Un arall o straeon codi gwallt eich pen gan Dr Bruce Griffiths
Yn 1965 darlithydd oeddwn yn adran Ffrangeg Prifysgol y Frenhines, Belffast. Y flwyddyn honno penodwyd pennaeth newydd i’r adran, sef yr Athro Harry Barnwell, a ddaeth o adran Ffrangeg Glasgow. (Flynyddoedd yn ddiweddarach, pan ddaeth yn arholwr allanol i Fangor, y deallais mai o Langernyw yr hanai, a’i fod yn deall Cymraeg yn ddigon da i arholi sgriptiau Cymraeg).
Un diwrnod cyflwynwyd fi i Mrs Barnwell fel llanc o ‘Stiniog. Fe wyddai hi am yr ardal: ni fuasai yno erioed ond buasai ffrindiau iddi yno ar wyliau. “Gawson nhw fwynhad yno?” holais innau. “Wel naddo”, atebodd hithau. “Gormod o law Stiniog?” “Nace ddim – y llety ei hun oedd yn annifyr.”
Aeth ymlaen i ddweud sut y buasai pethau. Mam a merch oeddynt, a fuasai’n aros yn yr un llety ond nid ar yr un pryd a’i gilydd. Gartref yng Nglasgow holodd y naill y llall. “Sut aeth y gwyliau?” "Ddim yn rhy dda, a dweud y gwir, fyddwn i byth yn mynd yna eto!” Aethpwyd ati i gymharu profiadau. Aros y buaset mewn hen ysgubor a gawsai ei throi’n fflatiau i ymwelwyr, ac a oedd mor llawn fel y buasai’n rhaid i’r naill a’r llall gysgu mewn rhan o’r ysgubor nas defnyddid fel llofft fel arfer. Cawsai’r ddwy yr un profiadau annifyr: gweld ysbrydion gefn nos. Ysbryd gŵr, neu ysbrydion gwyr, yn gwisgo cwcwll neu gwfl am y pen (fel y byddai mynachod erstalwm). Ond gwaeth na hynny: gweld gŵr ynghrog wrth un o’r distiau. Wrth reswm, nid oeddynt wedi son wrth neb yn y llety ei hun am yr hyn a welasent.
Yn naturiol, ‘roeddwn i’n glustiau i gyd. Ni chlywswn erioed hanes o’r fath am unman yn yr ardal. Ni chofiai Mrs Barnwell enw’r llety, ond ‘roedd yn rhywle heb fod ymhell o’r lein bach. Awgrymais nifer o enwau ac fe adnabu hi enw Maentwrog – wrth ymyl Maentwrog yr oedd y lle.
Gartref yn y Blaenau dros wyliau’r Nadolig, mi euthum ati i holi ymhellach ynghylch yr hanesyn rhyfedd hwn, ond heb gael unrhyw oleuni nes holi Trefor Davies, un o Faentwrog. Ar y cychwyn ni soniais wrtho am yr hyn a glywswn, rhag plannu unrhyw syniad yn ei feddwl, ond o’r disgrifiad gallodd enwi’r llety ar unwaith: ysgubor Ffarm y Plas (‘Home Farm’) wrth ochr y ffordd fawr ger yr Oakley Arms.
Ni soniais am ysbrydion, ond holais a ddigwyddasai unrhyw drychineb neu rywbeth nodedig yno erioed. Meddyliodd: yna dywedodd sut y buasai i’r hen _ _ _ –(bellach ni chofiaf yr enw) ei grogi ei hun yn yr ysgubor. A dyna chi: nid stori ffug (ar fy rhan i, o leiaf) yw hon, ac nid oes gennyf unrhyw le i amau geirwiredd gwraig barchus a oedd yn hollol ddieithr i mi ac i ardal ‘Stiniog.
Tybed, ymhlith darllenwyr Llafar Bro, a oes rhywun a allai daflu rhagor o oleuni ar y mater?
----------------------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2002
[Llun- Paul W]
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon