Ers 2008, mae mis Chwefror wastad wedi golygu un peth o fewn y calendr cerddorol, sef Gwobrau’r Selar. Yn wir, rhwng 2014-2020, cynhaliwyd Noson Wobrwyo’r Selar yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, sef cyfle i ddathlu y flwyddyn a fu yng ngherddoriaeth Cymru ar ffurf gŵyl fechan.
Bellach, mae ffurf y gwobrau wedi newid, wrth i’r enillwyr gael eu cyhoeddi ar donfeddi Radio Cymru yn ystod wythnos benodol yn mis Chwefror. Ers 2015, mae un gwobr yn cael ei gyflwyno i unigolyn o fewn y sîn sydd wedi gwneud ‘Cyfraniad Arbennig’ ac mae cyn enillwyr y wobr hon yn cynnwys Geraint Jarman, Tecwyn Ifan, Gruff Rhys a’r llynedd, y gyflwynwraig, Lisa Gwilym.
Ar raglen wythnosol Rhys Mwyn, fe ddaeth Gai Toms i mewn i’r stiwdio ym Mangor am sgwrs, ond nid sgwrs arferol mohono, wrth i’r cyflwynydd/archeolegydd adnabyddus gyhoeddi mai Gai fyddai deilydd y Wobr Cyfraniad Arbennig yng Ngwobrau’r Selar.
Roedd ei ymateb yn un o gryn sioc, gan ddweud “Cyfraniad Arbennig? Dwi’m yn teimlo mod i’n ddigon hen i dderbyn y fath wobr, ond wow....diolch i griw’r Selar am yr anrhydedd” cyn mynd ymlaen i ddiolch i griw Anweledig yn enwedig, gan ddweud “na fyddai o’n nunlla, hebddyn nhw”. Fe orfennodd Gai drwy ddyfynnu llinell o un o glasuron Datblygu, Maes-E (enillwyr cyntaf y wobr hon): “Ma gwobra’, heb y barnu na’r cystadlu ynde...dwi’m yn or-hoff o wobra’, does ‘na neb yn well na’i gilydd rili nagoes. Ond ma cydnabyddiaeth dal yn neis.”
Yn wahanol i weddill y gwobrau, ble mae’r cyhoedd yn pleidleisio i greu rhestr fer ac yna dewis enillydd – Tîm Golygyddol Y Selar sy’n dewis enillydd y wobr Cyfraniad Arbennig yn flynyddol, ac mae’r enillydd bob amser yn rhywun y mae nhw’n teimlo sydd wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr i gerddoriaeth Gymraeg yng Nghymru a thu hwnt, ac sy’n parhau i wneud hynny.
Mae pawb sy’n nabod Gai yn gwybod pa mor ddiymhongar ydi o – ac felly dydi o ddim yn syndod i ni drigolion ‘Stiniog fod Gai yn ffitio’r meini hynny ac felly’n hollol deilwng o’r wobr hon. Dyweddodd Rhys Mwyn “does na ddim cwestiwn dy fod di’n un o’r artistiaid a chyfansoddwyr yna...mae gen ti’r repetoire sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol” – mae geiriau fel yna gan rhywun fel Rhys Mwyn (sydd mae’n deg i’w alw yn dipyn o awdurdod ar gerddoriaeth o Gymru yn seiliedig ar ei yrfa fo o fewn y maes) yn adrodd cyfrolau o lwyr haeddiant Gai yn fy marn i.
Does dim angen rhestru yr hyn mae Gai Toms wedi ei gyflawni yn gerddorol ers y 90au cynnar, mae pawb o’r ardal hon yn cofio gigs hynod o gofiadwy Anweledig a’r 7 albwm gwych y mae wedi ei ryddhau wedyn unai o dan yr enw Mim Twm Llai neu ers 2008, o dan ei enw ei hun. Mae dawn Gai i greu gweithiau cysyniadol megis Rhwng Y Llygru A’r Glasu (yr albwm gyntaf o dan yr enw Gai Toms a’r albwm Gymraeg gyntaf i ddefnyddio sain llwyth o offerynnau wedi eu creu o sbwriel), Bethel (albwm ddwbl a recordiwyd hen Gapel Bethel, Tanygrisiau a drowyd mewn i stiwdio Gai) neu pwy all anghofio’r albwm a’r daith theatrau epig, Orig – sef albwm yn seiliedig ar fywyd y reslwr enwog, Orig Williams.
Yn ôl Uwch Olygydd Y Selar, Owain Schiavone, roedd Gai Toms yn ddewis amlwg ar gyfer derbyn y wobr Cyfraniad Arbennig. “O ystyried y criteria bras rydym wedi gosod ar gyfer y wobr hon, does dim amheuaeth fod Gai Toms yn haeddiannol iawn o’r gydnabyddiaeth. Ers dros dri degawd bellach mae Gai yn o gerddorion amlycaf Cymru. Gyda’i ffrindiau gorau, fe ddatblygodd Anweledig, i fod yn fand mwyaf y sin Gymraeg ar ddiwedd y 90au, ond mae’n deg dweud mai ar ôl hynny y daeth gwaith mwyaf arwyddocaol Gai i’r amlwg. Dwi’n grediniol ei fod yn un o ganwyr-gyfansoddwyr pwysicaf ei genhedlaeth yn yr iaith Gymraeg, os nad y pwysicaf oll. Yr hyn sy’n taro rhywun ydy ei ddewrder cerddorol, a’i barodrwydd i arbrofi a mentro. Mae rhai o’i recordiau hir yn arloesol yn y Gymraeg yn enwedig efallai Rhwng y Llygru a’r Glasu ac Orig – does neb wedi creu rhywbeth tebyg i’r rhain yn y Gymraeg. Bydd llawer o’i ganeuon yn glasuron mewn blynyddoedd i ddod, ond mae ei gerddoriaeth yn fwy na dim ond caneuon – mae’n sylwebaeth graff ar wleidyddiaeth, cymuned, hanes, yr amgylchedd a’r byd.”
Llongyfarchiadau mawr i Gai a mawr yw’r diolch am ei gyfraniad i fyd cerddoriaeth Gymreig!
- - - - - - - - - - - - - - -
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2024
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon