Erthygl gan Vivian Parry Williams
Fel darllenwyr papur bro ‘Stiniog a’r cylch, tybed a fyddai gennych unrhyw syniad o pryd y gwelwyd cyfeiriad at y plwy’ yn y wasg am y tro cyntaf? Dyma geisio rhoi ychydig oleuni ar y mater ichi, gan obeithio y byddwch yn mwyhau’r rhifyn digidol hwn o Lafar Bro. Dim ond cip o’r cyfnod cynhara’ sydd yma, cofiwch!
Er bod sôn am Ffestiniog, neu -yn ôl y drefn Seisnig ddyddiau fu- Festiniog, mewn ysgrifen ar sawl dogfen mewn archifdai a’r Llyfrgell Genedlaethol, yn mynd yn ôl ganrifoedd, tybed pa mor gynnar y gellir gweld yr enw mewn print newyddiadurol?
Er mawr syndod, roedd cyfeiriad at y lle mewn papurau newyddion hynafol Lloegr yn bod yn y 18fed ganrif, a'r cyntaf i mi ei weld yw'r un o'r London Gazette 13 Rhagfyr 1785, pryd y cyhoeddwyd y cyntaf o dair hysbyseb am werthiant tiroedd yn y plwyf. Rhan o stâd William Wynne, y Wern, oedd y rhain, un ym meddiant y tenant, Pierce Owen, Ellin Roberts ac Owen Jones. Roedd rhan arall ar werth hefyd, yn nhenantiaeth William Jones ac Owen Pritchard a'i bartneriaid. Ymddangosodd yr hysbyseb ddwywaith wedyn yn y Gazette, yn Chwefror a Mai y flwyddyn ddilynol.
Ond roedd y cyfeiriad nesaf am Ffestiniog yn llawer mwy diddorol, wrth weld yn rhifyn 22 Ionawr 1814 o'r papur restrau o enwau carcharorion yng ngharchardai Prydain yn cael eu harddangos i'r darllenwyr. Yn eu mysg cyfeiriwyd at ddau ddyn o 'Stiniog a oedd yn garcharorion yng ngharchar Dolgellau. William Price, porthmon, o'r Pengwern, a chynt o Garthgwyn, Maentwrog, oedd un ohonynt. Yr ail yn y jêl gyda chysylltiad â'n plwyf oedd y ffermwr Edmund Lloyd, a hwnnw gynt o'r Pengwern hefyd. Ni ddatgelir beth oedd troseddau'r ddau, na gair am hyd eu sentans. Cafwyd nifer fawr o adroddiadau tebyg gyda chyfeiriadau at 'Stiniog ar dudalennau'r Gazette dros y blynyddoedd, gyda llawer ohonynt yn ymwneud â methdaliadau ymysg y brodorion.
Cyfeiriad cynnar arall a welir o enw ein plwyf mewn papur newyddion o'r 19 ganrif yw’r un Saesneg yn y Bristol Mercury, ar 15 Mawrth 1819, oedd yn sôn am ffordd newydd oedd yn cael ei hagor rhwng Dolgellau a Than-y-bwlch. A’r cyfeiriad at Festiniog? Ni fyddai’n rhaid i’r teithiwr ddilyn y ffordd ddrwg, serth o’r Bala yma, (sef dros y Migneint) wedi agor y ffordd newydd meddai’r gohebydd! Hyd nes dyfodiad y newyddiaduron Cymraeg, fel Baner Cymru yn yr 1850au, yn Saesneg y byddai’r cyfeiriadau at ‘Stiniog i gyd.
Cafwyd rhestr o’r crachach oedd â hawl i gael eu henwau ar y Game List, i saethu grugieir a ffesantod, am wn i, yn y North Wales Chronicle ar 18 Medi 1828, ac yn eu mysg un William Simpson, esq, Ffestinog, yn y sillafiad Cymraeg, er syndod. Yn yr un papur, ychydig wythnosau’n ddiweddarach, ar 6 Tachwedd 1828, gwelir y cofnod newyddiadurol cyntaf o lwyth o lechi’n cael eu cario ar long o Gaernarfon i Lerpwl, neu fel dywed yr adroddiad “Festiniog, Jones, for Liverpool”.
Roedd colofnau Genedigaethau, Priodasau a Marwolaethau yn bodoli ar ddechrau’r 19 ganrif, a diddorol oedd ceisio olrhain cofnodion o’r colofnau hynny yn ymwneud â ‘Stiniog. Wrth reswm, dim ond enwau cysylltiadau’r rhai a fedrai fforddio talu am yr wybodaeth yng ngholofnau’r BMD (Births, Marriages & Deaths) a geir yn y dyddiau cynnar hynny. Y briodas gynharaf a welir o’r fro hon yw’r un yn y Liverpool Mercury ar y 5 o Fehefin 1829, am briodas Elizabeth, merch T.Casson, Blaen-y-ddôl, gyda Benjamin Smith o Stafford. Pedair blynedd yn ddiweddarach cawn hanes cyntaf am farwolaeth yn BMD y North Wales Chronicle (NWC) 15 Ionawr 1833. Mae hefyd yn gofnod o haint oedd mor farwol yn y plwyf yr adeg honno, y frech wen. Dyma ddywed y pwt hynod drist hwnnw.
On the 2nd inst, John Pierce, Ffestiniog, and on the 3rd, his son Morris Jones, both of the smallpox, one aged 53, and the other 24.Cofnodir hefyd hanes nifer o farwolaethau eraill, trwy amrywiol ddamweiniau, ac ambell un yn ysgytwol ei naws. “Fatal Mistake” oedd pennawd adroddiad am hanes marwolaeth Eleanor Jones, oedd yn byw yn y Pengwern Arms, yr hon a fu farw trwy gamgymeryd tabledi oedd yn cynnwys arsenic i ladd llygod mawr, yn lle ei thabledi meddygol arferol. Cofnodwyd hynny yn y NWC ar 3 Gorffennaf 1832.
----------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2020
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon