(MWY NEU LAI!)
Pennod o gyfres Steffan ab Owain
Tybed a ydych wedi meddwl am funud faint o newid sydd wedi bod ar ein byd, ein gwlad a’n hardal ers tri chan mlynedd yn ôl ... mwy neu lai. Wel, beth am inni deithio’n ôl i’r gorffennol am ysbaid er mwyn gweld sut le a beth a oedd yma y pryd hynny. Yn gyntaf, ac union* dri chan mlynedd yn ôl roedd rhyfel yn rhyngnu ymlaen yn Sbaen. Gallwch fentro fod rhyfel yn rhywle, oni allwch? Yn 1703, cafodd y bobl gyffredin newyddion da pan ddilewyd y dreth a fyddai am gofnodi eu henwau yn y cofrestri plwyf. Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach dyfeisiwyd peiriant ager i bwmpio dŵr gan Thomas Newcomen. Yn 1706 daeth y newyddiadur hwyrol cyntaf allan yn Llundain, sef ‘The Evening Post’. Yn y flwyddyn 1708 cododd gwrthryfel Jacobiaidd yn yr Alban ac yn 1709 asiwyd y Ddeddf Hawlfraint gyntaf drwy’r senedd .... Gwaetha’r modd!!
Oddeutu dechrau’r ddeunawfed ganrif dim ond rhyw 80,000 o dai oedd yng Nghymru, ac amcangyfrifir fod tua 400,000 o boblogaeth yma. Wel, am braf, ynte? Digon araf deg oedd bywyd pob dydd yn yr amseroedd hyn ... dim tensiynau ... dim ‘stress’ ... wel, yn sicr, dim cymaint ag y sydd heddiw. Wrecsam oedd tref fwyaf Cymru ac Aberhonddu oedd yr un gyfoethocaf yn ôl y son.
Hyd at ddechrau’r cyfnod hwn, tir agored oedd bron ymhob man yng Nghymru – roedd yr hawl i dramwyo – ‘right to roam’ – yn bodoli yr adeg honno, bid sicr, a gallai anifail, pe bae eisiau a neb yn ei wylio, gerdded o ben mynydd uchel i lawr i lan y môr heb fawr o drafferth gan mai ychydig iawn o gloddiau a oedd wedi eu codi yma pryd hynny.
A throi ein golygon yn nes adref rwan. Poblogaeth plwyf Ffestiniog oddeutu tri chanmlynedd yn ôl oedd tua 460, ac yn y flwyddyn 1700 ganwyd deuddeg (12) o blant yma a bu farw deuddeg o bobl. Ni phriododd neb yn ein plwyf yn ystod y flwyddyn 1704 na’r blynyddoedd 1709 a 1710 chwaith. Cofier, nid oedd siop o fath yma tan agorwyd siop ‘Meirion House’ tua 1726. Efallai mai i Siop Penmorfa yr ai ambell un cyn hyn, a thaith beryglus oedd honno hyd yn oed ar yr adegau gorau. Prif gynhaliaeth y trigolion oedd cig eu da byw ac ychydig o geirch, ac mewn degawdau diweddarach ceid ychydig o haidd a thatws, efallai.
Erbyn y flwyddyn 1780 ceid tua 54 o ffermydd a thyddynnod yn ein plwyf ac un neu ddau o fythynnod, megis Bwth y Cleiriach a’r Ysgol Newydd, efallai. Talai lle fel Plas Dolymoch rent neu dreth o tua £30 y flwyddyn, Bron y Manod £9 a Llwyn y Gell £3. Cofier, nid oedd pawb yn dlawd, ac os edrychwn ar rai o ewyllysiau pobl y plwyf gwelwn nad oeddyn ar glemio, fel y dywedir. Er enhraifft, yn 1729 gadawodd Robert Cadwaladr, Cwm Bywydd gymaint o £40 yn ei ewyllys i’w ferch Catherine, £15 i’w ferch Elen a £5 i’w ferch Margaret, a’r gweddill i’w wraig, a chredwch chi fi roedd hyn yn dipyn o arian yn y 18fed ganrif. Wel, dyna ni wedi cael cipolwg bach sydyn ar fywyd tri chan mlynedd yn ôl.
Tybed faint ohonoch chi a fyddai’n fodlon newid lle efo pobl yr oes honno?
------------
*Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2002.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde
(Os yn darllen ar ffôn, rhaid dewis 'web view'.)
[LLUN- Lleucu]
Diolch, diddorol dros ben.
ReplyDelete