Y drydedd bennod yng nghyfres Atgofion Pant-llwyd, Laura Davies
Mab hynaf Laura Roberts, Dafydd, a’i wraig oedd yn byw drws nesaf ond cwsmeriaid Kitty Ephraim oedd hi. Galwn yn tŷ nesaf, lle trigai Mr a Mrs Joe Hughes, rhieni Gwen a Dafydd (nid wyf yn sicr o enwau’r rhai ieuengaf). Priododd Dafydd a Gladys Jones, merch Mr a Mrs Ellis Jos, Bron y Graig, Llan a bu i’r ddau ymgartrefu yng nghyffiniau Llandudno. Cwsmar Mrs Ephraim oedd Mr a Mrs Jôs, Tŷ Mawr. Cyn hyn ‘roedd Tŷ Mawr yn gartref i un o arwyr enwocaf Pant Llwyd – Ifan Jôs, Rhosydd (Syr Ifan yn ddiweddarach – y fo oedd goruchwiliwr Chwarel Groes y Ddwy Afon hyn 1906 a Chwarel y Rhosydd 1906 i 1929. Bu’n gapten yn y rhyfel byd cyntaf a chymerodd ran flaenllaw ym mywyd sir Feirionnydd – ei fam oedd Elin Jones.
Drws nesa, yn Moelwyn View, ‘roedd merch Mr a Mrs Jones, Lizzie a’i gŵr, Ben Robats (cigydd) – rhieni'r efeilliad Gwen a Richard, yn byw. Wedi i’r teulu yma ymfudo i Sir Fôn, cyn y rhyfel, aeth John Huw Roberts a’i wraig i fyw yno, o Dan y Bryn. Symud ymlaen ‘rwan’ trigai Mr a Mrs Danial Robets, rhieni Mrs Ethel May Jones (mam Denis a Philys, Llain Wen) drws nesa. Ym Mhreswylfa trigai gŵr gweddw, Dafydd Jôs, ei howscipar, Miss Naomi Jôs a’r plant, Beti, Annie a Doris. Arferai Dafydd Jos werthu cig Seland Newydd. Bob dydd Gwener, deua’r cig mewn sachau o’r stesion a byddai bwrdd y gegin yn llawn o ddarnau o gig oen wedi eu pacio mewn papur menyn yn barod i’w ddosbarthu o gwmpas y pentra’.
Mr a Mrs Morris Jôs oedd yn byw yn drws nesaf (rhif 24 Frondeg heddiw). Rhieni i Jos, Sal ac Ifor (collasant dri baban). Mi ‘roeddwn yn adnabod Ifor yn dda gan ei fod wedi bod yn was bach gyda ni pan oeddem yn byw yn Sofl y Mynydd yn y dauddegau. Priododd Jos a Miss Margaret Davies o Benrhyndeudraeth a hwy yw rhieni Robat Maldwyn a Nan Rowlands, Llan. Un wych iawn am adrodd oedd yr hen Fusus Jôs.
‘Roedd y tri tŷ wedyn yn rhan adfeilion. Ond erbyn heddiw maent wedi eu hadgyweirio – diolch Iddo! Nid oedd y ddau dŷ olaf o Bant Llwyd, Tan y Bryn, yn rhan o’r rhes ond safai’r ddau ar led wahan, yn y pen uchaf. Ar y pryd oeddwn i’n gofio, Mr a Mrs Huw Robats, rhieni Annie, John Huw, Robat Elis, Emrys a Meurig Tegid a drigai yno. Byddai buwch Huw Robats yn pori ar y llechwedd yng nghefn y tŷ. Wedi i Huw Robats fudo oddi yno mi ddaeth John – mab Mrs Robats – a thad Nansi Belle Vue, yno i fyw. Mrs Ephraim oedd yn byw yn drws nesa’ wedyn. Cartref hefyd i Chris (a gollodd ei fywyd yn y rhyfel), Maggie, John a Ned Ephraim.
Mae y tai, deg ar hugain i gyd ar y llaw dde a rhyw amcan mai tua cant a hanner o bobl a phlant yn byw yno. Ar draws y ffordd safai’r Capel Bach fel arweinydd i’r gynulleidfa ar draws y ffordd. Adeiladwyd ef yn 1905 ac fe’i caewyd tua 1960 a’i werthu i wneud tŷ. Cofiaf yn glir ac yn dda am y cyngherddau, sosials, a ‘steddfoda yn yr hen Gapel Bach.
Fel y soniais, man meithrin diwylliant cefn gwlad oedd Pant Llwyd yn y tridegau. Cynhaliwyd gwasanaethau, Ysgol Sul, cyfarfodydd gweddi, Band of Hope, cyfarfodydd dirwestrol a chymdeithasol. Dysgwyd Rhodd Mam a’r Hyfforddwr. Dysgodd William Ephraim ddegau o blant i ganu. ‘Roedd yna gryn ddysgu adrodd a chanu. Debyg mai yma y dechreuoedd Parti Côr Telyn y Bryniau, gyda Wil Yoxal, Wally Defis, Arthur Ellis, Andrew Roberts, Ellis Robarts, Mabel Robarts, Mrs Ephraim, Dol Robarts, Annie Laura, Mary Owens, Alice Stephens, John Pritchard a Dafydd Price yn arweinydd.
(i’w barhau)
-----------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 1998.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
(Os yn darllen ar ffôn, rhaid dewis web view i weld y dolenni)
Llun -Paul W
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon