24.9.18

Stolpia -Nofio

Cyfres 'Hynt a Helynt Hogiau’r Rhiw yn y 50au', gan Steffan ab Owain

Atgoffwyd fi yn ystod y tywydd poeth diweddar o’r dyddiau braf hynny a fwynhawyd gennym ar rai o’r gwyliau haf yn yr 1950au. Yr adeg honno nid oedd pwll nofio cyhoeddus yn y Blaenau, ac felly, mynd i ymdrochi i’r gwahanol lynnoedd a phyllau afonydd lleol a wneid gan amlaf. Byddai llawer o hogiau’r dref yn mynd i nofio i Lyn Fflags, a hogiau Tanygrisiau yn nofio yn Llyn Cŵn, sef un o byllau afon Cwm Orthin, neu yn un o byllau’r merddwr, neu Lyn Cwm Orthin weithiau.

Fel y soniais o’r blaen, roedd gennym bwll yn Afon Barlwyd pan yn blant, sef ‘Llyn Bach Hogiau’, y tu uchaf i Lwnc y Ddaear, sef y twnnel a wnaed ar gyfer gwyrdroi dŵr yr afon ac atal iddo fynd i agorydd y chwarel. Yn hwnnw y byddem yn ceisio dysgu nofio gan amlaf.

Llynnoedd Nyth y Gigfran heddiw. Llun -Steffan ab Owain
Llynnoedd eraill lle yr eid i drochi ynddynt oedd y rhai sydd ger Garreg Flaenllym a Nyth y Gigfran -y llyn mawr a’r llyn bach. Gan mai nofwyr digon sobr oedd y mwyafrif ohonom y pryd hynny, yn y llyn bach y byddem yn ymdrochi bron yn ddieithriad. Pa fodd bynnag, un tro pan gyrhaeddsom y llyn bach, nid oedd fawr o ddŵr ynddo - yn wir, dim ond digon i wlychu bodiau ein traed, ac felly, penderfynasom fentro i ymdrochi yn y llyn mawr, ac yn ymyl yr argae sy’n wynebu’r chwarel. Roedd y dŵr yn weddol gynnes yn fanno, ond ar ôl bod yn cerdded yn ôl a blaen ar gerrig isaf yr argae a oedd yn y dŵr, sylwodd un o’r hogiau -Ken Robs, o bosib- bod sianel ddofn yn y pen pellaf o’r argae a oedd wedi ei gwneud i drosglwyddo dŵr o’r llyn mawr i’r llyn bach.

Pe bai un ohonom wedi camu yn ddiarwybod i’r fan honno (a bu’r cyfan ohonom yn bur agos ati hi mwy nag unwaith heb sylweddoli ei bod yno) wel, byddai yn wedi bod yn amen arnom! Diolch i’r nefoedd na chafodd yr un ohonom anffawd.

Bum yno sawl tro wedyn, ond cadw’n glir o’r llyn mawr a wnai’r hogiau ar ôl y profiad brawychus hwnnw, a byddid yn rhybuddio rhai o’r hogiau iau na ni am y perygl. Cofio tro arall a’r llyn bach bron y wag o ddŵr a phenderfynu mynd i lawr i Lyn Bach Holland, ac er nad oedd hwnnw yn rhyw ddelfrydol i drochi ynddo, i mewn iddo yr aethsom, ac o fewn dim, roeddem wedi corddi’r llaid yn ei waleod nes yr oedd y dŵr fel coco.

Wedi bod ynddo am ryw ugain munud, dyma floedd o gongl y llyn: “Be goblyn ydach chi’n ei wneud yn fanna ?” A phwy oedd yno, ond Wil Williams (Wil Gloddfa Ganol), a oedd yn byw yn un o dai bach Gloddfa y pryd hynny. Eglurodd wrthym mai o’r llyn hwn y derbyniai ei ddŵr i ymolchi a choginio, a dywedodd pan agorodd y tap oddeutu deg munud ynghynt roedd wedi cael llond ei decell o ddŵr budr. Daethasom o’r llyn yn teimlo’n bur euog, ond chwarae teg i’r hen Wil, mi ddywedodd bod croeso inni drochi yn Llynnoedd Nyth Gigfran, ond nid yn ei gronfa ddŵr ef. Y mae hi’n bur debyg mai paned go fwdlyd a gafodd yr hen Wil y pnawn hwnnw !
-----------------------------------------------



Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf 2018.
Dilynwch Stolpia efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde. (Os yn darllen ar ffôn rhaid dewis 'web view').

Llun o gasgliad yr awdur.


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon