2.5.24

Telyn Trawsfynydd

Telyn Deires am y tro cyntaf erioed yn Neuadd Trawsfynydd 

Pe bawn i’n gofyn ichi beth yw offeryn cenedlaethol y Cymry, mae’n debyg y basech yn enwi y delyn.
Mae’n bwysig inni felly warchod y traddodiad hwnnw. Mae'r rhan fwyaf o delynorion gwych yr ardal hon yn chwarae telynau pedal wrth gwrs, rydan ni’n meddwl am bobl fel Dylan Rowlands, Llan Ffestiniog, sydd wedi hybu canu’r delyn yn wych iawn dros y blynyddoedd diwethaf. 

Ond cafwyd noson unigryw a hanesyddol yn Neuadd Trawsfynydd yn ddiweddar pan oedd y grŵp gwerin Hen Fegin o ardal Maldwyn yn perfformio yn y Neuadd, gyda merch ifanc dalentog iawn, Cadi Glwys Davies yn cyflwyno alawon ar y delyn deires, maint llawn (Enillydd Cenedlaethol yn yr Ŵyl Gerdd Dant ddiwethaf) 

Gallech glywed pin yn disgyn wrth iddi drin y tannau mor gelfydd. Ac mae sŵn y delyn deires yn eithaf unigryw. I nifer o’r gynulleidfa hwn oedd uchafbwynt y noson hwyliog hon. Yn sicr roedd pawb yn mwynhau a gwerthfawrogi swyn y delyn gan y ferch ifanc. Roedd ei mwynhad amlwg hi o’r cyfle yma i ddiddanu cynulleidfa Trawsfynydd yn ysbrydoledig. Nid yn unig hynny ond cawsom flas o’i dawn yn clocsio yn ogystal! Y mae Cadi yn wyres i’r gôl-geidwad enwog y mae nifer ohonoch yn ei gofio, sef Dai Davies. Mae’n siŵr y byddai yn hynod falch iawn ohoni.

Cafwyd gwrandawiad ardderchog hefyd i grŵp nad oedd llawer yn gwybod amdano sef Hen Fegin.
Pedwar o ddynion a Cadi Glwys, yn canu a chyfeilio ar amryw o offerynnau gwerin. Roeddynt yn
cyflwyno amrywiaeth o ganeuon, gwreiddiol a thraddodiadol, rhai caneuon yn ddigyfeiliant a oedd yn
ymdebygu yn eu harmonïau i ganeuon Plygain. Neu, o bosib yn debyg i sain y grwp gwerin Plethyn.
Doedd hynny ddim yn syndod wrth gwrs gan fod dau o hen grwp Plethyn yn y grwp newydd hwn, sef
Roy Griffiths a John (Jac) Gittins. Y ddau arall oedd Rhys Jones, y ffidlwr, sydd yn nai i Idris Jones (neu Ken Rownd a Rownd fel yr adnabyddir i lawer) sy’n ffidlwr o fri hefyd a Bryn Davies ar yr acordion, sy’n digwydd bod yn dad i Cadi Glwys Davies!

Mae’n braf cael hybu grwpiau newydd fel hyn, tydi Hen Fegin ddim yn cael llawer o sylw ar y radio
a theledu hyd yma, ond yn amlwg yn grwp o safon. TrawsNewid oedd yn gyfrifol am y trefnu a braf
oedd cael paned a chacen (cynnyrch cartref!) ar y canol, y cacenni wedi eu cyfrannu gan bump o ferched caredig y fro. Hyfryd dros ben!! 

Roedd hon yn noson hyfryd a chartrefol, a hanesyddol hefyd; roedd y rhai a ddaeth i’r noson wedi cael boddhad mawr, nifer o gefnogwyr di-Gymraeg yn bresennol hefyd, sy’n hynod bwysig i gymhathu’r bobl ddŵad i’r gymuned. Efallai fod y noson yn haeddu cynulleidfa helaethech ac mae’r rhai oedd yn methu dod wedi cael colled – ddim dwywaith am hynny. Ond yn sicr roedd y rhai a fynychodd yn mynd i gofio am y noson hon am amser hir iawn.

- - - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2024

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon