2.10.18

Ffermydd Bro Ffestiniog -7

Parhau â chyfres Les Darbyshire; y tro hwn, cylchoedd Cwm Prysor a Llyn Traws

Mae nifer o ffermydd wedi eu lleoli o gwmpas y ffordd newydd i’r Bala - sef yr A4212. 
Yn cychwyn o gyfeiriad Traws, ac ar y dde i’r ffordd cawn Wern Gron (neu Pandy - ar lafar),  Tŷ’n y Carneddau, Tŷ’n y Griafolen, Penybryn, Hafod Wen,  Caerhingylliad, Nant y Frwydr – neu Nant Fudr ar lafar, a Dolhaidd. Ar yr ochor chwith i’r ffordd mae ffermydd Pant Mawr, Cae Glas, Glan Llafar, Bryn Heulog, Fad Filltir,  Dôl Prysor, Hendre Bryn Crogwydd a Blaen Cwm  (tŷ preifat yn awr).

Edrych i lawr am Gwm Prysor o flaen y cwm. (Llun -Paul W)
Mae hanes difyr i rai o’r ffermydd yma. Cyhoeddodd yr Athro Syr Ifor Williams lyfryn yn 1942 - Enwau Lleoedd' - a chawn eglurhad ar yr enw Dôl Prysor - ‘Prys’ yn golygu llwyn neu llwyni, ac ‘Or’ yn golygu nifer neu gasgliad. Ystyr Dôl Prysor felly ydi dôl â nifer o lwyni yn tyfu ynddo. Cawn hefyd hanes am Fad Filltir -mul oedd ganddynt i droi y werthyd i gorddi. Hefyd bu i Glan Llafar rannu y ffarm yn ddwy ac adeiladwyd tŷ ffarm newydd, sef Bryn Heulog.

Ar yr ochor ddwyreiniol i Afon Gain, yng Nghwm Dolgain, ceir olion dwy ffarm - sef Dôlmynach a Dôlmynach Uchaf - dywedir iddynt fod â chysylltiad ag Abaty Cymer, Llanelltyd; hefyd fe welir adfeilion hen ffarm Yr Alltwen.

Bu y diweddar David Tudor yn byw yn Nant y Frwydr ac ʼroedd yn enwog am ei fuches o wartheg duon. Dyma’n ôl y sôn lle bu ymladd rhwng dynion Llawrplwyf a Chwm Prysor.

Mae llawer o enwau eraill yn gysylltiedig â’r Cwm, ond dydw i ddim yn sicr o’u lleoliad. Dyma rai - Y Gors, Cae Gwair, Tanrallt, Darngae. Hwyrach bod rhai o ddarllenwyr Llafar Bro yn gwybod eu hanes, yn ogystal ag enwau ffermydd eraill nad wyf wedi eu crybwyll yn yr erthygl.

Awn eto at Bont Prysor yn Nhrawsfynydd ac ymuno â ffordd yr A470 a mynd i gyfeiriad Dolgellau, a dilyn y ffermydd ar yr ochor dde, gan gychwyn gyda ffermydd yng Nghwm Cefn Clawdd, sef Foty Graig Wian, Wern Uchaf, Wern Bach, Cefn Clawdd, Tŷ Cerrig a Tŷ’n Drain - a gollodd beth tir  i’r llyn.

Ar ochor orllewinol i’r llyn, cawn amrhyw o ffermydd sef - Cae Adda, Cae Rhys, Ffridd Wen, Tŷ’n Twll, Moelfryn Uchaf ac Isaf a Coed Rhygyn.

Dyma restr o’r ffermydd sydd o dan y dŵr fel y cefais gan John Gwyn Davies, y Goppa:
Brynwy,  Tŷ’n Ddôl,  Llwyn Derw a Pandy’r  Ddwyryd, ond fe roddir ychwaneg yn y llyfryn ‘Hanes Bro Trawsfynydd’ sef - Gwndwn, Moel Fryn, Brynhir, Llennyrch a rhan o dir Cefngellgwm.
Awn yn ôl i Dŷ’n Drain, ond  cyn dechrau, cawn ychydig o hanes y ffarm. Mae Ellen Davies, Tŷ’n Drain wedi crynhoi ar bapur beth o hen hanes y ffarm:
“Mae’r ffarm yn 132 acer ac yn cadw o gwympas dau gant o ddefaid a rhyw dri deg o wartheg, gydag ychydig o ieir a mochyn yn yr hen ddyddiau. Byddent yn tyfu tatws, moron a llysiau eraill. Hefyd roeddynt yn plannu llond cae o flaen y tŷ  -ynghyd â bresych er mwyn eu rhoi i’r gwartheg. Pan fu i’r CEGB (Bwrdd Cynhyrchu Trydan) agor canal yn 1956-57, bu hynny’n rhwystr i amryw bethau. Roedd ganddynt ddŵr a thrydan yn y ffarm cyn hynny ond fe stopiwyd am gyfnod o’r herwydd. Bu’r Americanwyr yn gwersylla ar y ffarm adeg yr Ail Ryfel Byd yn barod  at ‘D Day’. Roeddynt  yn rhannu anrhegion megis sigarenau a siocled ac yn y blaen.” 

Diolch i Ellen  am y wybodaeth.  Roedd y Teulu Davies yn denantiaid Tŷ’n Drain ers  llawer blwyddyn cyn i’r CEGB roi caniatad iddynt ei brynu.
-------------------------------


Ymddangosodd yn wreiddiol (heb y llun) yn rhifyn Gorffennaf 2018.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde (

rhaid dewis web view os yn darllen ar ffôn).


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon