘im a dwi ddim am wybod. Mae’r teimlad yna; dyna’r unig beth sy’n bwysig. Dwi’n caru Cwmorthin.


Dwi’n caru’r ardal ‘cw i gyd. Cynfal. Rhaeadr Ddu. Rhaeadr Gynfal. Pulpud Huw Llwyd. Mynydd Manod. Llyn Stwlan. Y tomenni...

Chi. Y bobol. Wastad yn groesawgar. Y Gymraeg wastad yn gyntaf. Y syniad o gymuned a helpu’ch gilydd yn rhan anatod o’ch brethyn chi ers degawdau. Da ‘di Stiniog.

Oes yna un ardal wedi cyfrannu cymaint i ddiwylliant ein gwlad anhygoel? Dwi wedi meddwl am hyn, a dwi ddim yn siwr os oes yna. Ma’ Stiniog yn uchel iawn iawn ar y rhestr o leia’. Dwi ‘di enwi un o’r cewri’n barod, Yr Athro Gwyn Thomas. Merêd. Yws. Anweledig. Rhaid i mi stopio, neu mi fyddai wedi pechu trwy beidio ac enwi rhywun!

Y chwedlau, y lechen, y bobol, y beirdd, y cantorion a’r llenorion. Mae Cymru yn lwcus iawn o’r ardal. Crud Cymreig a Chymraeg naturiol y dylai pawb yn y wlad fod yn falch iawn ohoni. A dyma lle dwi’n poeni. Dyma lle dwi’n edrych ar ardal fel yr un acw a phryderu ynglŷn a be sydd o’n blaenau ni i gyd.

Mae yna newid wedi bod ac mae o yn digwydd. Mae yna fygythiad gwirioneddol i nifer o bethau ‘da ni yn eu cymryd yn ganiataol.

Cwmorthin>Spooky Valley. Cwm Cynfal>Devil Pulpit Cove. Stwlan>Dam Lake. Dychmygwch yr enwau yma yn cael eu defnyddio a’u rhannu a’u pasio o un i’r llall heb neb yn meddwl dwywaith! Wel, does dim rhaid dychymygu. Mae o yn digwydd mewn sawl ardal yn barod. Wrth i bobol ymgartrefu yma a rhannu hyfrytwch ein gwlad â’u gilydd, mae yna enwau yn cael eu creu sydd yn haws i gynulleidfa ehangach eu ‘deall’.

Mae yna nifer yn dod i Gymru, yn gwneud ymdrech, dysgu’r iaith a chyfrannu at ddiwylliant naturiol unrhyw ardal. Diolch o galon amdanyn nhw. Ond mae’r rheini sydd ddim â’r un gwerthfawrogiad yn gallu gwneud difrod. Nid yn fwriadol efallai, ond trwy anwybodaeth, ac mi all hynny fod yn beryclach.

Ar lafar, ar instagram, twitter a facebook. Os oes yna enwau sydd wedi eu creu yn cael eu rhoi ar leoliadau - cywirwch nhw! Mae’r cyfrifoldeb ar ein hysgwyddau ni, go brin y daw arweiniad o unlle arall. Dwi ddim yn gwybod a fydd hyn yn ddigon. Mae’n bosib’ fod rhai llefydd eisioes wedi colli’r enwau cynhenid am byth. Ond dwi ddim yn meddwl bod pwdu a digaloni am helpu chwaith. Ein lle ni ydi amddiffyn treftadaeth ein cyn-deidiau.
-------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf 2018.

Dilynwch Aled ar Twitter a Facebook: @AledH_ @aledllanbedrog
BBC Radio Cymru 8.30-10 bob bore (Llun-Gwener)

[Llun- Paul W]


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon