Erthygl gan Eleth Peate.
Bydd yr haul yn sicr o wenu yn y Blaenau o hyn allan diolch i brosiect newydd Cysawd Eryri. Dros y misoedd nesaf bydd Arloesi Gwynedd Wledig a Pharc Cenedlaethol Eryri yn cydweithio gyda’r artistiaid Rachel Rosen ac Andy Birch er mwyn dod â’r haul a gweddill planedau Cysawd yr Haul i Wynedd. Y nod ydi amlygu dynodiad Eryri fel Gwarchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol a meithrin diddordeb mewn seryddiaeth.
Mae plant Blaenau Ffestiniog wedi bod yn gweithio’n ddiwyd iawn gyda’r artist Rachel Rosen er mwyn creu’r planedau fydd yn cael eu gosod mewn busnesau gwahanol ar draws y sir. Bu plant Ysgol Tanygrisiau yn creu'r blaned Mawrth. Er mwyn ail greu edrychiad coch y blaned, aeth y plant allan i chwilio am hen sgrap rhydlyd i’w ychwanegu i’r wyneb. Bydd Mawrth yn cael ei osod yng Nghaffi Llyn, Tanygrisiau.
Drwy osod planedau o amgylch y Parc, bydd llwybr rhyngblanedol yn cael ei greu i bobl ei ddilyn. Ym mhob stop bydd cyfle i ddysgu mwy am y blaned arbennig honno a dod i werthfawrogi maint cymhareb Cysawd yr Haul. Bydd hefyd yn annog pobl i ymweld ag ardaloedd newydd o fewn y Parc a hynny gan ddefnyddio trafnidiaeth wyrdd.
Bydd yr Haul i’w weld yn Siop Antur Stiniog, a bydd yn cael ei greu gan yr artist graffiti Andy Birch gyda help gan bobl ifanc Gisda. Dywedodd Ceri Cunnington o Antur Stiniog:
“Rydym yn falch iawn o gael yr Haul yma’n barhaol. Mae pawb yn deud ‘bod hi’n bwrw glaw ym Mlaenau Ffestiniog’, ond wir i chi, mae hi’n braf o hyd yma! Bydd yn ffordd wych o ddenu mwy o bobl i’r dref ac i mewn i’r siop.”Mae disgyblion Ysgol y Moelwyn, Ysgol Maenofferen ac Ysgol Manod hefyd ar ganol gweithio’n galed i greu Y Ddaear, Mercher a Gwener. Mi fydd y planedau yma yn cael eu gosod yn Llechwedd, Caffi Parc ac yng ngweithdy llechi 'Snowdonia'.
I geisio deall maint cymhareb cysawd yr haul, bydd y planedau sy’n bellach i ffwrdd o’r haul sef Iau, Sadwrn, Wranws, Neifion a Phlwton yn cael eu gosod yng Ngwesty’r Oakley Arms Maentwrog, Y Ring Llanfrothen, Caffi Pen y Pass Llanberis, Canolfan Arddio Camlan Dinas Mawddwy, a Rheilffordd Tal y Llyn. Ar y raddfa yma mae Cysawd yr Haul wedi ei grebachu o ffactor cant pedwar deg miliwn (140,000,000) i un.
Bydd y planedau yn cael eu gosod dros y misoedd nesaf, gyda phamffled ar gael i roi mwy o wybodaeth am y prosiect. Gobeithio’n fawr y bydd ddarllenwyr Llafar Bro yn cael y cyfle i fwynhau Cysawd Eryri a dysgu mwy am Gysawd yr Haul!
Mae prosiect Cysawd Eryri yn brosiect cydweithredol rhwng Arloesi Gwynedd Wledig a Pharc Cenedlaethol Eryri. Cefnogir y cynllun gan Gronfa Eryri sydd yn rhan o grantiau Parc Cenedlaethol Eryri, a drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Wledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Caiff hefyd ei ran gyllido gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA), a Chyngor Gwynedd.
-------------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2018.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon