3.7.18

Ffermydd Bro Ffestiniog -5

Plwyf Trawsfynydd -gan Les Darbyshire

Dyma’r plwyf mwyaf yn yr hen Sir Feirionnydd. Mae’n naw milltir o hyd, yn wyth milltir o led  gydag arwynebedd o 25,000 o aceri. Mae’r pentre ei hun yn wyth gant o droedfeddi yn uwch na’r môr. Hen enw’r plwyf oedd Llanednowain, ac ʼroedd Ednowain yn bennaeth ar un o Bymtheg Llwyth Gwynedd yn ystod teyrnasiad Gruffydd ap Cynan.
              
Diddorol a phwysig yw’r ddau lyfryn gan Merched y Wawr, Trawsfynydd sef “Hanes Bro Trawsfynydd” a gyhoeddwyd yn 1973 a 2012. Ceir llawer o hanesion  a ffeithiau diddorol yn dangos ymchwil trylwyr.

Er mai bachgen o ʼStiniog ydwyf, mae gennyf gariad at Traws. ʼRoedd fy Nain ar ochor fy Mam yn dod o’r pentre, a chysylltiad â ffarm Glan Llafar, a theulu Madog House. Cefais amser difyr yn gweithio yn yr hen gamp milwrol ym Mronaber a dod i adnabod cymeriadau’r fro. Mae cof gennyf o rai a oedd yn gweithio yn y ‘camp’, sef Ellis Jones (saer) a oedd yn ‘general foreman’ yno,  Moss Gwynfryn (saer), Ned Morris, Dick Meredith a’i frawd Oliver,  Harold Rees, Dick O’Neill (plymar), Dafis, Ifan Barbwr (saer maen), Jack Menyn (saer maen) ac Ifans (plastrwr). Bum yn gweithio i Gwmni John Laing  ar y gwaith o godi argae ochr Ffridd Bryn Coch i’r llyn. Wedyn ymunais fel swyddog ar Gyngor Deudraeth ac ʼroedd Traws yn rhan o fy nhiriogaeth, ac un o’m dyletswyddau oedd cysylltu’r pentre gyda dŵr o Lyn Cain, a hefyd goruchwilio adeiladu y stâd dai.

Pleser hefyd oedd adnabod rhai o blant y pentre a oedd gyda mi yn y Central ac Ysgol Sir Ffestiniog - Dei Powel, John Iscoed, Caradog, Dennis a Gwyn PC, a’r genod -  Ann, Megan, Doris a Doreen a thrwy hyn oll yn rhoddi i mi affinedd â Traws.

Mae rhif ffermydd a thyddyndod y cylch bron yn amhosib i’w rhestru heddiw, gan fod cymaint wedi eu dymchwel neu wedi eu boddi dan ddŵr y llyn. Cuddiwyd eraill  gan y Comiswn Coedwigaeth - heb sôn  am y ffermydd a gollwyd trwy i’r tir gael ei gymryd drosodd gan yr Adran Filwrol Brydeinig.

Edrych tua'r Rhinogydd o ochrau'r Feidiol. Llun- Paul W

ʼRwyf yn diolch i’r cyfeillion sydd wedi rhoi cymorth i gasglu enwau y ffermydd, ond yn wybyddus iawn bod rhai enwau heb eu cynnwys a hefyd bod rhai tyddynnod wedi eu henwi yn anghywir. Buaswn yn falch am unrhyw wybodaeth i gywiro hyn.

Yn ei e-bost ataf, mae Ieuan Tomos o Jerusalem, Llawrplwyf, sydd hefyd yn ysgrifennydd Cangen Meirionnydd o Gymdeithas Hanes Teuluoedd Gwynedd, yn datgan fel hyn:
“Dyma restr o dai a ffermydd oedd yn ymddangos yng Nghyfrifiad 1911, ond bellach yn wag neu yn furddunod. Hefyd yng Nghwm Greigddu, ond ym mhlwy Llanbedr ʼroedd Grugle, Dolwen a Greigddu Isaf (Greigddu Ganol oedd y tŷ sydd yn cael ei alw yn Greigddu Isaf ʼrwan). ʼRoedd Hafod Gau ym mhlwyf Llanenddwyn.”
Mae Ieuan wedi rhestru dros ugain o enwau, ond rhaid i mi gyfaddef nad wyf yn gwybod lle’r oedd pob un ohonynt! Dyma’r rhestr:
Hafoty Bach, Tai Cynhaeaf, Alltwyd, Tŵr Maen, Llwyn Derw, Islaw’r Coed, Brynrwy,   Tynddôl, Tŷ’r Plwy, Eden View, Greigddu Uchaf, Penrhos, Hafod Gynfal, Foty Graig Wïon, Wern Bach, Gwndwn, Bryn Hir, Cae Cyrach, Penmaen, Penybont, Plas Tyddyn Gwladus a  Ffactory.
Mae pont dros Afon Prysor yn Traws i bob pwrpas yn cysylltu â phum ffordd. Y mae’n cysylltu â’r pentref ac yn ymylu â’r A487 sydd â mynediad i Ffestiniog a Dolgellau. Ddim yn bell o’r bont mae ffordd heibio Fron Oleu yn arwain i Bryn Goleu, Yr Ysgwrn a Bodyfuddau - a hon oedd yr hen ffordd i Gwm Prysor.

ʼRoedd Fron Oleu yn gysylltiedig â’r milwyr Prydeinig a ddaethai i’r ardal i ymarfer - hynny tua 1906. ‘Roedd ei chaeau yn llenwi gyda phebyll, bach a mawr. Hwyrach i’r Swyddfa Ryfel brynu ffarm Rhiw Goch ym Mronaber ac fe ddywedir i’r tiriogaeth, yn y cylch yna, fod yn un o’r rhai gorau’n y wlad i hyfforddi milwyr. Mae’r Ysgwrn yn adnabyddus i bawb oherwydd Hedd Wyn a’r Gadair Ddu a’i farwolaeth yng ngwlad Belg.  Da bod yr hen ffarm bellach yn eiddo i’r Parc Cenedlaethol ac wedi ei haddasu ar gyfer arddangosfa i’r cyhoedd.

Yn nherfyn y ffordd bresennol mae ffarm Bodyfuddau. Dyma lleʼr oedd cronfa ddŵr Traws. Mae hanes diddorol am un o feibion Bodyfuddau, sef yr offeiriad enwog - yr Esgob Humphrey Lloyd (1618-1688). Cafodd ei addysg yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, lle bu iddo raddio. Bu yn ficer yn Rhiwabon ac fe’i dyrchafwyd yn Ganon yn Esgobaeth Llanelwy. Enillodd radd Doethor mewn Diwinyddiaeth yn 1673 ac fe’i cysegrwyd ef yn Esgob Bangor. Bu iddo farw yn 1688 ac mae ei enw a’r dyddiad 1687 wedi eu cerfio ar glychau’r Gadeirlan. Anodd deall heddiw sut y llwyddodd mab ffarm mewn man mor unig o ran lleoliad ac o fro lle’r oedd addysg yn brin, fynd i goleg a graddio.  Mae’n rhaid ei edmygu’n fawr.

Yn y chwedegau bum yn gysylltiedig â’r gronfa ym Modyfuddau, a phan oedd y gweithwyr yn gosod pibellau newydd, fe ddaeth person ataf a gofyn inni fod yn ofalus o ffos oedd wedi bod yn fater cyfreithiol yn yr Uchel Lys. Er holi yn ddiweddarach nid oes neb yn cofio am hyn, na pha ffermydd oedd wedi mynd â’r mater yno. Byddai’n diddorol pe buasai’r hen hanes yma’n dod i’r golwg eto.
--------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2018.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde (rhaid dewis web view os yn darllen ar ffôn).


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon