Showing posts with label Gwobrau Selar. Show all posts
Showing posts with label Gwobrau Selar. Show all posts

2.5.24

Cornel Gerddorol- Cyfraniad Arbennig

Ers 2008, mae mis Chwefror wastad wedi golygu un peth o fewn y calendr cerddorol, sef Gwobrau’r Selar. Yn wir, rhwng 2014-2020, cynhaliwyd Noson Wobrwyo’r Selar yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, sef cyfle i ddathlu y flwyddyn a fu yng ngherddoriaeth Cymru ar ffurf gŵyl fechan. 

Bellach, mae ffurf y gwobrau wedi newid, wrth i’r enillwyr gael eu cyhoeddi ar donfeddi Radio Cymru yn ystod wythnos benodol yn mis Chwefror. Ers 2015, mae un gwobr yn cael ei gyflwyno i unigolyn o fewn y sîn sydd wedi gwneud ‘Cyfraniad Arbennig’ ac mae cyn enillwyr y wobr hon yn cynnwys Geraint Jarman, Tecwyn Ifan, Gruff Rhys a’r llynedd, y gyflwynwraig, Lisa Gwilym.

Ar raglen wythnosol Rhys Mwyn, fe ddaeth Gai Toms i mewn i’r stiwdio ym Mangor am sgwrs, ond nid sgwrs arferol mohono, wrth i’r cyflwynydd/archeolegydd adnabyddus gyhoeddi mai Gai fyddai deilydd y Wobr Cyfraniad Arbennig yng Ngwobrau’r Selar. 

Roedd ei ymateb yn un o gryn sioc, gan ddweud “Cyfraniad Arbennig? Dwi’m yn teimlo mod i’n ddigon hen i dderbyn y fath wobr, ond wow....diolch i griw’r Selar am yr anrhydedd” cyn mynd ymlaen i ddiolch i griw Anweledig yn enwedig, gan ddweud “na fyddai o’n nunlla, hebddyn nhw”. Fe orfennodd Gai drwy ddyfynnu llinell o un o glasuron Datblygu, Maes-E (enillwyr cyntaf y wobr hon): “Ma gwobra’, heb y barnu na’r cystadlu ynde...dwi’m yn or-hoff o wobra’, does ‘na neb yn well na’i gilydd rili nagoes. Ond ma cydnabyddiaeth dal yn neis.” 

Yn wahanol i weddill y gwobrau, ble mae’r cyhoedd yn pleidleisio i greu rhestr fer ac yna dewis enillydd – Tîm Golygyddol Y Selar sy’n dewis enillydd y wobr Cyfraniad Arbennig yn flynyddol, ac mae’r enillydd bob amser yn rhywun y mae nhw’n teimlo sydd wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr i gerddoriaeth Gymraeg yng Nghymru a thu hwnt, ac sy’n parhau i wneud hynny.

Mae pawb sy’n nabod Gai yn gwybod pa mor ddiymhongar ydi o – ac felly dydi o ddim yn syndod i ni drigolion ‘Stiniog fod Gai yn ffitio’r meini hynny ac felly’n hollol deilwng o’r wobr hon. Dyweddodd Rhys Mwyn “does na ddim cwestiwn dy fod di’n un o’r artistiaid a chyfansoddwyr yna...mae gen ti’r repetoire sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol” – mae geiriau fel yna gan rhywun fel Rhys Mwyn (sydd mae’n deg i’w alw yn dipyn o awdurdod ar gerddoriaeth o Gymru yn seiliedig ar ei yrfa fo o fewn y maes) yn adrodd cyfrolau o lwyr haeddiant Gai yn fy marn i.

Does dim angen rhestru yr hyn mae Gai Toms wedi ei gyflawni yn gerddorol ers y 90au cynnar, mae pawb o’r ardal hon yn cofio gigs hynod o gofiadwy Anweledig a’r 7 albwm gwych y mae wedi ei ryddhau wedyn unai o dan yr enw Mim Twm Llai neu ers 2008, o dan ei enw ei hun. Mae dawn Gai i greu gweithiau cysyniadol megis Rhwng Y Llygru A’r Glasu (yr albwm gyntaf o dan yr enw Gai Toms a’r albwm Gymraeg gyntaf i ddefnyddio sain llwyth o offerynnau wedi eu creu o sbwriel), Bethel (albwm ddwbl a recordiwyd hen Gapel Bethel, Tanygrisiau a drowyd mewn i stiwdio Gai) neu pwy all anghofio’r albwm a’r daith theatrau epig, Orig – sef albwm yn seiliedig ar fywyd y reslwr enwog, Orig Williams. 

Yn ôl Uwch Olygydd Y Selar, Owain Schiavone, roedd Gai Toms yn ddewis amlwg ar gyfer derbyn y wobr Cyfraniad Arbennig. “O ystyried y criteria bras rydym wedi gosod ar gyfer y wobr hon, does dim amheuaeth fod Gai Toms yn haeddiannol iawn o’r gydnabyddiaeth. Ers dros dri degawd bellach mae Gai yn o gerddorion amlycaf Cymru. Gyda’i ffrindiau gorau, fe ddatblygodd Anweledig, i fod yn fand mwyaf y sin Gymraeg ar ddiwedd y 90au, ond mae’n deg dweud mai ar ôl hynny y daeth gwaith mwyaf arwyddocaol Gai i’r amlwg. Dwi’n grediniol ei fod yn un o ganwyr-gyfansoddwyr pwysicaf ei genhedlaeth yn yr iaith Gymraeg, os nad y pwysicaf oll. Yr hyn sy’n taro rhywun ydy ei ddewrder cerddorol, a’i barodrwydd i arbrofi a mentro. Mae rhai o’i recordiau hir yn arloesol yn y Gymraeg yn enwedig efallai Rhwng y Llygru a’r Glasu ac Orig – does neb wedi creu rhywbeth tebyg i’r rhain yn y Gymraeg. Bydd llawer o’i ganeuon yn glasuron mewn blynyddoedd i ddod, ond mae ei gerddoriaeth yn fwy na dim ond caneuon – mae’n sylwebaeth graff ar wleidyddiaeth, cymuned, hanes, yr amgylchedd a’r byd.”

Llongyfarchiadau mawr i Gai a mawr yw’r diolch am ei gyfraniad i fyd cerddoriaeth Gymreig!
- - - - - - - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2024

 

21.4.17

Y Saer yn Serennu'n y Selar

Erthygl gan Rhydian Morgan ar lwyddiant un o sêr pop y fro.

'Nôl ar Nos Sadwrn 18fed Chwefror, cynhaliwyd un o’r nosweithiau mwyaf yng ngherddoriaeth Cymru sef Gwobrau’r Selar* yn Aberystwyth.  Fe sefydlwyd y cylchgrawn yn ôl yn 2004 a dechreuodd y Gwobrau yn 2008 o fewn cloriau’r cylchgrawn. Gan ein bod ni yn meddu ar sîn gerddorol mor gyfoethog yng Nghymru, fe dyfodd y Gwobrau ac yn 2013, fe benderfynodd Owain Schiavone a’r criw gynnal ‘Noson Wobrwyo’r Selar’ ac mi brofodd hi fod yn noson fythgofiadwy!

Llun- gwefan Y Selar*

Oherwydd hyn, fe dyfodd y noson i  fod yn rhan annatod o’r calendr cerddorol yng Nghymru ac mae hi bellach yn cael ei gosod ar yr un lefel â digwyddiadau eraill fel Gŵyl Rhif 6 a Maes B o ran faint o edrych ymlaen sydd ymysg ffyddloniaid y sîn.

Mae Gwborau’r Selar bellach wedi ymgartrefu yn Undeb y Myfyrwyr, Prifysgol Aberystwyth ac roedd y noson yn llwyddiant ysgubol unwaith eto wrth i dros 1000 o bobl lenwi’r Undeb i ddathlu llwyddiannau’r Sîn Roc Gymraeg dros y flwyddyn diwethaf. Enillwyr mawr y noson oedd y band o ardal Caernarfon, Y Bandana, sydd bellach wedi chwalu ar ôl perfformio am y tro olaf yng Nghaernarfon y llynedd.

Llun- gwefan Y Selar*
Ond, yn bwysicach i ni drigolion ardal Llafar Bro, fe wnaeth y saer coed a’r cyn-bêl-droediwr o Lan Ffestiniog, Yws Gwynedd ennill dwy wobr ar y noson, sef yr ‘Artist Unigol Gorau’ (gan gwblhau’r hat-trick yn y broses) a’r ‘Fideo Cerddoriaeth Gorau’(am yr 2il flwyddyn yn olynol) ar gyfer y gân, Sgrîn – mi oedd hon yn llwyr haeddu’r wobr ac mi fyswn i’n argymell unrhyw un sydd heb weld y fideo eto i chwilio amdano ar YouTube!

Dwi’n nabod Yws ers pan o’n i yn blentyn. Mi ddechreuodd ei yrfa cerddorol ar ddiwedd y 90au mewn band o’r enw Yr Anhygoel gydag Eilir, fy mrawd a dwi’n cofio yn glir hyd heddiw y noson pan gynhaliwyd rhyw fath o lansiad o’i sengl gynta nhw, Parti yn dy ben a minnau’n rhyw 9 mlwydd oed yn gwerthu copiau ar y drws efo Mici Plwm.

Bob tro dwi’n gweld Yws yn perfformio, boed yn  fyw neu ar y teledu, dwi wastad yn llawn balchder am yr hyn y mae o wedi ei gyflawni. Dwi am ddyfynnu llinell o’r hyn a sgwennwyd am y noson wobrwyo yn rhifyn diweddara’r Selar sydd yn profi pa mor boblogaidd ydi Yws, Ifan, Ems a Rich o fewn y Sîn Gymreig:
“Mae artist yn amlwg yn gwneud rhwybeth yn iawn os ydy o’n gallu cael blwyddyn dawel, ond dal ennill dwy wobr Gwobrau’r Selar”
Er y flwyddyn dawel, dwi’n rhagweld y byddwn yn ymweld â hanes y noson yma unwaith eto yr adeg yma flwyddyn nesaf gan fod ail albwm Yws a’r hogia wedi cael ei lansio mewn gig yn Theatr Bryn Terfel, Pontio Bangor ar Ebrill 7fed.

Llongyfachiada Yws a phob lwc ar gyfer yr holl bethau fydd yn digwydd ynghlwm a’r albwm newydd yn 2017.
--------------------------------------------

*Dolen at wefan Y Selar

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2017.
Addaswyd i adlewyrchu'r dyddiadau cyhoeddi.