8.9.18

Beirdd y Banc Bwyd


Trwy gydol mis Mehefin eleni bu’r bardd a’r awdur Sian Northey yn Fardd Preswyl ym manc bwyd Blaenau Ffestiniog. Bu’n gwirfoddoli yno ac yn ysgrifennu am y profiad a bu hefyd yn cynnal cyfres o weithdai ysgrifennu creadigol gyda phlant mewn tair ysgol yn yr ardal – Ysgol y Moelwyn, Ysgol Manod ac Ysgol Bro Hedd Wyn. 

Roedd oedran y disgyblion yn amrywio o Flwyddyn 3 i Flwyddyn 8. Byddant hefyd yn cydweithio gyda’r artist gweledol Mari Gwent o Lanuwchllyn i baratoi gwaith fydd yn ymgorffori rhai o’r cerddi, a bydd y gwaith hwnnw i’w weld yn y llyfrgell Blaenau Ffestiniog hyd at ganol Medi.

Mae wedi bod yn agoriad llygad i mi ac i lawer o’r plant,” meddai Sian, “er wrth cwrs rhaid cofio hefyd bod llawer o blant yn dod o deuluoedd sy’n derbyn cymorth gan y banc bwyd. Mae trafod prinder bwyd a phwysigrwydd bwyd a’r hyn sydd y tu ôl i’r defnydd o’r banc bwyd wedi esgor ar waith difyr.”

Sian a disgyblion Ysgol y Moelwyn
Caiff y prosiect ei noddi gan Gorfforaeth Bedyddwyr Dinbych, Fflint a Meirion a’i drefnu gan Y Dref Werdd. Yn dilyn cau capel Calfaria yn y dre yn ddiweddar, cafwyd caniatâd i ddefnyddio cyfran o’r arian gwerthiant ar brosiect i godi ymwybyddiaeth o waith y banc bwyd lleol. 

Dywedodd Tecwyn Ifan ar ran y Bedyddwyr:

Mae hyn yn gyfle i wneud rhywbeth cadarnhaol a chreadigol o sefyllfa ddigon digalon. Mae hefyd yn weithgarwch sy’n dilyn dysgeidiaeth Iesu Grist i ymateb mewn ysbryd o gariad tuag at bobl yn eu hangen a’u helbulon... Ry’ ni fel Bedyddwyr yn ddiolchgar am gydweithrediad cynllun Y Dref Werdd yn Blaenau i drefnu gweithdau creadigol yn yr ysgolion lleol dan arweiniad Sian Northey.”

Cynhelir y banc bwyd yn Neuadd yr Eglwys gyda aelodau o’r eglwys ac eraill yn gwirfoddoli yno. Mae ar agor dair gwaith yr wythnos a bellach mae yna dros 600 o bobl yn derbyn cymorth yn flynyddol. 

Er bod y banc ym Mlaenau Ffestiniog yn gwasanaethu ardal ddaeryddol eithaf mawr mae yna fwy a mwy o fanciau bwyd yn agor wrth i’r galw amdanynt gynyddu. Mae’r Trussel Trust yn amcangyfrif bod dros 98,000 o becynau bwyd ar gyfer tridiau wedi cael eu dosbarthu yng Nghymru gan eu banciau bwyd hwy yn unig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Os am fanylion pellach cysyllter â Non Roberts non@drefwerdd.cymru

Bydd yr arddangosfa yn Llyfrgell y Blaenau hyd at y 15fed o Fedi, ond fel tamaid i aros pryd, dyma un o gerddi Sian, a chipolwg o un o ddarnau celf ar y gweill yn Ysgol Manod:

Pwysau

Y ffeil las yw’r beibl.
Er mwyn i ni, y gwirfoddolwyr,
ddysgu o’i adnodau sawl gram o reis,
sawl gram o siwgr a choffi,
yw angen un person,
sawl gram o haelioni, sawl litr o gardod,
yw angen teulu.
Rwy’n pwyso’n ofalus i gyfeiliant swnllyd ei phlant,
ac yn rhoi llwyaid arall o goffi yn y bag,
gan gofio chwarter canrif yn ôl
pan mai’r ffin i minnau rhwng cadw ’mhwyll ac wylo
oedd un baned
a hwythau o’r diwedd yn cysgu.

-----------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf 2018


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon