8.6.20

Cwrdd

Mae’r lle ‘ma’n rhy llwyd,
medda nhw.
Rhy wlyb, rhy lawiog,
rhy ddiflas o lwyd o hyd.
Does dim yma i’w wneud,
medda nhw.
Mor llaith, mor lleidiog,
does unman mwy llwm yn y byd.
Cwrdd â fi ar y copa,
meddaist ti,
ar y darn o dir uwchben y cwmwl,
a gwyliwn y gola’n
chwarae mig efo’r niwl.

Cawn gadw oedfa,
meddaist ti,
gyda’r gwynt yn codi canu
hen emyn o’n cwmpas
wrth i ni gusanu.
Ac yma ar ben ein mynydd
mae’r llwyd yn troi’n lliwgar,
ond dim i ni.
Ac yma yng nharddiad ein hafonydd
mae’r llwm yn troi’n llachar,
ond dim i ni.







Fe sgwennais i’r gerdd hon yn wreiddiol ar gyfer oriel gelf Lisa Eurgain Taylor yn Oriel Môn mis Mawrth. Mae gwaith celf Lisa yn hynod o hardd, ac yn darlunio mynyddoedd Eryri mewn ffordd lliwgar a thrawiadol, ac mae hi’n gwneud i’r tirwedd edrych bron yn arallfydol o dlws. Cyrhaeddodd cais Lisa am gerdd ata i ar yr un pryd a darllenais nifer o sylwadau am Blaenau ar TripAdvisor oedd yn galw’r dref yn llwyd, yn llwm ac yn ddiflas.

Wel, dwi’n gwybod yn iawn bod y llechi yn llwyd wrth gwrs, ond dwi erioed wedi meddwl am ardal Stiniog fel lle llwyd, llwm na diflas yn wir! Pan edrycha i ar y mynyddoedd o gerrig o’n cwmpas, dwi’n eu gweld nhw fel tomenni hudol, sy’n newid bob dydd yn dibynnu ar y tywydd a’r golau.

Erin a Llio a’u partneriaid, Rich a Sam, ar gopa’r Moelwyn Mawr
Dyma fynd ati felly i gyfansoddi cerdd oedd yn gwrthgyferbynnu beth mae rhai twristiaid yn ei weld, a be dwi’n ei weld wrth edrych ar ein llechi.

Dwi’n gweld ein hanes a'n dyfodol. Dwi’n gweld dyddiau braf o haf fy mhlentyndod a nosweithiau hwyr yn y Tap. Dwi’n gweld hen straeon y Mabinogi a gossip am bobl drws nesaf. Dwi'n gweld cerddi Gwyn Thomas a lyrics Anweledig. Dwi’n gweld fy nheulu, fy ffrindiau, a rhai gelynion! Yn fras, dwi’n gweld lot mwy na llechi.

Felly tro nesa mae rhywun yn dweud wrthych chi fod Stiniog yn le llwyd, dywedwch wrthyn nhw mae nhw sy’n llwyd wir, am beidio gallu gweld yr hyd a’r lledrith sy’n bodoli ym mhob cornel o’n ardal ni!

Llio Elain Maddocks

--------------------------------
Ymddangosodd yr uchod yn rhifyn Ebrill 2020.
 
(Mae Llio yn postio cerddi’n rheolaidd ar ei chyfri’ Instagram @llioelain gan gynnwys cyfres am hunan-ynysu. Ewch am sbec i weld ei gwaith.)

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon