Mae Graham Williams yn rheoli Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru. Ymysg ei safleoedd mae Coedydd Maentwrog, Coed Cymerau, a mwy. Dŵr sydd wedi creu ein ceunentydd trawiadol, ac mae’n parhau yn allweddol i’r cynefin prin yma hyd heddiw.
------------
Mae ein gwlad fechan werdd yn un o’r gwlypaf yn Ewrop! Mae hynna’n dipyn o ddweud yn tydi! Ond tra bo’r rhan fwyaf ohonom yn cwyno yn enbyd am y tywydd sâl, mae yna gynefin prin iawn ac o bwys rhyngwladol sydd yn hollol ddibynnol ar yr hinsawdd ‘arbennig’ yma yng ngorllewin Cymru.
Tra bod nifer ohonom yn gyfarwydd gyda choedwigoedd glaw trofannol enfawr Brasil, y Congo neu Sumatra sydd ar ledredau canolig ac ar hyd y cyhydedd, faint ohonom sydd wedi clywed am y coedwigoedd glaw Celtaidd, yma yn Ynysoedd Prydain?
Mae’r coedwigoedd yma yn rhan o rwydwaith byd eang o goedwigoedd glaw tymherus sydd yn tyfu ar lannau arfordirol llaith yn bennaf ar rannau o arfordir gorllewinol yr Amerig, Siapan, Tasmania, Seland Newydd ac Ewrop. Ar lannau gogleddol Môr yr Iwerydd yma yn Ewrop ceir esiamplau arbennig yn Norwy a rhannau bach o orllewin Cymru, Yr Alban, Iwerddon, ac Ardal y Llynnoedd a Dyfnaint yn Lloegr. Un o nodweddion y coedlannau Celtaidd yma yn Ynysoedd Prydain ydi amlygrwydd coed derw a bedw, gydag ynn, cyll a choed llwyfen.
Ydi, mae’r coedwigoedd glaw Celtaidd yma yn wahanol iawn i’r coedwigoedd glaw trofannol, h.y. anaml iawn mae rhywun yn dod ar draws mwncwn neu ddiogyn dribys wrth fynd am dro yng nghoedwigoedd Dyffryn Stiniog ar bnawn gyda’r tymheredd dros 34 gradd Celsius!! Ond mae ecoleg y ddau fath o goedwig yn hollol ddibynnol ar leithder cyson drwy’r flwyddyn, ac felly yn hynny o beth mae ecolegwyr yn eu disgrifio fel coedwigoedd glaw. Ffaith ddiddorol ydi bod y coedwigoedd glaw tymherus yma bellach yn gynefinoedd sydd yn fwy prin na choedwigoedd glaw trofannol!
Mae effaith y lleithder a glaw cyson yma yn rhannol gyfrifol am esblygiad ecosystem hynod gyfoethog gyda nifer o’r coedlannau yma wedi goroesi dros wyth mil o flynyddoedd i gyfnod lle oedd coedlan dymherus bron ddi-dor yn ymestyn o Norwy lawr i Bortiwgal. Oherwydd eu lleoliad mewn ceunentydd garw oedd llawer rhy serth i’r coedwigwyr ac amaethwyr mae’r coedlannau yma wedi goroesi gyda nifer fawr o rywogaethau arbenigol a phrin o fewn ecosystem gymhleth a hynod werthfawr.
Mae’r lleithder yma ar lannau gorllewin Cymru, sydd yn cadw’r amgylchedd yn weddol fwyn a chlir o lygredd amgylcheddol, yn ffafrio rhywogaethau megis mwsoglau, llysiau’r afu, rhedynau a chen. Yn yr ardaloedd mwyaf llaith mae pob wyneb craig neu risgl coed yn orchudd llwyr o garped gwyrdd di-dor. Oherwydd y lleithder eithriadol nid oes angen gwreiddiau confensiynol ar y planhigion cyntefig yma, yn hytrach mae'r planhigion yn amsugno dŵr a maeth o’r amgylchedd trwy eu dail. Lle mae pocedi o bridd ceir coed llus, grug a nifer fechan o blanhigion blodeuol fel suran y coed a chlychau’r gog ar lawr y goedlan.
Wrth gwrs mae’n rhaid i ddŵr lifo lawr i'r môr, ac felly lle ceir glaw trwm ceir afonydd chwim a lenwith y coedlannau gyda lleithder dwys. Mae Dyffryn ‘Stiniog yn adnabyddus am y nifer fawr o geunentydd coediog dwfn sydd wedi eu ffurfio (ac sydd dal wrthi yn ffurfio!) dros filoedd o flynyddoedd o ganlyniad i erydiad dŵr. Mae rhai fel Ceunant Llennyrch a Cheunant Cynfal yn esiamplau arbennig o ansawdd rhyngwladol am eu diddordeb geomorffoleg, neu'r broses dirnewid.
Mae’r nentydd ac afonydd chwim yma yn cynnal rhywogaethau adnabyddus megis bronwen y dŵr, aderyn sydd gyda’r gallu arbennig o gerdded o dan y dŵr wrth hela'r nifer fawr o bryfetach prin sydd hefyd wedi addasu yn berffaith i'r amodau unigryw. Yr anifail mwyaf adnabyddus i lawer o bobl wrth gwrs ydi’r dyfrgi, anifail swil iawn sydd yn hela physgod bach a llyffantod. Er mai anaml iawn mae rhywun yn gweld dyfrgwn, mae posib gweld eu holion oherwydd yr arferiad o fawio ar gerrig amlwg ar hyd dyfroedd afonydd i farcio tiriogaeth.
Mae edrychiad, ecoleg a pharhad y coedwigoedd arbennig rhyngwladol-bwysig yma yn ddibynnol ar nifer o ffactorau pwysig. Bennaf oll ydi cyflenwad o leithder cyson dros y flwyddyn i gynnal llif yn yr afonydd a nentydd, a chadw lefelau lleithder yn uchel oddi dan y canopi coed. Mi oedd haf 2018 yn eithriadol o safbwynt parhad y tywydd sych a’r tymheredd uchel. Mae rhai effeithiau amlwg wedi dod i'r gweill o ganlyniad y tywydd, megis colled goed ifanc ar glogwyni a cholled canghennau mawrion rhai coed hynafol. Ond mae llawer o waith ymchwil angen ei wneud i ddehongli holl effeithiau'r sychder, yn enwedig ar y mwsoglau, cen a rhedynau arbenigol a rhyngwladol bwysig yng ngwaelod y ceunentydd.
A oedd haf 2018 yn un eithriadol? Oedd. A fydd rhagor o dywydd eithriadol ac eithafol yn y degawdau i ddod all fod yn fygythiad i’n coedwigoedd? Yn sicr, mae newid yn yr hinsawdd yn fygythiad cynyddol gyda gwyddonwyr yn darogan cynnydd o 2-3 gradd Celsius yn fyd eang ond gyda nifer effeithiau eraill yn rhai rhannau o’r byd. Beth sydd bellach yn amlwg ydi y bydd newidiadau, ond hefyd ansicrwydd sut fydd yr ecosystemau hynafol yma yn ymateb.
Wrth gwrs, yn ogystal â’r diddordeb bywyd gwyllt mae llawer mwy i’r coedlannau arbennig yma. Mae hynna’n amlwg iawn fel mae rhywun yn camu drwy adwy i fewn i goedlan hudolus o goed enfawr a changhennau troellog gyda’i wledd o synau, lleithder, arogleuon a golygfeydd sydd yn tanio’r dychymyg a rhoi llonyddwch i enaid!
Am ragor o wybodaeth am Goedwigoedd Derw Dyffryn Ffestiniog a’n gwarchodfeydd eraill, ewch i’n tudalen Gweplyfr: www.facebook.com/GwarchodfeyddNaturNatureReserves a galwch i mewn i’ch coedwigoedd glaw lleol!
------------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhan o gyfres arbennig o erthyglau yn rhifyn Medi 2018, ar y thema dŵr.
Lluniau: Graham Williams, Paul W.
Celf: Lleucu Gwenllian
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
(Rhaid dewis 'web view' os yn darllen ar ffôn)
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon