Derbyniodd Arlywyddion, Prif Weinidogion a theuluoedd brenhinol ar draws y byd lechen o ‘Stiniog gyda’r logo ‘Llechi Bro’ mewn ymgais i bwysleisio pwysigrwydd hanesyddol a gogoniant diwydiant chwareli Ffestiniog.
Cafodd y llechi eu hanfon hefyd at y Cenhedloedd Unedig, yr Undeb Ewropeaidd, i Antarctica ac i wladwriaethau nad ydynt hyd yma yn cael eu cydnabod gan y Cenhedloedd Unedig, fel Palesteina.
Gofynnodd y disgyblion i’r arweinwyr dynnu llun gyda'u llechen i ddangos eu cefnogaeth i'r ymgyrch. Mae swyddfa Prif Weinidog Prydain, Theresa May hefyd wedi ymateb ond siom gafodd yr ysgol i dderbyn llythyr gan ei swyddfa yn adrodd nad oedd amser ganddi i gymryd rhan!
Llechi i’r Gambia a’r Gofod
Gareth Davies, athro Daearyddiaeth Ysgol y Moelwyn (*) sy'n cydlynu'r cynllun, ac mae’n hynod falch o ddatblygiad y prosiect.
"Mae'r myfyrwyr yn mwynhau'r profiad unigryw hwn, a thrwy eu brwdfrydedd a’u cariad at Ddaearyddiaeth, maent yn fodlon dangos eu balchder at y diwydiant llechi a balchder at eu bro a’u diwylliant i’r byd. Maent yn gweld ei fod yn hanfodol gwarchod eu gorffennol a’u dyfodol,"meddai Mr Davies.
"Y llynedd, fe wnaethom am y tro cyntaf erioed, anfon darn o lechen Ffestiniog i’r gofod, felly mae'r disgyblion yn ehangu eu gorwelion! Mae'r antur hon yn creu ymdeimlad o falchder yn y bobl ifanc sydd wedi’u hysbrydoli gan yr ymgyrch. "Mae cryn gost i’r fenter ac mae’r disgyblion wedi cynhyrchu crysau T arbennig i godi arian. Maen nhw ar gael yn yr ysgol ac yn Nhafarn y Pengwern.
Mae’n amlwg yn ôl eu hymateb, bod disgyblion blwyddyn 8 wedi elwa’n fawr yn barod o’r profiad unigryw yma:
“Dwi’n hapus iawn cael cymryd rhan yn y prosiect yma a gweld yr arlywyddion yn ateb yn ôl”, meddai Sion Hughes; “dwi wedi modelu’r crysau T i helpu eu gwerthu, er mwyn codi arian tuag at gostau postio’r llechi”.
Mae Teleri Wyn Hughes wrth ei bodd fod y logo wnaeth hi gynllunio yn cael ei arddangos ar y crysau swyddogol i’r Wŷl Lechi: “Gyda lwc bydd pobl yn dal i wisgo’r crysau yma am flynyddoedd i ddod a chofio’r wythnos yma fel digwyddiad hanesyddol”.
“Dwi’n mwynhau’r prosiect yn fawr”, meddai Beca Williams, “am ein bod yn dysgu am wledydd y byd, ac ychydig o hanes a gwleidyddiaeth hefyd, heb orfod eistedd mewn gwersi!”
---------------------
Addasiad ydi'r uchod o erthygl a ymddangosodd yn rhifyn Gorffennaf 2018.
Diweddariad o rifyn Medi:
Daeth ymatebion o bedwar ban y byd, a’r llythyrau yn dal i gyrraedd. Hyd yma, cafwyd ymateb ffafriol gan Leanne Wood a Carwyn Jones o’n Senedd ni’n hunain yng Nghymru, yn ogystal â llythyrau a lluniau o Samoa, Canada, Monaco, Brasil, Dominica, De Corea, Seland Newydd, Yr Almaen, Sri Lanka, Ffrainc, Malta, a Lwcsembwrg!
Llongyfarchiadau i ddisgyblion Ysgol y Moelwyn ar eu menter, a phob lwc i’w hathro daearyddiaeth, *Gareth Davies ar ei gyfnod yn dysgu yn Rwsia. Cofia atgoffa Putin am lechi Stiniog...
Dilynwch y datblygiadau ar gyfrif Trydar @LlechiBro
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon