Daeth cynulleidfa fawr ynghyd er mwyn gwrando ar Eifion Lewis yn adrodd hanes Pwerdy Maentwrog, ble y treuliodd Eifion dros 38 mlynedd yn gweithio.
North Wales Power oedd yn gyfrifol am adeiladu'r pwerdy yn 1926 a rhoddwyd y gwaith i gwmni Robert McAlpine. Crëwyd cronfa ddŵr yn Nhrawsfynydd drwy adeiladu pedwar argae ac fe ail-gyfeiriwyd afonydd i'w llenwi. Daeth llawer o'r gweithwyr ar gyfer y cynllun yn syth o fod yn gweithio ar dwnnel newydd yr Afon Merswy.
Cwblhawyd y gwaith ym mis Hydref 1928 a dechreuodd yr orsaf gynhyrchu 18 Megawatt. Clywsom wedyn am effaith Atomfa Trawsfynydd a'r llyn yn cael ei ehangu ar y pwerdy. Ym mis Mawrth 1986 bu damwain pryd y chwalwyd un o'r pibellau a rhuthrodd dŵr, pridd, coed a cherrig i lawr y mynydd gan wneud difrod mawr. Ond atgyweiriwyd y difrod, a maes o law, yn 1988 dechreuwyd ar y gwaith o adeiladu argae newydd.
Y mae'r pwerdy yn dal i gynhyrchu 30MW hyd heddiw ac yn awr ym mherchnogaeth yr Awdurdod Digomisiynu Niwclear.
Diolch Eifion am daflu goleuni ar hanes adeilad y bu llawer ohonom yn teithio heibio iddo ar ochr ffordd yr A496 tu draw i Faentwrog, ond hwyrach heb ddod i wybod llawer am y gwaith yno.
Yng nghyfarfod Mawrth Vivian Parry Williams oedd y darlithydd. Mae’r enw yn gydnabyddus i'r mwyafrif yn lleol wrth gwrs ac yn fwyfwy ar draws gwlad erbyn hyn. Hanesydd lleol a sylwebydd craff, a chawsom ddim ein siomi.
Owen Gethin Jones (1816-83) oedd testun y sgwrs, un a anwyd yn Nhyn-y-cae, Penmachno. Saer maen oedd ei dad, a dygwyd yntau i fyny yn yr un grefft, ond yn nes ymlaen troes yn saer coed, yna'n adeiladydd, ac yn y diwedd yn gontractiwr ar raddfa go helaeth. Yn 1852 prynodd Dyddyn Cethin a gweddnewidiodd yr adeiladau a'r tir yno.
Ar ben ei weithgarwch fel amaethwr a chrefftwr a dyn busnes, yr oedd 'Gethin' yn llenor da, yn brydydd diwyd, ac yn hynafiaethydd lleol gwybodus, fel y prawf ei draethodau ar hanes plwyfi Penmachno, Ysbyty Ifan, a Dolwyddelan. Bu farw yn 1883. Un o’i brif gymwynasau, yn enwedig i ni yma’n Stiniog oedd ei waith yn adeiladau'r rheilffordd o Fetws-y-coed i’r Blaenau ac adeiladu Pont Gethin, pont saith bwa dros yr A470 a hefyd ei waith yn adeiladu'r twnnel mawr a agorwyd yn 1879.
Cyhoeddodd Vivian ei lyfr Owen Gethin Jones: Ei Fywyd a’i Feiau yn y flwyddyn 2000. Petai'r categori Llyfr Ffeithiol yn bodoli yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn, byddai’r gwaith hwn wedi cymryd ei le’n haeddiannol ymysg y goreuon.
Fel y gwelwyd yn ei ddarlith ac yn y llyfr, mae’r awdur yn dibynnu’n llwyr ar ffynonellau gwreiddiol sy’n golygu cryn ymchwil ac sy’n gwneud y gwaith yn ddifyr iawn i wrando arno yn ogystal â’i ddarllen.
Mae hwn yn un o’r astudiaethau bywgraffyddol sydd ymysg y gorau ar roedd yn bleser cael bod yn y gynulleidfa.
Roedd beiau Gethin yn ddigon hynod ond, os nad oeddech yn y ddarlith, fe’u cewch i gyd yn y llyfr. A tydi’r beiau ddim i’r gwan calon!
TVJ
- - - - - - - - -
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2024
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon