Addasiad o dair erthygl a gyhoeddwyd yn rhifynnau Mawrth ac Ebrill 2024
Yn 2007, fe gychwynwyd y fenter gymunedol newydd yma’n ardal Stiniog, a'r gobaith ar y cychwyn oedd gallu
cyflwyno anturiaethau yn yr awyr agored i’r gymuned leol ac ymhen amser,
fe agorwyd y Ganolfan Lawr Allt a’i llwybrau beicio – bellach, mae hwn
yn fusnes hunan gynhaliol ac wedi llwyfannu nifer o ddigwyddiadau mawr
ym myd y beics mynydd.
Cafodd cwmni Antur Stiniog forgais 10 mlynedd yn ôl i brynu unedau ar y Stryd Fawr yn y Blaenau er mwyn sicrhau’r adeilad i’r gymuned leol. Ar hyd y blynyddoedd, mae’r unedau wedi bod yn gartref i lawer o fusnesau, a hefyd lleoliad eu swyddfeydd. Bellach mae siop pysgod-a-sglodion llwyddiannus ac hefyd Tŷ Coffi Antur a siop flodau yno.
Dyma sydd gan Helen, rheolwraig Tŷ Coffi i'w ddweud:
“Rwyf wedi bod yn gweithio i Antur Stiniog ers 2013 ag yn yr unedau ers i ni agor yn 2014. Mae wedi bod yn bleser datblygu’r unedau dros y blynyddoedd i Dŷ Coffi prysur ag hefyd lleoliad lle mae grwpiau fel Yes Cymru yn cynnal nosweithiau cerddoriaeth. Braf yw hi hefyd cael gweld busnesau pop up fel Burritos Blasus a'r Cwt Blodau yn cychwyn yma".
Bellach, mae degawd wedi pasio ers i’r pryniant yna ddigwydd, ac fe fuodd Aled Hughes a’i raglen foreuol ar Radio Cymru ar ymweliad â’r caffi, sydd rŵan yn dwyn yr enw Tŷ Coffi Antur Stiniog. Un o’r prif bethau y mae rhaglen Aled Hughes yn hoffi taflu goleuni atynt yw storïau o’r “gymuned yn helpu’r gymuned” ac mae’n deg i ddweud fod yr “ysbryd gymunedol yn dal yn fyw yma’n y Blaenau”.
Hanner ffordd drwy’r ddegawd, fe ddaeth yr argyfwng COVID i’n plith, a gyda hi y rheol ddwy fetr rhwng pob bwrdd – felly, er mwyn gallu cadw’r caffi i redeg, roedd yn rhaid ehangu ar draws y ddwy uned, gan gymryd drosodd gan y siop mewn gwirionedd ac felly y mae pethau wedi aros ers hynny, wrth i’r staff deimlo bod naws y caffi ar ei wedd bresennol yn gweithio’n well fel darpariaeth o Hwb Gymunedol.
Dros y blynyddoedd, y mae’r adeilad wedi llwyfannu digwyddiadau gyda’r nos a sawl busnes wedi manteisio ar y cyfle i ddefnyddio’r gofod fel lleoliad pop-up – megis Burritos Blasus Blaenau oedd yn gweithredu o’r caffi yn ystod nosweithiau’r haf; mae’r chef oedd yn gyfrifol am y pop-up bellach wedi cymryd y les ar gaffi’r Ganolfan Lawr Allt yn Llechwedd, sy’n profi pa mor werthfawr y mae’r buddsoddiad yn yr unedau wedi bod yn nyfodol a ffyniant sawl gyrfa o fewn yr ardal. Mae ethos y fenter wastad wedi bod ar “greu swyddi a chreu arian i’r economi leol, fydd yn aros yn yr economi leol” ac mae hynny’n parhau i fod yn wir wrth i’r Tŷ Coffi greu 6 o swyddi ac 20 mewn cyfanswm ar hyd gwmni Antur Stiniog.
Dywedodd Helen wrth Aled ei bod hi:
“wrth ei bodd mod i’n gallu gweithio dau funud i ffwrdd o’n nhŷ, does na ddim angen i mi deithio ffwrdd i weithio a ma hynny’n braf hefyd gan fod fy merch yn yr ysgol sydd rhyw funud neu ddau lawr y ffordd. Ma hi’n brofiad lyfli gallu siarad efo bobl leol drwy dydd a dwi’n gobeithio fod hyn yn gallu ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf drwy ddangos iddynt ei bod hi’n bosib aros yn yr ardal i wneud bywoliaeth.”
Mae hi’n deg dweud y byddai’r ardal dipyn tlotach heb Antur Stiniog ac mae dathlu degawd o’r Tŷ Coffi yn esiampl clir o ba mor bwysig ydynt i’r gymuned leol!
Mae llawer mwy wedi’i gynllunio ar gyfer
2024 a thu hwnt.
- - - -
Datblygiad cyffrous i Antur Stiniog yw bod y gwaith adeiladu yn dechrau ar hen adeilad Aelwyd yr Urdd. Caeodd yr adeilad a’r holl adnoddau ar ôl i’r Urdd golli cyllid i redeg y safle. Mae Antur Stiniog wedi gallu prynu’r aelwyd ac ennill grantiau i atgyweirio’r adeilad i gyd. (Gweler Yr Aelwyd am fwy o wybodaeth). Mae’r cais cynllunio ar gyfer adnewyddu Siop Ephraim a Caffi Bolton wedi ei gymeradwyo a’r cam nesaf fydd mynd allan i dendr.
Os hoffwch gadw llygaid ar ddatblygiadau eiddo cymunedol Antur Stiniog cewch ei’n dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol wrth chwilio am @EiddoAnturStiniog. Byddwn hefyd yn ‘sgwennu darnau i Lafar Bro gyda’r holl ddiweddariadau.
Oes modd adeiladu math newydd a gwahanol o dwristiaeth? Cafodd gweithdy ei gynnal ar y 18fed o Ebrill yn CellB.
Gall twristiaeth chwarae rôl ganolog yn nyfodol ein cymunedau trwy ogledd Cymru. Bu'n gyfle i gwrdd â’n tîm o ymchwilwyr cymunedol a chael gwybod am eu gwaith a’u chanfyddiadau, gan fynd i galon twristiaeth a beth mae o’n golygu i’n cymunedau, ac ydi pethau angen bod yn wahanol?
Mae Tŷ Coffi Antur Stiniog wedi cael cyfnod prysur ers gwyliau’r Pasg, a’r trên bach yn cyrraedd y Blaenau’n amlach erbyn hyn. Braf iawn oedd cael croesawu busnes newydd yn ein gofod i fyny’r grisiau. Mae’r Cwt Blodau yn creu blodau at bob achlysur yn ogystal a gwerthu planhigion tŷ ac anrhegion. Dewch draw am sbec!
Bydd ein siop-bob-dim Eifion Stores yn stocio hadau a chompost aballu wrth inni gamu i’r gwanwyn, yn ogystal â phopeth sydd ei angen ar gyfer DIY yn y tŷ a’r ardd!
Wrth i’r cloc droi a’r tywydd yn gwella mae’r parc beicio lawr-allt yn agored ar ddydd Iau a Dydd Llun rwan yn ogystal a Gwener-Sadwrn-Sul a gobeithiwn gael gwanwyn a haf sych i’ch croesawu ar lwybrau’r Cribau!
Penodwyd dwy aelod newydd o staff -Sioned ac Antonia- yn rhan amser i arwain ar faterion marchnata a’r cyfryngau cymdeithasol i Antur Stiniog. Cofiwch ein dilyn ar eich hoff wefan, boed yn facebook, instagram neu X.
- - - - - - - - -
Cafwyd dathliad yn Nhŷ Coffi Antur Stiniog ar Ddydd Gŵyl Dewi, efo Meinir Gwilym, Catrin O'Neill yn canu a Danielle Clarke yn diddanu ar y delyn.
Lluniau Paul W |
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon