Colofn Reolaidd Steffan ab Owain, o rifyn Ebrill 2024
Gan fod un neu ddau ohonoch wedi cael blas ar fy strytyn diwethaf yn sôn am rai o’r hen ffilmiau yn cynnwys clipiau o’n bro, yn ogystal â’i phobl ar ambell un.
Gwnaed ffilm gyda’r teitl The Phantom Light yn 1935 gyda Michael Powell yn ei chyfarwyddo, a Binnie Hale, Gordon Harker, Donald Calthrop, Milton Rosmer ac Ian Hunter yn actio ynddi. Thema’r ffilm yw criw o ddrwgweithredwyr yn ceisio dychryn ceidwad newydd rhyw oleudy dychmygol ym Mhen Llŷn er mwyn iddynt gael rhwydd hynt i achosi llongddrylliad a’i hysbeilio. Yn rhan gyntaf y ffilm y mae’r gŵr sydd wedi ei benodi yn geidwad y goleudy yn cyrraedd gorsaf Tan-y-bwlch, ac yna yn cael pas mewn car i ben ei siwrnai.
Ewch ar y we os hoffech ei gweld i gyd. Cyn i mi droi at y ffilm nesaf, tybed os gall rhai o’r darllenwyr ddweud wrthym beth oedd enw’r bwthyn bach sydd yn y llun hwn. Gyda llaw, safai ychydig y tu allan i’n plwyf, ond dymchwelwyd ef sawl blwyddyn yn ôl, bellach.
Ceir Gwyllt Chwarel y Graig Ddu
Rhyddhawyd ffilm Railway Curiosities o eiddo Pathe News yn y flwyddyn 1935 hefyd, ac ynddi cawn weld gweithwyr Chwarel y Graig Ddu gynt yn dod i lawr Inclên Glan Gors (sef yr un isaf o’r tair inclên) a phob un ar ei gar gwyllt ar wahân i’r rhai sydd wedi cyrraedd y gwaelod.
Fel amryw ohonoch sy’n cymryd diddordeb yn hanes ein chwareli fe wyddoch yn bur dda bod sawl llun a chlipiau ar hen ffilmiau yn dangos y ceir gwyllt o’r cyfnod pan oeddynt yn eu bri. Credaf bod y ffilm hon, fodd bynnag, yn un o’r rhai gorau o’r oll ohonynt, serch bod y sylwebydd yn dweud mai ym Mhorthmadog y maent. Gyda llaw, y mae rhyw bwt ohoni yn cogio bod y dynion yn cael damwain gyda’u ceir tra ar eu ffordd i lawr! Ychydig o hwyl, ynte? Cewch ei gweld am ddim ar y we o dan y teitl uchod ac ar BBC Cymru Fyw.
Un clip o’r ffilm yn dangos y dynion wedi cyrraedd y gwaelod |
O.N. Yn rhifyn Mawrth bu amryfusedd gyda disgrifiad y Trwnc yn Chwarel Oakeley, y ‘Trwnc Mawr’, neu Trwnc K oedd ei enw,wrth gwrs. (Cywirwyd ar y fersiwn ddigidol)
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon