20.10.18

DŴR: Anfona fo i lawr Noa!

Bu Vivian Parry Williams yn gweithio ym mhwerdy Ffestiniog am dros chwarter canrif. Yma, mae’n pwysleisio pwysigrwydd –hanesyddol a phresennol- dŵr i’r diwydiant cynhyrchu trydan ym Mro Ffestiniog.

Gan mai ‘Dŵr’ yw testun arbennig Llafar Bro y mis hwn, efallai y byddai cyfeirio at gynhyrchu trydan dŵr, neu ‘heidro’ yn y fro yn addas.  Mewn ardal fynyddig fel hon, sydd mor adnabyddus am ei glaw, roedd ‘Stiniog a’r cylch yn ddelfrydol ar gyfer codi pwerdai oedd yn ddibynnol ar ddŵr i gynhyrchu trydan.

Byddai nifer o amaethwyr yn nalgylch y papur bro wedi defnyddio olwynion dŵr ar gyfer gorchwylion ffermio ers canrifoedd, yn sicr. Ac erbyn degawd olaf y 19Ganrif, roedd ambell chwarel wedi dechrau defnyddio cyflenwadau o ddŵr o’u hamgylch i gynhyrchu trydan ar gyfer y gwaith.

Yn Ionawr 1899, ffurfiwyd cwmni Yale Electric Company Ltd gyda’r bwriad o godi gorsaf drydan ar lan afon Goedol. Roedd marchnad barod ar gyfer y cynnyrch, gyda’r holl chwareli yn awchus o gael gwneud defnydd o’r egni newydd, rhyfeddol hwn. Byddai plwyf Ffestiniog yn gyffredinol, gyda’i boblogaeth o 11,500 hefyd yn manteisio’n fawr o’r wyrth dechnolegol newydd. Codwyd lefelau llynnoedd Conglog, Cwmcorsiog, Cwmorthin a Stwlan i gyflenwi’r hylif ar gyfer y cynllun.

Roedd oddeutu 90 modfedd o ddŵr yn disgyn, ar gyfartaledd, yn flynyddol i fwydo’r twrbeini yn yr orsaf drydan yn Nolwen. Adeiladwyd argae arall mewn rhan gul, ddofn ar afon Goedol, oddeutu 700 llath uwchben safle’r pwerdy. Uchder yr argae hwn oedd 30 troedfedd, gyda’r trwch yn y bôn yn 20 troedfedd. O’r argae hwn gosodwyd peipiau dur ddwy droedfedd o led, a gysylltwyd â’r pwerdy ei hun. Cynhwysai’r offer gwreiddiol ddau eneradur (generators) 9 cilowat (KW) yr un mewn maint. A phan feddyliwch fod un tân trydan yn y cartref heddiw yn gallu defnyddio 3 cilowat o drydan, gallwch synhwyro pa mor fychan oedd cynnyrch Dolwen ar y dechrau. Ond, ar y pryd, roedd yn ddigonol at sawl gorchwyl yn y chwareli.

Yn ddiweddarach, gwnaed cytundeb rhwng Yale a’r Cyngor Dinesig lleol i gyflenwi trydan i oleuo strydoedd y Blaenau a’r Llan. Credir mai Blaenau oedd y lle cyntaf ym Mhrydain i gael goleuo ei strydoedd gyda thrydan-dŵr. Ar yr 22ain o Fai 1902, yr Arglwydd Newborough gafodd y fraint o berfformio seremoni cychwyn yr achlysur hanesyddol hwnnw yn y dref. Erbyn y flwyddyn honno, roedd maint cynnyrch pwerdy Dolwen wedi codi’n sylweddol i 180 cilowat. Gosodwyd 3,000 o lampau i oleuo’r strydoedd, gyda dwsin o arc-lamps i oleuo iard a stesion y Great Western, a oedd â’r fraint yn perthyn iddi ar y pryd o fod yr unig orsaf reilffordd yn adran Caer a oleuid â thrydan. Gwesty’r Queens (Ty Gorsaf heddiw) oedd yr adeilad cyntaf yn yr ardal i’w gysylltu â chyflenwad o drydan Yale.


Ymhen ychydig dros chwarter canrif, roedd Pwerdy Maentwrog wedi dod i rym, a’r Gors Goch yn Nhrawsfynydd wedi ei boddi, a’r llyn yn cyflenwi’r pwerdy yn is i lawr yn y dyffryn. Gyda’i 18 megawat wedi agor y pwerdy yn 1928, byddai hynny’n ddigon o gyflenwad ar gyfer gogledd Cymru i gyd ar y pryd, a pheth dros ben ar gyfer rhannau o ogledd-orllewin Lloegr hefyd! Ychydig feddyliai’r defnyddwyr y byddai angen llawer iawn mwy o drydan ar gyfer galwadau’r dyfodol.

Tua 30 mlynedd yn ddiweddarach, roedd yr angen am fwy o gynnyrch wedi tyfu allan o bob rheswm, gyda’r holl beiriannau modern yn llosgi’r trydan wedi cyrraedd y cartrefi. Cychwynwyd ar godi pwerdy Ffestiniog, neu Tan’grisia ar lafar, oedd wedi ei chynllunio i gynhyrchu 360 megawat – anferthol yn y cyfnod hwnnw.  Roedd y pwerdy hwn yn arloesol, gan ddefnyddio’r un dŵr trwy’r amser: roedd y dŵr oedd wedi dod trwy’r pibelli i droi’r twrbeini yn ystod y dydd yn cael ei bwmpio’n ôl i argae Stwlan yn y nos – Pwerdy Storfa Bwmpio, neu pumped storage yn yr iaith fain. Dyma’r gyntaf o’i math i’w chodi ym Mhrydain, mewn ffaith.

Yn ystod fy mlynyddoedd i yn gwasanaethu ym Mhwerdy Ffestiniog, roedd un o’r prif beirianwyr wedi gwneud arolwg o safleoedd/afonydd/nentydd ym mhlwyf Ffestiniog a fyddai’n gallu cyflenwi digon o ddŵr ar gyfer cynhyrchu trydan. Daeth i’r canlyniad bod dros 30 o’r safleoedd hynny yma, yr adeg honno.  Erbyn hyn, gyda’r galw am egni adnewyddol, glân, mae sawl twrbein wedi ei osod eisoes gan unigolion ar ambell safle a awgrymwyd gan y diweddar Norman Marsden. Ac yn ddi-os, bydd ychwaneg yn cael eu gosod yn y blynyddoedd i ddod, a phob un yn gwneud defnydd o’r hylif y mae’r ardal hon mor enwog amdano – Dŵr.

Diolch am law ‘Stiniog ddeuda i!
--------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhan o gyfres arbennig o erthyglau yn rhifyn Medi 2018, ar y thema dŵr.
Celf: Lleucu Gwenllian

Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
(Rhaid dewis 'web view' os yn darllen ar ffôn)


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon